Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Posau Jig-So

gan Annaliese Renda

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Meddwl am yr angen i gael cynllun mewn bywyd, am wynebu siomedigaeth a chydweithio.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth         

  1. Dechreuwch trwy ofyn a oes rhywun yn hoffi gwneud posau jig-so. Dewiswch dri gwirfoddolwr a gofynnwch iddyn nhw wneud y posau jig-so. (Peidiwch â dweud wrthyn nhw mai dim ond dau o’r posau sydd â’r lluniau gyda nhw, a bod un â darnau iddo ar goll.)
  2. Mae’n debyg y bydd y gwirfoddolwyr sydd â’r lluniau i’w helpu yn gorffen o flaen yr un sydd â phos heb lun. Pan fydd pob un wedi gorffen, diolchwch iddyn nhw a’u hanfon yn ôl i’w lle, gyda chymeradwyaeth gan y gynulleidfa.
  3. Pwysleisiwch y ffaith bod un o’r gwirfoddolwyr dan fwy o anfantais na’r lleill am nad oedd llun ganddo i’w helpu. Doedd y gwirfoddolwr hwnnw ddim hyd yn oed yn gwybod beth oedd y llun oedd ganddo i’w wneud, a doedd y darnau unigol ddim yn golygu llawer ar ben eu hunain.
  4. Mae bywyd yn debyg iawn i hynny: mae angen i chi gael cynllun – mae angen i chi fod â syniad beth rydych chi’n amcanu ato yn y dyfodol.
  5. Ond roedd rhywfaint o anhawster gydag un o’r posau eraill hefyd. Roedd un o’r darnau ar goll. Mae hyn hefyd yn rhywbeth sy’n gallu peri diflastod, pan fyddwch chi wedi treulio amser yn ceisio cael y darlun yn gyfan ond dydych chi ddim yn cael y boddhad o’i orffen yn iawn.
  6. Eto, mewn bywyd, fe fyddwn ni weithiau’n rhoi ein bryd ar wneud pethau arbennig. Ond yn aml, fe fyddwn ni’n cael ein siomi trwy fod anawsterau annisgwyl yn codi a ninnau’n methu mynd ymlaen a chyflawni’r pethau rheini.
  7. Yn olaf, dangoswch fod pos jig-so sydd wedi’i orffen yn llun cyfan, lle mae pob darn yn ei le, ac yn gweithio gyda’i gilydd i wneud darlun cyflawn.
  8. Mae pob darn yn y jig-so yn hanfodol, ac os oes unrhyw ran ar goll, neu ran wedi’i ddifrodi, mae hyn yn difetha’r darlun cyflawn.  Yn yr un ffordd, mae pob aelod o gymuned yr ysgol yr un mor hanfodol, ac mae unrhyw un sy’n siomi’r lleill yn difetha enw da’r ysgol gyfan.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Fe gawsoch chi eich geni gyda’ch gilydd,

a chyda’ch gilydd y byddwch byth bythoedd.

Fe gewch fod gyda’ch gilydd

pan fydd adenydd gwynion angau yn chwalu’ch dyddiau.

Cewch, fe gewch fod gyda'ch gilydd

hyd yn oed yn yr atgof tawel am Dduw.

Ond gadewch le yn eich agosatrwydd

i awelon y nefoedd ddawnsio rhyngoch.

Carwch eich gilydd, ond peidiwch â chaethiwo’ch cariad.

Gadewch iddo fod yn llanw a thrai rhwng glannau eich eneidiau.

(Addasiad o The Prophet gan Khalil Gibran.)

Gweddi:

Annwyl Dduw,

Trwy dy roddion helaeth, rhoddaist i ni gyfleoedd dirifedi.

Arwain ein bywydau fel y gallwn ni wneud cyfraniad gwerthfawr i’r byd o’n cwmpas.

Rwyt ti wedi creu pob un ohonom ni i fod yn rhan o’r cyfan mwy.

Rydym yn byw mewn undod â’r rhai sydd o’n cwmpas,

A chyda thithau.

Trwy dy enw sanctaidd,

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>