Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Effaith Glöyn Byw

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Ystyried sut y gall y lleiaf ohonom gael effaith fawr ar y byd o’n cwmpas.

Paratoad a deunyddiau


Gwasanaeth   

  1. Dechreuwch trwy ddweud eich bod yn meddwl am greadur nerthol sy’n gallu creu difrod mawr a niwed enfawr i lawer. Gofynnwch i’ch cynulleidfa ydyn nhw’n gallu dyfalu pa un o greaduriaid y ddaear rydych chi’n meddwl amdano. Mwy na thebyg, fe fyddan nhw’n awgrymu anifail fel siarc, neu lew, neu ryw anifail rheibus arall.
  2. Os  ydych chi wedi gallu paratoi gloÿnnod byw Magic Flyer, agorwch y llyfr i’w gollwn yn rhydd, gan ddweud y bydd hyn efallai yn rhoi cliw i’ch cynulleidfa am ba greadur rydych chi’n meddwl. Gobeithio y bydd rhywun yn cynnig yr ateb rydych chi’n gobeithio’i gael.
  3. Pwysleisiwch fod awgrymu y gallai creadur mor hardd ac ysgafn â glöyn byw achosi difrod a marwolaeth fod yn beth anodd iawn ei gredu. Ond yn ôl damcaniaeth wyddonol o’r enw Effaith Glöyn Byw, neu ‘The Butterfly Effect’, dyna’n union beth allai ddigwydd.
  4. Yn ôl y syniad yma, mae’n bosib i adenydd glöyn byw achosi newid bach, bach yn yr awyrgylch, a allai, yn y pen draw, achosi trowynt mawr. Neu fel arall, i bob pwrpas, rwystro trowynt mawr. Felly, trwy gadwyn o ddigwyddiadau, fe allai glöyn byw sy’n ysgwyd ei adenydd yn Llundain achosi ton llanw yn Japan, ac felly ddifrodi cannoedd o gartrefi ac anafu neu ladd eu preswylwyr.
  5. Efallai bod gennym ni rym tebyg i allu newid digwyddiadau yn ein bywydau ein hunain, ym mywydau pobl eraill, a hyd yn oed newid digwyddiadau yn y byd. Dim gwahaniaeth pa mor fychan a disylw ydym ni - neu rydyn ni’n meddwl ein bod ni - fe allwn ni wneud pethau rhyfeddol, os ymdrechwn ni.
  6. Gofynnwch i’ch cynulleidfa wrando ar y stori yma:

    Un tro mewn gwlad bell, roedd newyn mawr. Roedd y bobl yn ceisio cadw unrhyw fwyd roedden nhw’n gallu dod o hyd iddo, gan ei guddio rhag eu ffrindiau a’u cymdogion hyd yn oed. Un diwrnod daeth masnachwr a’i wagen i’r pentref, i geisio gwerthu ychydig o’i nwyddau, a dechreuodd ofyn cwestiynau oedd yn awgrymu ei fod yn gobeithio cael aros yn y pentref dros nos.

    ‘Does dim i’w fwyta yn yr ardal gyfan,’ meddai’r bobl wrtho. ‘Fe fyddai’n well i ti fynd yn dy flaen i rywle arall.’

    ‘O, peidiwch â phryderu,’ meddai, ‘Mae gen i bopeth rydw i ei angen. Yn wir roeddwn i’n meddwl gwneud tipyn o gawl y gallwn i ei rannu â chi, cawl arbennig iawn.’ Tynnodd grochan mawr oddi ar ei wagen, ei lenwi â dwr a chynnau tân i ferwi’r dwr. Yna, yn seremonïol iawn, fe dynnodd garreg gyffredin yr olwg allan o fag melfed hardd, a’i rhoi yn y crochan.

    Erbyn hyn, ar ôl clywed si bod rhywun yn paratoi rhywbeth i’w fwyta, roedd y rhan fwyaf o’r pentrefwyr wedi dod i ganol y pentref i weld beth oedd yn digwydd yno. Wrth i’r masnachwr arogli’r ‘cawl’ a llyfu ei wefusau fel petai’n methu disgwyl iddo fod yn barod, fe ddechreuodd y pentrefwyr hefyd gredu y byddai eu newyn yn cael ei leddfu am ryw hyd, yn y man.

    ‘O!’ meddai’r masnachwr wrtho’i hun, ond yn ddigon uchel i bawb ei glywed, ‘Rydw i wrth fy modd â chawl carreg, blasus. Wrth gwrs, mae cawl carreg a moron yn well fyth.’

    Daeth un o’r pentrefwyr yn nes ato’n betrusgar, gan edrych o’i gwmpas, a thynnu dau neu dri o foron main o boced ei got. Wrth iddo geisio’u rhoi yn y crochan, heb dynnu gormod o sylw ato’i hun, fe ddywedodd y masnachwr, ‘Ardderchog!  Wyddoch chi be?  Un tro fe gefais i gawl carreg a moron gyda darn bach o gig cyw iâr ynddo. Roedd hwnnw’n ddigon da i frenin!’

    A dyna gigydd y pentref yn dod yn nes, yn araf bach. Roedd ganddo ddarn o gig cyw iâr o dan ei ffedog, ac fe sleifiodd y cigydd y darn cig hwnnw i mewn i’r crochan heb i fawr o neb ei weld. O’r naill beth i’r llall, fe roddwyd ychydig o datws, maip, nionod, a’r peth yma a’r peth arall, yn y crochan. Ac yn y diwedd, roedd yno bryd o gawl blasus, amheuthun, i bawb ei fwynhau. Ceisiodd rhai o’r bobl gynnig arian i’r masnachwr am y garreg arbennig, ond gwrthododd ei gwerthu iddyn nhw. Y diwrnod canlynol aeth ymlaen ar ei daith. Am flynyddoedd lawer ar ôl y diwrnod hwnnw, ymhell wedi i’r newyn ddod i ben, roedd y pentrefwyr yn dal i gofio am y cawl gorau gawson nhw erioed.
  7. Yn union fel yr Effaith Glöyn Byw, fe lwyddodd y masnachwr yn y stori i newid agwedd y bobl, a thrwy hynny newid eu bywydau. Fe wnaeth hynny trwy ddefnyddio un tric bach, ond tric effeithiol iawn. Pa effaith allwch chi ei gael ar bobl eraill heddiw?

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Rywle yn y byd, y mae rhywun yn dal yr allwedd i holl broblemau’r ddynoliaeth.

Efallai mai rhywun ohonom ni, sydd yma heddiw, yw’r rhywun hwnnw.

Mae’r dyfodol yn ein dwylo ni.

Gyda’ch help chi, fe allwn ni greu planed fwy sicr.

Beth allwch chi ei wneud heddiw, yfory, yr wythnos nesaf, mis nesaf, y flwyddyn nesaf?

Ac os ydych chi’n credu nad oes gennych chi ddigon o amser, egni nac adnoddau,

cofiwch am stori’r Cawl Carreg:

Pan fyddwn ni i gyd yn rhoi rhywfaint bach, fe allwn ni gyflawni unrhyw beth.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>