Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Hunanhyder

gan John Marley

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Dangos sut mae posib lladd hunanhyder unigolyn trwy ddweud pethau cas, a dangos ei bod hi’n bosib adfer hunanhyder trwy garedigrwydd.

Paratoad a deunyddiau


Gwasanaeth

  1. Disgybl 1 yn dod i’r llwyfan gwag, yn cario’r darn papur mawr gyda’r gair ‘hunanhyder’ wedi’i ysgrifennu arno. Mae’r disgybl yn gwenu ac yn codi ei law ar ei ffrindiau. Mae’n dangos y papur a’r gair ‘hunanhyder’ arno i’r gynulleidfa, yn falch.

    Disgybl 1: ‘Helo, _______ (enw) ydw i, a dyma fy hunanhyder.’
  2. Disgybl 2 yn dod i’r llwyfan

    Disgybl 2: ‘Ew! Pwy dorrodd dy wallt di? Y dyn efo’r peiriant torri gwrychoedd?’

    Mae Disgybl 2 yn rhwygo darn o’r faner hunanhyder, yn ei wasgu’n belen ac yn ei daflu i’r fasged. Mae Disgybl 1 yn edrych fel petai wedi cael tipyn o sioc.
  3. Disgybl 3 yn dod i’r llwyfan

    Disgybl 3: ‘Sori, ond dwyt ti ddim yn cael dod i fy mharti i. Mae mam wedi dweud mai dim ond 20 o bobl sy’n cael dod.’

    Mae Disgybl 3 yn rhwygo darn arall o’r faner hunanhyder, yn ei wasgu’n belen ac yn ei daflu i’r fasged. Mae Disgybl 1 yn disgyn ar ei liniau. 
  4. Disgybl 4 yn dod i’r llwyfan

    Disgybl 4: ‘Fydda i ddim yn gallu cerdded adref efo ti o’r ysgol heddiw, rydw i wedi addo i _______ a _______ (enwau) y bydda i’n mynd gyda nhw.’

    Mae Disgybl 4 yn rhwygo’r faner hunanhyder yn ei hanner, yn cymryd un darn, yn gwasgu hwnnw ac yn ei daflu i’r fasged. Mae Disgybl 1 yn eistedd ar y llawr. 
  5. Disgybl 5 yn dod i’r llwyfan

    Disgybl 5: ‘Edrych mor flêr yw dy ddillad di! Oes gan dy fam di ddim haearn smwddio?’

    Mae Disgybl 5 yn cymryd yr hyn sy’n weddill o’r faner, yn gwasgu’r papur ac yn ei daflu i’r fasged. Mae Disgybl 1 yn cyrlio’n belen ac yn dechrau crio.
  6. Mae Disgybl 1 yn dal ati i grio, yn uwch ac yn uwch. Rhowch gyfle iddo greu awyrgylch o anobaith llwyr.
  7. Daw Disgybl yn cario’r llythyren Y i’r llwyfan

    Llythyren Y: ‘Beth sy’n bod? All pethau byth fod mor ddrwg â hynny!’

    Mae Llythyren Y yn sefyll y tu ôl i Disgybl 1, sy’n dal i grio.
  8. Daw Llythyren H i’r llwyfan

    Llythyren H: ‘Helo, fyddet ti’n hoffi cerdded adref o’r ysgol efo fi heddiw?’

    Mae Llythyren E yn sefyll yn ymyl Llythyren Y, ac mae Disgybl 1 yn tawelu.
  9. Llythrennau N a H(2) yn dod i’r llwyfan

    Llythrennau N a H(2): ‘Rydyn ni’n mynd i gael ‘sleepover’ heno yn ein ty ni, hoffet ti ddod?’

    Llythrennau N a H(2) yn mynd at Y a H i sefyll. Mae Disgybl 1 yn eistedd i fyny ac yn edrych o’i gwmpas.
  10. Llythrennau A, N a U yn dod i’r llwyfan

    Llythrennau A, N a U: ‘Alli di ein helpu ni gyda’n gwaith cartref mathemateg, plîs? Dydyn ni ddim yn deall rhywbeth, ac rwyt ti bob amser yn dda am wneud mathemateg.’

    Mae Llythrennau A, N a U yn sefyll gyda’r lleill y tu ôl i’r disgybl. Mae Disgybl 1 yn sefyll.
  11. Llythrennau E, D a R yn dod i’r llwyfan

    Llythrennau E, D a R: ‘Rydyn ni’n falch iawn dy fod ti’n ffrind i ni.’

    Mae Disgybl 1 yn hapus unwaith eto, ac mae’n ysgwyd llaw â’r llythrennau ac yn eu cofleidio etc.
  12. Mae’r Llythrennau yn sefyll yn rhes, yn y drefn y daethon nhw i mewn:

    Y H N H A N U E D R
  13. Disgybl 1 yn gofyn i’r gynulleidfa: ‘Allwch chi fy helpu i wneud synnwyr o hyn? Allwch chi fy helpu i aildrefnu’r llythrennau i sillafu gair?’
  14. Daw disgyblion eraill ymlaen fesul un i symud y llythrennau. Dim ond un llythyren y mae’n bosib iddyn nhw’i symud ar y tro.
  15. Ar ôl pob un, fe fydd Disgybl 1 yn gofyn: ‘Ydi hwn yn iawn?’ Bydd y gynulleidfa yn ateb, ‘Na’, nes bydd y llythrennau i gyd wedi’u gosod yn eu lle iawn, yn y drefn gywir i sillafu’r gair HUNANHYDER.
  16. Wedi i’r llythrennau ffurfio’r gair, fe fydd Disgybl 1 yn diweddu trwy ddweud:

    ‘Diolch am eich help, fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn heboch chi. Rydw i mor falch fy mod i wedi cael fy hunanhyder yn ôl. Cofiwch wrth i chi siarad â’ch ffrindiau, gofalwch eich bod chi’n rhoi hyder iddyn nhw. Gydag ychydig o hyder, fe allwch chi wneud pob math o bethau.’

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Fe allech chi ofyn i nifer o wirfoddolwyr ddiweddu’r gwasanaeth trwy ddarllen gwahanol rannau o’r gerdd yma.

Bydd hunanhyder yn eich cario chi ymlaen

gan Stuart Kerner (addasiad)

Dydw i ddim yn arbenigwr nac yn hynod o glyfar,
Efallai bod hynny’n bur amlwg i lawer!
Ond mae’r hyn ‘sgen i i’w ddweud yn gwneud tipyn o synnwyr.
Fe hoffwn i sôn wrthych chi am HUNANHYDER.

Pan fyddwch chi’n meddwl eich bod chi a’ch ffrindiau ar wahân,
A phethau’n mynd o’u lle, yn fawr a mân,
Pan fyddwch chi’n meddwl fod popeth yn mynd ar chwâl,
HUNANHYDER ddylai fod eich cân.

Os caniatewch i rywun fel fi siarad â chi yn blaen,
Wyddech chi fod llawer un sydd dan fwy o straen?
Peidiwch â meddwl eich bod chi’n mynd i lawr y draen!
Bydd HUNANHYDER yn eich cario chi ymlaen.

Gweddi:
Dduw Dad,
Weithiau fe fyddwn ni’n teimlo ein bod ni’n cael cam.
Weithiau fe fydd ein ffrindiau yn ein gadael, neu’n ein trin yn annheg.
Weithiau mae’r byd yn mynd yn lle anodd ei oddef.
Rho hyder i ni allu dygymod â’r holl drafferthion a ddaw i’n rhan,
ac yn fwy na dim, gad i ni fod â hyder ynot ti.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>