Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Rhoi Eraill Yn Gyntaf
gan Stuart Kerner
Flynyddoedd lawer yn ôl, gorchmynnodd brenin fod ras fawr i’w chynnal yn ei wlad, ac y dylai holl athletwyr gorau’r wlad gymryd rhan ynddi. Y wobr fyddai llond bag o aur pur, a fyddai’n cael ei gyflwyno i’r enillydd wrth iddo groesi’r llinell derfyn wrth giatiau’r palas brenhinol.
Y brenin ei hun gychwynnodd y ras, ac yna fe deithiodd yn ei gerbyd at giatiau’r palas i fod yno’n barod i longyfarch yr enillydd. Ond, tua hanner y ffordd ar lwybr y ras, fe welodd y rhedwyr bentwr o gerrig a meini mawr ar draws y ffordd o’u blaenau. Roedd y rhain yn eu rhwystro. Ond er gwaethaf hyn, llwyddodd rhai rhedwyr i ddringo drostyn nhw, ac aeth rhai eraill ymlaen trwy ddod o hyd i lwybr arall heibio iddyn nhw, ac fe gyrhaeddodd y rhedwyr giatiau’r palas yn eu tro.
O’r diwedd yr oedd pawb o’r cystadleuwyr wedi croesi’r llinell derfyn - hynny yw, pawb ond un. Doedd dim golwg ohono, ond doedd y brenin ddim yn fodlon cyhoeddi fod y ras ar ben.
Ym mhen hir a hwyr, fe gyrhaeddodd y rhedwr olaf y giatiau. Cododd ei law gleisiog, friwedig gan ddweud, 'Eich Mawrhydi, mae’n ddrwg gen i fy mod i mor hwyr yn cyrraedd yn ôl. Ond roedd pentwr mawr o gerrig ar draws llwybr y ras ac fe gymerodd gryn amser i’w clirio. Dyna sut y gwnes i anafu fy llaw. Yna, fe gododd ei law arall, ac yn honno oedd bag. Ychwanegodd, 'Ond, syr, welwch beth gefais i hyd iddo o dan y pentwr cerrig - y bag yma’n llawn o aur.'
Dywedodd y brenin, 'Fy mab, ti yw’r un sydd wedi ennill y ras, am mai ti yw’r un sydd wedi gwneud orau. Yr un sydd wedi gwneud orau yw’r un sydd wedi gwneud y ffordd yn ddiogelach i’r rhai sy’n ei ddilyn.'
Y rhedwr gyrhaeddodd y giatiau olaf oedd yr un gafodd y wobr am ei fod wedi cymryd cyfrifoldeb am rywbeth yr oedd angen ei wneud.. Os oes cadair wedi troi drosodd yn eich dosbarth, fyddwch chi’n ei chodi a’i rhoi’n ôl yn ei lle, neu’n ei gadael lle mae hi a cherdded heibio iddi? Os oes damwain yn digwydd, neu os byddwch chi wedi gwneud rhywbeth o’i le, fyddwch chi’n cyfaddef, neu a fyddwch chi’n dweud, 'Nid fy mai i oedd hyn'? Fyddwch chi’n ystyried anghenion pobl eraill o flaen eich anghenion eich hun? Efallai bod helpu eraill yn wobr ynddi ei hun.

