Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Sain Distawrwydd
gan Stuart Kerner
Penderfynodd pedwar mynach fyfyrio mewn distawrwydd am bythefnos, heb siarad gair â’i gilydd yn ystod yr encil.
Tua diwedd y noson gyntaf, dechreuodd golau’r gannwyll grynu, a diffoddodd.
Dywedodd y mynach cyntaf, 'O, na! Mae’r gannwyll wedi diffodd.'
Dywedodd yr ail fynach, 'Dydyn ni ddim i fod i siarad, wyt ti’n cofio?'
Dywedodd y trydydd mynach, 'Pam bu’n rhaid i chi’ch dau dorri’r distawrwydd?'
Chwarddodd y pedwerydd mynach gan ddweud, 'Ha ha! Wel mewn difri! Fi yw unig un wnaeth ddim siarad.'
Pwy o’r pedwar yn y stori yw’r mwyaf ffôl? Y mynach cyntaf, am dorri’r distawrwydd? Yr ail a’r trydydd, am ddilyn y llall yn ddifeddwl? Neu’r pedwerydd, am feddwl ei fod gymaint yn well na’r tri arall? Ydych chi’n ei chael hi’n anodd cadw’ch addewid pan fydd eich ffrindiau yr un mor annibynadwy?

