Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Parch!

gan Paul Hess

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Annog a datblygu’r syniad o barch tuag at bobl eraill, yr holl bobl eraill.

Paratoad a deunyddiau

Darlleniad o’r Beibl

Genesis 1.26–31

Gwasanaeth        

  1. Dechreuwch gyda geiriau’r eicon  diwylliannol Ali G – ‘A big up to the [rhowch enw’r ysgol yma] posse.’
  2. Holwch ydyn nhw’n gwybod rhywbeth am Ali G.  Smaliwch eich bod yn hollol anwybodus ynghylch diwylliant poblogaidd, ac yr hoffech chi wybod rhagor am y cymeriad Ali G.
  3. Mae’r cymeriad wedi’i greu gan y comedïwr Sacha Baron Cohen, myfyriwr graddedig o Brifysgol Caergrawnt. 
  4. Wrth gwrs, y gair sy’n disgrifio’r ffenomen Ali G, ac yn wir y mudiad hip hop cyfan, yw ‘Parch!’ Mae’n bosib dadlau mai sail yr holl symudiad yw’r alwad am barch o gyrion cymdeithas Americanaidd sy’n dlawd ac ar yr ymylon.
  5. Mae parch ar yr agenda gwleidyddol yn ein gwlad ni’r dyddiau yma - gyda Tony Blair wedi addo ceisio dod â pharch yn ôl i’r gymdeithas ym Mhrydain.  Yn wir, mae un o weinidogion y cabinet yn goruchwylio’r agenda yma. 
  6. Gadewch i mi adrodd stori sy’n ymwneud â ‘pharch’:

    Mae’r stori am ddyn o’r enw Trevor Huddlestone, oedd yn esgob enwog.  Sais oedd Trevor Huddlestone, oedd yn gweithio yn Sophiatown yn Ne Affrica yn yr 1940au.  Dyma adeg pan oedd pobl dduon yn Ne Affrica yn cael eu gorthrymu ym mhob ffordd bosib.

    Fel roedd yr Esgob Trevor yn cerdded ar hyd y stryd yno un diwrnod, yn ffigwr amlwg yn ei wisg ddu, laes, fe welodd wraig gyffredin, dlawd, ddu ei chroen yn cerdded i’w gyfarfod gyda’i mab eiddil.  Wedi iddi ddod yn agos ato, fe wnaeth Trevor Huddlestone rywbeth rhyfeddol, rhywbeth chwyldroadol yn wir - fe gododd ei het iddi’n foneddigaidd, a dweud ‘Bore da’ wrthi!

    Doedd y wraig, na’i mab, ddim yn credu’r peth.  Dyma ddyn o awdurdod nodedig - dyn gwyn, a oedd yn glerigwr - yn codi ei het i wraig oedd yn gwneud dim byd gwell na glanhau tai pobl. 

    Mab y wraig honno oedd Desmond Tutu,  a ddaeth wedyn yn esgob ei hun, ac yn un o’r ymgyrchwyr mwyaf a welodd y byd erioed er cyfiawnder a hawliau dynol.  Wnaeth Desmond Tutu byth anghofio’r parch ddangosodd Trevor Huddlestone i’w fam y bore hwnnw ar y stryd yn Sophiatown – a’r hyn sy’n nodweddu gweinidogaeth Tutu ei hun yw parch tuag at holl blant Duw. 
  7. Nid dim ond yr wrogaeth rydych chi’n ei thalu i bobl mewn awdurdod yw parch - er fyddem ni ddim mor wirion â dangos amarch tuag at y pennaeth er enghraifft!  Mae parch yn ymwneud â chydnabod gwerth anfeidrol pob bod dynol - hyd yn oed y rhai hynny sydd â dim awdurdod drosoch chi.  Parch yw sut rydych chi’n ymddwyn tuag at y plentyn swil yn Blwyddyn 7, er enghraifft, neu tuag at yr un sy’n gweini bwyd i chi yn y ffreutur, neu tuag at rywun digartref rydych chi’n ei basio ar y stryd.
  8. Parch yw cydnabod fod pob bod dynol yn cario, y tu mewn iddo, y Ddelwedd Ddwyfol - cafodd hyn ei amlygu yn stori’r creu ar ddechrau’r Hen Destament yn y Beibl.  (Darllenwch Genesis 1.26–31.) Parch yw bod yn barchus o bob bod dynol. 
  9. Mae’n bosib y gallech chi, ryw dro, feddwl bod rhywun sy’n eistedd yn eich ymyl ychydig yn od.  Ond pe byddech chi’n edrych ar y person hwnnw â llygad ysbrydol, fe fyddech chi’n gweld ei fod ef neu hi, a phawb arall hefyd, yr hyn ydyn nhw mewn gwirionedd – yn ddalwyr y Ddelwedd Ddwyfol. 
  10. Y ddealltwriaeth yma o fodau dynol, a’u bod wedi’u llunio ar ddelwedd Duw, wnaeth siapio bywydau rhai fel Desmond Tutu a Trevor Huddlestone. 

    Gadewch i ni ddilyn eu hesiampl a dangos parch tuag at y greadigaeth gyfan!

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Pa bryd y gwnawn ni ddysgu bod bodau dynol o werth anfeidrol, am eu bod wedi’u creu ar ddelwedd Duw, a’i fod yn gabledd eu trin fel rhywbeth llai na hyn? (Addasiad o ddyfyniad gan yr Esgob Desmond Tutu)

When will we learn that human beings are of infinite value because they have been created in the image of God, and that it is a blasphemy to treat them as if they were less than this?

(Archbishop Desmond Tutu)

Gweddi:

Dduw’r Creawdwr,

Helpa ni bob amser i gofio mai dy greadigaeth di,

a dy blentyn di, yw pob un ohonom,

a rho i ni'r amynedd i drin pawb

gyda’r ystyriaeth y maen nhw’n ei haeddu. 

Er ein bod, ambell dro, ddim yn hoffi rhai pobl,

weithiau am resymau dilys, weithiau am ddim rheswm o gwbl,

helpa ni i gofio y dylem ni eu parchu,

pwy bynnag ydyn nhw.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>