Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

O Dad, Maddau

gan y Parch. Guy Donegan-Cross

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Archwilio maddeuant.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Dangoswch y llun. Eglurwch fod dinas Coventry, ar 14 Tachwedd 1940, wedi’i difrodi’n ddrwg iawn gan fomiau’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Difrodwyd y dref ei hun, a’r Eglwys Gadeiriol. Ond, fore trannoeth, wedi’r bomio dychrynllyd, penderfynwyd y byddai’r Eglwys Gadeiriol yn cael ei hailadeiladu - nid yn gymaint fel arwydd herfeiddiol ond fel arwydd o ffydd a gobaith am y dyfodol.
  2. Yn fuan ar ôl y dinistr, sylwodd saer maen oedd yn gweithio yno, dyn o’r enw Jock Forbes, fod dau ddarn o bren wedi disgyn o’r to. Roedd y darnau pren wedi llosgi’n ddu, ond oedden nhw wedi disgyn ar ben ei gilydd ar ffurf croes. Fe osododd y saer maen y trawstiau duon fel cofeb yn yr adfeilion, ac yn ddiweddarach cafodd y groes ddu ei rhoi ar allor o rwbel gyda’r geiriau dwys, ‘FATHER FORGIVE’ yn arysgrifenedig ar wal y cysegr.   
  3. Heddiw, mae’r adfeilion yn parhau i fod yno, ochr yn ochr â’r eglwys newydd, ac mae’r groes yn arwydd i’n hatgoffa pa mor bwysig yw maddau. Pam y dylai pobl geisio maddau i’w gilydd - yn enwedig ar adeg o ryfel?
  4. Dywedwch y stori yma:

    Roedd offeiriad, ar un o Ynysoedd y Philipinos, oedd yn cario gydag ef gydwybod euog am bechod yr oedd wedi’i gyflawni nifer o flynyddoedd yn flaenorol. Roedd wedi edifarhau, ond nid oedd yn teimlo ei fod wedi cael maddeuant gan Dduw. Yn ei eglwys, roedd gwraig a oedd yn honni ei bod yn cael gweledigaethau, ac roedd hi’n dweud ei bod yn siarad â Iesu Grist, a Iesu Grist yn siarad â hithau. Ond roedd yr offeiriad yn amheus iawn a oedd y wraig yma’n dweud y gwir. Felly er mwyn ceisio ei phrofi, fe ddywedodd wrthi, ‘Y tro nesaf y byddi di’n siarad â Iesu, rydw i eisiau i ti ofyn iddo pa bechod a gyflawnodd dy offeiriad, flynyddoedd yn ôl, pan oedd yn fyfyriwr yn y Coleg Diwinyddol.’ Cytunodd y wraig. Ymhen ychydig ddyddiau, pan welodd yr offeiriad y wraig wedyn, fe ofynnodd iddi, ‘Wel, fu Crist yn ymweld â thi yn dy freuddwydion?’
        ‘Do,’ atebodd.   
        ‘Wnest ti ofyn iddo pa bechod gyflawnais i, flynyddoedd yn ôl, pan oeddwn i’n fyfyriwr yn y Coleg Diwinyddol?’
        ‘Do.’
        ‘Wel, Beth ddywedodd Iesu?’
        ‘Fe ddywedodd, “Dydw i ddim yn cofio.”’
  5. Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn maddau trwy Iesu Grist. Yn y maddeuant yma, mae gobaith i chi ac i mi, ac i’r byd truenus rydyn ni’n byw ynddo.   

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Treuliwch foment yn meddwl am y groes ddu o’r pren llosgedig. Oes rhywun y dylech chi faddau iddo? Oes arnoch chi angen maddeuant am unrhyw beth rydych chi wedi’i wneud?

Gweddi:

Arglwydd Dduw,
Maddau i mi.
Diolch nad wyt ti’n dal pethau yn fy erbyn i.
Dysga fi i fod yn debycach i ti,
fel y gall y byd fod yn lle gwell.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>