Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Dysgu Trwy Brofiad

gan Stuart Kerner

Roedd Michael yn 21 oed, ac roedd wedi bod yn gweithio ers tua blwyddyn i gwmni rhyngrwyd mawr pan gafodd ei ddyrchafu’n annisgwyl i fod yn rheolwr ardal. Doedd Michael erioed wedi dychmygu y byddai’n cyrraedd safle mor uchel, mor fuan, yn enwedig ac yntau mor ifanc. Felly, fe aeth i weld Mr Magister, Cyfarwyddwr Rheoli’r cwmni cyfan.

'Roeddwn i’n meddwl y gallech chi roi rhywfaint o GYNGOR i mi,' meddai Michael yn wylaidd.

Ni chododd Mr Magister ei ben hyd yn oed, o’i waith. Ei unig ymateb i Michael oedd dau air: ‘Penderfyniadau cywir!'

Roedd y rheolwr ardal ifanc wedi gobeithio cael rhagor na hyn, felly fe ddywedodd, 'Diolch, syr, mae hwnna’n gyngor defnyddiol ac rydw i’n ddiolchgar i chi, ond tybed allech chi fod ychydig yn fanylach? SUT y gallaf fod yn siwr fy mod i’n gwneud y penderfyniadau cywir?'

Un gair oedd ymateb y Cyfarwyddwr y tro hwn, 'Profiad.'

Ychwanegodd Michael, 'Wel, dyna pam rydw i yma. Does gen i ‘mo’r profiad rydw i ei angen. Sut gallaf i GAEL y profiad?'

Heb betruso eiliad atebodd Mr Magister, 'Penderfyniadau ANGHYWIR!'

Dim ond un peth sy’n fwy poenus na dysgu trwy brofiad, a hynny yw peidio â dysgu trwy brofiad. Rydyn ni i gyd yn gwneud camgymeriadau o dro i dro, ond mae’n bwysig dysgu gwersi o’r camgymeriadau rheini!

 


Gwasanaethau Uwchradd >>