Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Gallai Unrhyw Un Fod Wedi Gwneud Hyn

Un tro roedd pedwar o bobl.

Eu henwau oedd Pawb, Rhywun, Neb ac Unrhyw un.

Bob tro y byddai rhyw waith arbennig angen ei wneud, byddai Pawb yn sicr y byddai Rhywun yn gwneud y gwaith.

Fe allai Unrhyw un wneud y gwaith, ond fe fyddai Neb yn ei wneud.

Pan fyddai Neb yn ei wneud, byddai Pawb yn ddig am mai gwaith Pawb oedd hyn.

Roedd Pawb yn meddwl y byddai Rhywun yn gwneud y gwaith, ond sylweddolodd Neb na fyddai Pawb yn ei wneud.

Felly yn y diwedd byddai Pawb yn rhoi bai ar Rywun pan fyddai Neb yn gwneud y peth y byddai Unrhyw wedi gallu ei wneud yn y lle cyntaf.

Pa un o’r rhain ydych chi?

 


Gwasanaethau Uwchradd >>