Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
Noson Tân Gwyllt
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Dangos y dylem ni ystyried pobl eraill ar yr adeg swnllyd hon o’r flwyddyn.
Paratoad a deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen OHP/Bwrdd gwyn neu siart troi ar gyfer darllen y gerdd.
- Ysgrifennwch lythyren gyntaf pob llinell ar gardiau A4 fesul un. Ac fel bydd y gerdd yn cael ei hadrodd, fesul llinell, gall y plant godi’r cerdyn priodol ar ddechrau pob llinell, a’u dangos fel y byddan nhw yn y diwedd yn ffurfio’r geiriau ‘N O S O N T A N G W Y LL T ’.
Gwasanaeth
1. Yn ystod mis Tachwedd bydd plant yn llawn cyffro’n dathlu Noson Tân Gwyllt. Mae’n bosib cael hwyl fawr, ond mae tân gwyllt yn gallu bod yn bethau peryglus iawn os nad ydyn nhw’n cael eu defnyddio’n ofalus.
2. Gwrandewch ar y gerdd er mwyn gweld allwch chi ddysgu rhywbeth ohoni.
Noson Tân Gwyllt
(Addasiad o gerdd gan Jan Edmunds)
Noson tân gwyllt, cawn hwyl arbennig,
Os byddwn yn ofalus - mae hynny yn bwysig.
Sefwch yn ôl, rhag cael eich anafu,
Oes eisiau atgoffa pawb am hynny?
Nid pethau i’w trafod yn ddiofal yw’r roced a’r ‘banger’.
Tasg i oedolyn yw eu tanio bob amser.
A pheidiwch ag anghofio am yr anifeiliaid, bob blwyddyn,
Na, dydyn nhw ddim yn hoffi’r clecian, mae’r swn yn eu dychryn -
Gofalwch eu bod yn saff yn y ty, neu yng ngofal rhywun.
Wedyn, mwynhewch y goelcerth a’r arddangosfa o liwiau bendigedig,
Y rocedi gwych, y Rhaeadrau Arian a’r Canhwyllau Rhufeinig.
Lluniwch eich penderfyniad i gadw at y Cod,
Trefnwch bopeth yn iawn, a dylech gael yr hwyl orau erioed.
3. Gallwch godi pynciau trafod o’r gerdd. Sut gallwn ni ofalu nad yw ein hanifeiliaid anwes ddim yn cael eu brawychu? Pam y mae arddangosfeydd tân gwyllt sydd wedi’u trefnu yn well na chael coelcerth a thanio tân gwyllt yn eich gardd gefn? Pam y dylem ni bob amser ofyn i oedolyn danio unrhyw dân gwyllt? Beth yw’r Cod? (Cod Diogelwch)
Os yw amser yn caniatáu, efallai yr hoffech chi adrodd y pennill bach canlynol gyda’r plant. Fe fyddan nhw’n mwynhau’r cyseinedd, swn y geiriau, a gwneud rhywfaint o symudiadau priodol.
Swish, a wi-i-i-, i fyny â hi,
A’r lliwiau yn chwalu, mor llachar, yn llu,
Clecian a chleciau, y naill ar ôl y llall,
Yn tanio a ffrwydro a fflachio’n ddi-ball.
Swish, a wi-i-i-, i fyny â hi,
Miloedd ar filoedd o sêr bach di-ri,
Yn disgyn yn gawod,
Eto ac eto,
Drosodd a throsodd.
Yna, mae’n disgyn -
ac yn diffodd.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Meddyliwch am yr hyn rydych chi wedi’i glywed heddiw.
Fe allwn ni ddal i fwynhau ein hunain, ond fe ddylem ni feddwl am y ffaith ei bod hi’n bosib i rywbeth sy’n rhoi pleser i ni, flino rhywun arall, neu eu dychryn.
Meddyliwch am y bobl rydych chi’n eu hadnabod a allai gael eu blino gan dân gwyllt.
Meddyliwch am anifeiliaid anwes allai gael eu dychryn gan dân gwyllt.
Meddyliwch am gadw eich hun yn ddiogel, lle mae tân gwyllt yn cael eu tanio.
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Cadw ni’n ddiogel a helpa ni i fod yn synhwyrol ac yn ystyriol
ym mhob peth y byddwn ni’n ei wneud.
Helpa ni i gofio mai ein cyfrifoldeb ni yw cadw’n hunain yn ddiogel a gofalu am eraill.
Amen.

