Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Rhannu’r Tân
gan Stuart Kerner
Ymunodd pump o bobl, oedd heb fod yn adnabod ei gilydd, ar gwrs awyr agored oedd yn cael ei gynnal yng nghanol y gaeaf, ar weundir agored, gwyllt. Gobaith pob un oedd y byddai’r profiad o wynebu’r elfennau yn eu gwneud yn gryfach ac yn fwy ffit. Ond am resymau personol gwahanol, roedd pob un ohonyn nhw’n anhapus yng nghwmni gweddill aelodau’r grwp.
Yn anffodus, aeth y pump ar goll yn y niwl ar y gweundir un noson. Doedd ganddyn nhw ddim llawer o bethau gyda nhw i’w cynnal, na ffordd o alw am help. Yr unig beth oedd i’w wneud oedd aros lle’r oedden nhw trwy’r nos a gobeithio’r gorau.
Roedd gan bob un o’r aelodau ddarn bach o bren yn ei fag. Doedd y darn pren ar ben ei hun ddim yn ddigon i wneud tân fyddai’n achub bywyd yr aelod hwnnw. Ond gyda phedwar darn arall o bren, fe fyddai’n bosib gwneud tân eithaf da.
Fel roedd y nos yn mynd yn ei blaen, roedd y tân oedden nhw wedi’i gynnau’n gynharach yn diffodd yn araf, ac roedd angen rhoi rhagor o goed ar y tân i’w gadw ynghyn. Roedd pob un yn cofio am y darn pren oedd ganddo yn ei fag, darn pren allai achub ei fywyd, ond doedd neb yn fodlon cynnig rhoi’r un oedd ganddo ef neu hi, ar y tân.
Meddyliodd y wraig gyntaf, oedd yn wraig o dras fonheddig: pam y dylai hi rannu beth oedd ganddi â’r gwehilion yma?
Ni allai’r ail feddwl am roi’r pren oedd ganddo yntau ar y tân ychwaith. Roedd yn gwybod fod un o aelodau’r grwp yn perthyn i grefydd arall, oedd yn wahanol i’w grefydd ef, ac nid oedd am wneud unrhyw beth fyddai’n helpu rhywun oedd yn elyn iddo, mewn gwirionedd.
Eisteddodd y drydedd yno mewn dillad carpiog. Tynnodd yr hen got oedd ganddi yn dynnach amdani: pam y dylai hi roi’r ychydig oedd ganddi er mwyn y cyfoethog segur?
Dyn cyfoethog oedd y pedwerydd, ac fe eisteddodd hwn yn ôl gan feddwl am yr holl gyfoeth oedd ganddo gartref. Meddyliodd am sut roedd yn bwriadu cadw’r holl bethau roedd wedi’u hennill rhag y bobl gyffredin oedd yn gwario’n ofer: ei bren ef oedd hwnnw yn ei fag, a neb arall. A dyna sut y byddai pethau parhau i fod.
A phumed aelod y grwp anobeithiol yma oedd rhywun fyddai byth yn gwneud dim i neb oni bai ei fod ef ei hun yn elwa o hynny. Yr unig amser y byddai hwn yn rhoi unrhyw beth i unrhyw un oedd pan fyddai’n siwr y cai rywbeth yn ôl. Dyna sut roedd wedi arfer, a dyna sut byddai pethau nawr hefyd. Ac yn ei fag yr arhosodd ei goedyn yntau.
Y bore canlynol, daeth y tîm achub o hyd i’r grwp ar y gweundir - pob un yn gafael yn dynn yn ei fag a’i gynnwys, pob un wedi rhewi’n gorn ac yn farw gelain. Doedd aelodau’r tîm achub ddim yn sylweddoli nad wedi marw oherwydd yr oerni y tu allan yr oedden nhw. Roedd y pump wedi marw oherwydd yr oerni oedd y tu mewn i bob un ohonyn nhw.
Rhaid i ni gofio ein bod ni, fodau dynol, angen rhannu’r tân sydd o’n mewn gyda’r rhai sydd o’n cwmpas, neu fe fyddwn ninnau’n marw o galonnau wedi rhewi.

