Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Pwy Sy’n Pacio’ch Parasiwt?

gan Stuart Kerner

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedd peilot gyda’r llu awyr Prydeinig, sef Group Captain Giles Gantry, wedi cymryd rhan mewn dros hanner cant o gyrchoedd awyr dros dir y gelyn yn ei Lancaster Bomber. Roedd hynny cyn y noson honno yn 1944 pan ddifrodwyd ei awyren gan ynnau’r Almaen, a phan fu’n rhaid iddo ef a’i gyd beilot neidio allan ohoni.

Disgynnodd Gantry gyda’i barasiwt yn union i ddwylo’r gelyn a bu am flwyddyn mewn gwersyll carcharorion rhyfel cyn iddo ddianc oddi yno a dychwelyd i Brydain gyda help Fyddin Gêl, sef y French Resistance. Fu Gantry ddim yn hedfan ar ôl hynny er iddo chwarae rhan flaenllaw gyda’r llu awyr tua diwedd adeg y rhyfel.

Ugain mlynedd yn ddiweddarach, roedd Gantry a’i wraig yn eistedd mewn bwyty yn y dref lle roedden nhw’n byw, a daeth dyn at eu bwrdd. Meddyliodd Gantry ei fod yn adnabod ei wyneb ond ni wyddai pwy oedd y dyn.

'Prynhawn da, Syr.’ meddai’r dyn. ‘Maddeuwch i mi am dorri ar eich traws, ond ai Group Captain Gantry ydych chi, fyddai gyda’r Bomber Command?

'Ie’n wir,' meddai Gantry.

‘Ydw i’n iawn i ddweud eich bod chi wedi hedfan dros hanner cant o weithiau dros dir y gelyn cyn i’ch awyren gael ei saethu i lawr?’ holodd y dyn wedyn.

'Yn wir,' atebodd y peilot. 'Ond sut gwyddoch chi hynny?'

'Wel, Syr,’ meddai’r dyn, ‘Mae’n debyg nad ydych chi’n fy nghofio i. Arthur Chambers yw fy enw, a fi oedd yr un wnaeth bacio’ch parasiwt chi'r noson cyn i chi gael eich saethu i lawr. Rwy’n cymryd bod y parasiwt hwnnw wedi gweithio’n iawn, Syr.'

Cododd Gantry ar ei draed gan ysgwyd llaw yn wresog â’r dyn. 'Fe wnaeth yn wir,’ meddai Gantry, ‘neu fyddwn i ddim yma heddiw yn ysgwyd llaw â chi!'

Roedd Gantry yn troi a throsi yn ei wely'r noson honno ac yn meddwl am y dyn roedd wedi’i gyfarfod. Meddyliodd tybed sawl gwaith roedd wedi mynd heibio iddo'r adeg honno heb hyd yn oed ddweud, Sut rydych chi heddiw? na Bore da, na dim. Wedi’r cyfan, roedd ef yn beilot a Chambers yn ddim ond gweithiwr cyffredin yn y llu awyr.

Meddyliodd Gantry am yr holl oriau yr oedd y dyn yma, Chambers, wedi’u treulio yn eistedd wrth fwrdd yn plygu deunydd sidanaidd pob parasiwt yn ofalus, gan ddal yn ei ddwylo bob tro, dynged rhywun nad oedd hyd yn oed yn ei adnabod.

'Pwy sy’n pacio’ch parasiwt chi?'

Mae rhywun yn rhywle wedi darparu pethau ar gyfer pob un ohonom, pethau sydd arnom ni eu hangen i’n cynnal bob dydd.

Weithiau ym mhrysurdeb y dydd, fe fyddwn ni’n anghofio am y pethau sy’n wirioneddol bwysig.

Efallai y byddwn ni’n anghofio dweud helo, neu’n anghofio llongyfarch rhywun ar eu llwyddiant. Weithiau’n anghofio canmol, neu’n anghofio gwneud rhywbeth cyfeillgar heb orfod cael rheswm. Dywedwch diolch wrth eich rhieni a’r rhai sy’n gofalu amdanoch chi, eich athrawon ac aelodau eraill o staff yr ysgol.

Yn ystod yr wythnos, y mis, a’r flwyddyn yma, ceisiwch adnabod y bobl hynny sy’n pacio’ch parasiwt.

 


Gwasanaethau Uwchradd >>