Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Ydi’r X Factor Gennych Chi?
gan Stuart Kerner
Addas ar gyfer CA2
Nod
Meddwl am y doniau sydd gennym ni, wedi’u cael gan Dduw.
Paratoad a deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen paratoi tîm o feirniaid, tebyg i Simon Cowell, Louis Walsh a Sharon Osbourne (fel ar y rhaglen deledu The X Factor). Os yw’r amser a’r awydd gennych chi, fe allech chi ofyn i’ch panelwyr wisgo fel y tri. Ond y peth pwysicaf yw bod eich beirniaid chi yn chwarae’r rôl o fod yr un mor feirniadol â’r tri beirniad ar y rhaglen.
- Fe fydd arnoch chi hefyd angen ‘cystadleuwyr’ i gymryd rhan yn y ‘clyweliadau’. Naill ai, fe allech chi ofyn i rai o aelodau’r staff actio (er mwyn cael tipyn o hwyl), neu fe allech chi drefnu o flaen llaw bod rhai o’r plant hyderus, sy’n dda am ddawnsio neu ganu, yn cymryd rhan. Os ydych chi’n fentrus efallai y gallech chi ofyn am gystadleuwyr byrfyfyr o’r gynulleidfa. Fe fyddai angen i chi egluro i’r plant mai smalio bod yn feirniadol y mae eich panel, a’u sicrhau nad ydyn nhw’n meddwl beth maen nhw’n ei ddweud o ddifri. Beth bynnag, mae gofyn i bawb gadw’i berfformiad yn weddol fyr.
- Fe fyddai’n ddefnyddiol recordio cerddoriaeth y rhaglen, The X Factor, i’w chwarae ar ddechrau’r gwasanaeth, ac o bosib ar y diwedd.
Darlleniad o’r Beibl
Mathew 25.14-30.
Gwasanaeth
- Os yw hynny’n bosib, chwaraewch gerddoriaeth y rhaglen deledu The X Factor fel mae’r plant yn dod i mewn i’r gwasanaeth. Cyflwynwch eich cynulleidfa i’r sioe a chyflwynwch eich beirniaid. Esboniwch fod gennych chi berfformwyr dawnus sy’n meddwl eu bod yn berchen ar yr X-factor.
- Cyflwynwch bob un o’r rhai sy’n perfformio yn eu tro, ac wedi iddyn nhw wneud eu rhan rhowch gyfle i’r ‘beirniaid’ roi eu sylwadau (yn null beirniadol y rhaglen deledu).
- Diolchwch i’r perfformwyr a gofalwch eu bod yn cael cymeradwyaeth haeddiannol.
- Dywedwch eich bod yn siwr fod y rhan fwyaf o’r gynulleidfa wedi gweld y rhaglen ar y teledu. Yn y bôn, cystadleuaeth sydd yma, fel mewn eisteddfod, er mwyn dod o hyd i bobl sydd â dawn i berfformio - pobl sy’n meddu ar y ffactor arbennig honno, yr X Factor, neu’r Waw-Ffactor os mynnwch chi.
- Ond mae’n bwysig cofio nad y perfformwyr sy’n cymryd rhan mewn cystadlaethau fel hyn yw’r unig rai sy’n ddawnus. Mae doniau gan bob un ohonom ni. Mae rhai yn ddawnus mewn chwaraeon neu fabolgampau, eraill yn wych mewn gweithgareddau creadigol, ac mae rhai â dawn naturiol ganddyn nhw i ddifyrru.
- Ond beth wnewch chi os na wyddoch chi pa ddoniau sydd gennych chi? Un ffordd o adnabod ein talentau yw sylwi ar ba bethau y byddwn ni’n mwynhau eu gwneud, ac yn gallu eu gwneud yn dda. Ffordd arall fyddai gofyn i’n ffrindiau agosaf, neu i aelodau ein teulu beth maen nhw’n ei feddwl yw ein cryfderau.
- Y peth gorau i'w wneud yw ceisio gwneud gwahanol bethau yn barhaus, a chofio mai trwy gyfuno dawn a gwaith caled y mae llwyddo. Fe fu’n rhaid i David Beckhams a Britney Spears y byd yma ddarganfod eu sgiliau yn gyntaf, yna’u hymarfer yn gyson.
- Mae rhai pobl yn honni nad ydyn nhw’n dalentog ac nad oes ganddyn nhw unrhyw ddawn. Neu efallai eu bod ofn methu, a dyna pam nad ydyn nhw’n ceisio meddwl pa ddawn sydd ganddyn nhw. Fel y dywedodd Iesu un tro, maen nhw’n cuddio’u goleuni o dan lestr. Ac mae hynny’n drueni oherwydd felly, dydi gweddill y byd ddim yn cael gwerthfawrogi eu cyfraniad. Dywedodd dyn o’r enw Henry Van Dyke rywbeth fel hyn unwaith, ‘Defnyddiwch y doniau sydd gennych chi: fe fyddai’r coedlannau’n llefydd distaw iawn os mai unig adar fyddai’n canu, fyddai’r adar sy’n gallu canu orau.’
- Felly, uwchlaw popeth, rhaid i ni gofio fod ein doniau yn rhai da, dim ond os ydyn nhw’n cael eu harfer, eu meithrin a’u defnyddio, er mwyn gwneud pobl eraill yn hapus.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Y ddawn sydd wedi’i rhoi i ni yw’r goleuni o’n mewn ni. Mae’r hyn fyddwn ni’n ei wneud â’r ddawn honno yn adlewyrchiad o’r goleuni hwnnw. Gwyntyllwch dân eich talent o’ch mewn eich hunan, ac anogwch hyn mewn pobl eraill. Adlewyrchwch y goleuni a rhowch gyfle iddo ddisgleirio.
(J.K. Cooper- addasiad)
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am bobl ddawnus.
Gweddïwn na fyddwn ni’n eiddigeddus ohonyn nhw, ond yn eu gwerthfawrogi.
Gweddïwn os oes doniau gennym ni, ein bod ni’n gwneud ein gorau i’w defnyddio.
Ac, os oes angen ein dawn,
gweddïwn na fyddwn ni’n cuddio ein goleuni.
Amen.
Emyn

