Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

I’r Diwedd Un

gan Stuart Kerner

Safai darlithydd oedrannus o flaen ei ddosbarth o 20 disgybl oedd wedi bod yn astudio cemeg organig,
ac roedd ar fin rhoi eu papur arholiad olaf iddyn nhw.

'Fe hoffwn i ddweud wrthych chi, gymaint o bleser rydw i wedi’i gael y tymor yma yn eich dysgu chi,’ meddai. ‘Rydw i’n gwybod eich bod i gyd wedi gweithio’n galed iawn, ac fe fydd llawer ohonoch chi’n mynd i astudio meddygaeth ar ôl yr haf. Fel na fydd yr un ohonoch chi’n difetha’ch siawns o gael gradd dda, oherwydd eich bod wedi bod yn dathlu’n ormodol braidd yr wythnos yma, fe gaiff pwy bynnag a hoffai gael ei eithrio o’r arholiad olaf yma heddiw, radd B am y cwrs cyfan.'

Roedd y myfyrwyr wrth eu bodd pan glywson nhw hyn, a fesul un, fe wnaethon nhw godi a mynd at y darlithydd gan ddiolch iddo ac arwyddo eu bod yn derbyn ei gynnig. Fel roedd yr olaf i godi yn arwyddo’r rhestr, edrychodd y darlithydd o’i gwmpas ar yr ychydig rai oedd yn dal i eistedd. 'Oes unrhyw un arall?’ holodd. ‘Dyma’ch cyfle olaf.'

Cododd un myfyriwr arall, gan fanteisio ar y cynnig, ac wedi iddo arwyddo aeth yntau allan o’r ystafell.

Caeodd y darlithydd ddrws y dosbarth ac ysgrifennu enwau’r rhai oedd ar ôl ar restr arall. ' Mae’n dda gen i weld eich bod chi i gyd yn credu ynoch chi eich hun.' meddai. 'Rydych chi i gyd yn cael gradd A.'

Weithiau mae’n demtasiwn i wneud y dewis hawddaf yn hytrach na dal ati hyd y diwedd, yn enwedig pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Ar y llaw arall, mae swydd sydd wedi’i gwneud yn dda, a chithau wedi dal ati hyd y diwedd un, yn rhoi llawer mwy o foddhad i chi.

 


Gwasanaethau Uwchradd >>