Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Synnwyr Cyffredin

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Meddwl pa mor bwysig yw synnwyr cyffredin.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Gofynnwch i’ch cynulleidfa ydyn nhw’n gallu dweud wrthych chi pa synhwyrau y mae’n rhaid i ni eu defnyddio i yrru car.  Fe ddylech chi gael fel atebion, y tri synnwyr, gweld, clywed, cyffwrdd.
  2. Dywedwch fod un math arall o synnwyr y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio wrth yrru.  Oes unrhyw un yn gallu awgrymu pa synnwyr yw hwnnw?  Efallai y cewch chi atebion amrywiol, ond yr un rydych chi’n ei geisio yw ‘synnwyr cyffredin’.
  3. Tynnwch sylw at y ffaith bod nifer o bobl ar ein ffyrdd heddiw sydd ddim yn defnyddio’r synnwyr yma bob amser, yn anffodus.  Mae damweiniau’n digwydd yn aml oherwydd diffyg synnwyr cyffredin.
  4. Pan fydd pobl wedi cael damwain car, fel rheol fe fydd yn rhaid iddyn nhw lenwi ffurflen neu ysgrifennu adroddiad i’r cwmni yswiriant ynghylch beth ddigwyddodd. Dywedwch wrth y gynulleidfa bod gennych chi nifer o enghreifftiau wedi’u casglu sy’n ddyfyniadau o adroddiadau fel hyn.  Nid rhai dychmygol ydyn nhw, ond cyfieithiadau o adroddiadau go iawn y mae pobl wedi’u hysgrifennu.  Dywedwch y byddech chi’n hoffi eu darllen am eu bod yn dangos bod diffyg synnwyr cyffredin yn ffactor amlwg yma.  (Defnyddiwch y rhai rydych chi’n credu eu bod yn briodol):


    -  ‘Fe ddechreuais i arafu, ond roedd y drafnidiaeth yn fwy llonydd nag a feddyliais.’
    -  ‘Fe dynnais i mewn i’r encilfa a gweld mwg yn dod o dan y foned y car. Sylweddolais fod y car ar dân ac fe afaelais yn fy nghi a’i fygu gyda blanced.’
    -  Cwestiwn: Fyddai un o’r ddau yrrwr wedi gallu gwneud rhywbeth i osgoi’r ddamwain?  Ateb: Teithio ar fws?
    -  ‘Doeddwn i ddim yn meddwl bod y cyfyngiad cyflymder yn weithredol ar ôl hanner nos.’
    -  ‘Ffenestr flaen wedi torri. Ddim yn gwybod yr achos. Voodoo, mae’n debyg.’
    -  ‘Roeddwn i wedi bod yn gyrru ers 40 mlynedd pan syrthiais i gysgu wrth yr olwyn a chael damwain.’
    -  ‘Fe dynnais i allan o ochr y ffordd, edrych ar fy mam yng nghyfraith a gyrru’n syth dros  ymyl yr arglawdd.’
    -  ‘Wrth ddod adref fe wnes i droi mewn i’r ty anghywir a tharo yn erbyn coeden sydd ddim yn perthyn i mi.’
    -  ‘Roeddwn i’n meddwl bod fy ffenestr ar agor, ond fe ffeindiais i doedd hi ddim pan rois i fy mhen drwyddi.’
    -  ‘Fe darodd cerddwr fi a mynd o dan fy nghar.’
    -  ‘Roedd y dyn ym mhob man yng nghanol y ffordd ac fe fu’n rhaid i mi swerfio nifer o weithiau cyn ei daro.’
    -  ‘Roeddwn i wedi bod yn y ganolfan arddio yn prynu planhigion ac roeddwn i ar fy ffordd adref. Pan ddois i at groesffordd fe gododd gwrych o fy mlaen a doeddwn i ddim yn gweld y car arall yn dod.’
    -  ‘Daeth car anweledig o rywle, taro fy nghar i, ac yna diflannu.’
  5. Pwysleisiwch fod hyd yn oed y gorau ohonom yn cael ysbeidiau pan fydd ein hymennydd  ni ddim yn gweithio fel y dylai, ac er bod rhai o’r sylwadau yma’n swnio’n ddigrif, mae ochr ddifrifol iawn iddyn nhw.
  6. Y synnwyr y mae arnom ni i gyd angen ei ddatblygu, uwchlaw popeth arall, yw’r synnwyr cyffredin.

 

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Yr Arglwydd roddodd i ni bump o synhwyrau,

I’n helpu ni trwy bob dydd o’n bywydau.

Gyda’n llygaid byddwn yn gweld pethau gwych wedi’u gwneud,

a chyda’n clustiau byddwn yn clywed beth sy’n cael ei ddweud.

Gyda’n dwylo byddwn yn teimlo arwynebau amrywiol,

a chyda’n trwyn byddwn yn arogli arogleuon sydd, gobeithio, yn ddymunol.

Gyda’n tafod byddwn yn blasu ein bwyd bob pryd,

Ond mae un synnwyr arall rydyn ni ei angen i gyd.

Dydi’r synnwyr hwnnw ddim yn anghyffredin na phrin,

Ac mae’n rhywbeth y gallwch ei gael yn rhad ac am ddim.

Does dim ond angen ystyried a meddwl am dipyn,

Beth yw’r synnwyr hwnnw, ond synnwyr cyffredin?

Gweddi:

Annwyl Dduw,

Rho i ni’r doethineb i arbed i ni fod yn ddifeddwl,

A helpa ni i ymarfer y synnwyr cyffredin yr wyt ti wedi’i roi i ni.

Trwy dy arweiniad gofalus, gwna hi’n bosib i ni ymateb i ofynion pobl eraill

A bod yn sensitif i bethau sydd o’n cwmpas.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>