Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Y Ddau Lew

Roedd hen athro yn dysgu ei ddisgyblion ifanc am fywyd.

Fe ddywedodd wrthyn nhw, ‘Mae brwydr fawr yn digwydd y tu mewn i mi. Mae’n frwydr ofnadwy, sef brwydr rhwng dau lew. Mae un llew yn ddrwg: y llew hwnnw yw ofn, dicter, cenfigen, tristwch, trachwant, balchder, hunan dosturi, cywilydd, casineb, gwendid, anwiredd, yr awydd i ymryson, a’r awydd i dra-arglwyddiaethu ar rywbeth. Mae’r llew arall yn dda: y llew hwnnw yw hapusrwydd, cytgord, cariad, ymddiriedaeth, rhannu, heddwch, gwyleidd-dra, tynerwch, tosturi, cyfeillgarwch, dealltwriaeth, cariad, gwirionedd, caredigrwydd a ffyddlondeb. Mae’r frwydr yma’n digwydd y tu mewn i chithau, a thu mewn i bawb arall hefyd.’

Fe fu’r disgyblion yn ystyried ei eiriau, ac ymhen ychydig gofynnodd un ohonyn nhw i’r athro, ‘Pa lew fydd yn ennill?’

Atebodd yr hen athro’n feddylgar, ‘Yr un y byddwch chi’n ei fwydo orau.’

Pa un o’r ddau lew y tu mewn i chi rydych chi’n ei fwydo orau, ac yn ei wneud yn gryfaf?

 


Gwasanaethau Uwchradd >>