Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
Dechrau Newydd
gan y Parch. Alan M. Barker
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Dathlu tymor yr Ystwyll a dechrau Tymor y Gwanwyn.
Paratoad a deunyddiau
- Mae’r gwasanaeth yma’n cysylltu â “Aros yn Amyneddgar” (mis Rhagfyr). Fe fyddwch chi angen potyn o fylbiau hiasinth (hyacinth) wedi’u plannu yn ystod yr Adfent, ac yn barod i dynnu’r gorchudd oddi arnyn nhw.
- Fe allech chi arddangos y gair YSTWYLL ar yr OHP.
Gwasanaeth
1. Atgoffwch y plant sut roeddech chi wedi plannu’r bylbiau ac wedi’u cadw mewn lle tywyll, heb fod yn rhy gynnes, nes roedd y gwreiddiau wedi dechrau tyfu. Yn awr maen nhw’n cael dod i le cynnes, golau er mwyn iddyn nhw gael tyfu mwy a blodeuo. Dangoswch y potyn a gofyn i un o’r plant dynnu’r gorchudd.
2. Dangoswch y dail sy’n dechrau tyfu, fydd yn troi’n wyrdd unwaith y byddan nhw’n cael golau. Eglurwch y bydd y planhigion, yn fuan iawn, yn tyfu ac yn blodeuo. Meddyliwch gyda’ch gilydd am le cynnes, golau lle bydd pawb yn gallu gweld y blodau’n tyfu. Meddyliwch am y ffaith fod y bylbiau wedi bod ers wythnosau wedi’u cuddio, ond yn awr wedi iddyn nhw gael eu gosod yn y golau yn cael dechrau newydd.
Gwahoddwch y plant i ddychmygu mai un o’r planhigion ydyn nhw. Sut maen nhw’n teimlo? Ydi’r golau yn eu dallu? Ydyn nhw wedi synnu? Ydyn nhw am ymestyn a thyfu ac yn llawn egni?
3. Eglurwch mai’r 6ed o Ionawr yw’r Ystwyll. Eglurwch fod yr Ystwyll yn nodi dechrau newydd ar ôl dathlu’r Nadolig.
Yn ystod y Nadolig mae Cristnogion yn dathlu geni Iesu Grist, wedi’i guddio yn nhywyllwch y stabl. Yn ystod yr Ystwyll maen nhw’n cofio sut y cafodd ei oleuni ei weld gan y doethion fu’n teithio o wlad bell i Fethlehem. (Mae’r stori i’w chael yn Mathew 2. 1-12). Fe welodd y doethion bwysigrwydd geni Iesu Grist, ac roedden nhw’n gwybod ei fod yn golygu dechrau newydd i bawb.
4. Cyfeiriwch at ddechrau’r tymor ysgol. Mae hwn hefyd yn ddechrau newydd. Sut mae pawb yn teimlo? Ydyn nhw wedi synnu bod y gwyliau wedi mynd mor gyflyn? Oes rhywun yn barod i ymestyn a thyfu? Mae’r Ystwyll yn sôn am bethau newydd sydd i’w gweld a dysgu amdanyn nhw. Dywedwch fod y doethion yn ‘ddoeth’ am eu bod eisiau archwilio a dysgu rhagor. Anogwch y plant i wylio’r planhigion yn tyfu. Mae antur tymor newydd yn gyfle i bawb ddechrau o’r dechrau a chanfod eu potensial.
Amser i feddwl
Eglurwch mai un ymateb sy’n cael ei ddefnyddio gan Gristnogion yn ystod yr Ystwyll yw
“Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni!” (wedi’i addasu o Eseia 60.1)
Gwahoddwch bawb i ymateb i bob un o’r brawddegau yma gyda’i gilydd
Mae’n ddiwrnod newydd!
- Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni!
Mae’n flwyddyn newydd!
- Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni!
Mae’n dymor newydd!
- Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni!
Mae’n ddechrau newydd!
- Cod, llewyrcha, oherwydd daeth dy oleuni!
Dywedodd Iesu: “Myfi yw’r goleuni’r byd; ni bydd neb sy’n fy nghanlyn i byth yn rhodio yn y tywyllwch.”
Emyn

