Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Y Drws Du: Ofn Yr Hyn Na Wyddoch Chi
gan Stuart Kerner
Yn ystod cyfnod hir o ryfel cas, oedd wedi parhau am lawer o flynyddoedd, fe ddeallodd ysbïwr ei fod wedi cael ei fradychu. Er gwaetha’i ymdrechion i ddianc yn ôl i’w wlad ei hun, fe gafodd ei ddal a’i ddedfrydu i farwolaeth. Dedfrydwyd ef i’w saethu, yn ôl arferiad y wlad honno.
Wrth iddo gael ei arwain i’r buarth agored, lle byddai’n wynebu ei dynged, sylwodd yr ysbïwr ar y wal oedd ar y chwith iddo. Roedd olion tyllau bwledi drosti. Mae’n amlwg mai dyma’r lle y byddai’n diweddu ei fywyd. Er bod ei ddiwedd mor agos, a’i waed yn dechrau fferru, edrychodd o’i gwmpas ac fe welodd ar yr ochr dde iddo, ddrws mawr du wedi’i addurno’n hardd. Yn sydyn wedyn, fe welodd ddyn mewn iwnifform cadfridog yn cerdded tuag ato.
Er yr olwg bwysig oedd arno, a’r holl fedalau’n disgleirio’n rhes ar ei frest, fe edrychai’r cadfridog yn ddyn dymunol a charedig. Roedd hyn yn rhywbeth annisgwyl i ddyn yn ei safle, a chofio ei bod yn adeg o ryfel hefyd. Edrychodd y cadfridog ym myw llygaid yr ysbïwr a deud wrtho, mewn llais mwyn, fod ganddo ddewis – fe allai naill ai wynebu’r sgwad danio neu fynd trwy’r Drws Du mawr. Cafodd yr ysbïwr ddeg munud i ystyried y peth cyn penderfynu, ac arweiniwyd ef i eistedd yng nghanol y buarth.
Fel roedd amser y dienyddiad yn nesu, gorchmynnodd y cadfridog i’r ysbïwr ddod ato a dweud wrtho beth oedd ei benderfyniad. Ai’r sgwad danio, neu’r Drws Du?’
Doedd hwn ddim yn ddewis hawdd, ac oedodd y carcharor cyn dweud yn y diwedd y byddai’n well ganddo wynebu’r sgwad danio. Ychydig eiliadau wedyn clywyd swn y gynau’n tanio, a gwyddai pawb fod y ddedfryd wedi’i chyflawni.
Syllodd y cadfridog yn ddwys ar y llawr, a chan droi at ei gynorthwyydd fe ddywedodd yn drist, ‘Dyna fel mae hi gyda’r rhan fwyaf o bobl. Mae’n well ganddyn nhw fynd am yr hyn maen nhw’n ei wybod na’r hyn dydyn nhw ddim yn gwybod amdano.’
‘Beth sydd y tu ôl i’r Drws Du?’ holodd y cynorthwyydd.
‘Rhyddid,’ atebodd y cadfridog, ‘ac ychydig iawn o bobl sydd wedi bod yn ddigon dewr i fentro trwyddo i’w rhyddid.’
Ydych chi’n ofni’r hyn na wyddoch chi? Efallai y dylech chi fentro cerdded trwy’r Drws Du ambell dro. Wyddoch chi ddim, fe allai eich arwain i ryddid.

