Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Gwaedd Y Daleks!
gan Stuart Kerner
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Nod
Meddwl am natur drygioni.
Paratoad a deunyddiau
- Efallai yr hoffech chi daflunio llun un o’r Daleks ar y wal. Mae’n bosib cael delweddau ar: http://www.bbc.co.uk/doctorwho/gallery/13gallery/index.shtml
Gwasanaeth
- Dechreuwch trwy ofyn pwy o’ch cynulleidfa sydd wedi bod yn gwylio’r rhaglen Doctor Who ar y teledu yn ddiweddar. Mae’n debyg y bydd nifer fawr yn ymateb yn gadarnhaol. Mae’r gyfres wedi denu 8 miliwn o wylwyr bob nos Sadwrn.
- Wrth gwrs, mae Doctor Who wedi bod o gwmpas ers dechrau’r 1960au, ac mae’n bur debyg bod rhieni rhai sydd yn y gynulleidfa wedi bod yn gwylio’r rhaglenni bryd hynny hefyd, flynyddoedd yn ôl.
- Yn wahanol i raglenni teledu eraill, mae’r prif gymeriad wedi cael ei chwarae gan ddeg o wahanol actorion, Er hynny, mae’r rhaglen wedi parhau'r un mor boblogaidd.
- Mae’n debyg mai’r rheswm am hyn yw’r cysyniadau rhyfeddol sy’n rhan o’r rhaglen: y TARDIS, peiriant sy’n fwy o’r tu mewn nac ar y tu allan, sy’n teithio trwy amser a gofod; a’r TIMELORD, sy’n gallu adfywio’i hun yn gorff hollol newydd ddeuddeg o weithiau; a bydysawd cyfan o ALIENS od, rhai’n dda ac eraill yn hollol ddrwg.
- Y mwyaf anfad o holl elynion y Doctor, wrth gwrs, yw’r DALEKS, hil o fwtanau mewn arfwisg sy’n gweiddi ‘EXTERMINATE!’ cyn difa unrhyw un sy’n digwydd bod yn wahanol iddyn nhw.
- Creadigaeth ddiddorol yw’r Daleks. Nid bodau sydd fymryn yn ddrwg, neu’n ddrygionus ambell waith ydyn nhw. Maen nhw’n gyfan gwbl ddrwg, heb nodwedd dda o unrhyw fath yn perthyn iddyn nhw.
- Nawr, ystyriwch a yw’n bosib i unrhyw un dynol fod mor hollol ddrwg â hyn, mor ofnadwy o ddrwg a heb unrhyw lygedyn o ddaioni yn perthyn iddo o gwbl? Fe allen ni’n hawdd gredu bod llofrudd neu ormeswr yn ddrwg iawn, ond mae unbeniaid mwyaf y byd wedi dangos rhywfaint o emosiwn yng nghwmni rhai pobl.
- Efallai mai oherwydd bod y Daleks mor gwbl wahanol i ni – mor hollol annynol a chreulon - y gallwn ni eu hystyried fel pethau mor ddrwg. Efallai mai dyma ble mae’r ateb. Dim ond pethau di emosiwn wedi’u rhaglennu ar gyfer drygioni all fod yn gyfan gwbl ddrwg.
- Mae’n bosib i fodau dynol fod yn ddrwg, ond mae’n bosib iddyn nhw hefyd newid, waeth pa mor ddrwg ydyn nhw. Mae’n bosib i ni ddatblygu a newid ein ffyrdd. Does neb y tu hwnt i obaith, ac mae pawb yn parhau i fod yn blant i Dduw.
- Os na wnawn ni roi cyfle i rywun, hyd yn oed pan fyddan nhw wedi ein siomi yn y gorffennol, fyddwn ni ddim gwell na’r Daleks – wedi’u rhaglennu i ystyried eraill fel bodau israddol.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
Yn stori’r Creu yn y Beibl, mae’n dweud: ‘ . . . A gwelodd Duw fod hyn yn dda.’ Ond yn y rhan yn llyfr Deuteronomium 30.15, lle mae Moses yn cyfarch Israel, mae’r adnod yn dweud: ‘Edrych, yr wyf am roi’r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni.’ O ble y daeth y drygioni?
‘Mae drygioni yn gallu bod yn dda. Y ffurf isaf o ddaioni ydyw. Os gwnewch chi weithredoedd da, daw hyd yn oed y drygioni yn dda; ond os byddwch chi’n pechu, fe fydd drygioni’n mynd yn ddrygioni llwyr.’ - addasiad o ddyfyniad gan Martin Buber (1878–1965)
Gweddi:
Annwyl Dduw,
Helpa ni i osgoi pob ffurf o ddrygioni,
ac i wrthod y demtasiwn i wneud rhywbeth sydd ddim yn iawn.
Gweddïwn dros yr holl bobl sy’n gwneud drygioni yn y byd.
Gweddïwn y byddan nhw’n newid eu ffordd o fyw
ac yn dysgu parch pobl eraill.
Amen.
Emyn

