Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Cyfrinachau Llwyddiant

gan Joanne Sincock

Addas ar gyfer CA3

Nod

Ystyried sut rydyn ni’n llwyddo yn ein bywydau.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth         

  1. Ydych chi wedi clywed sôn am ‘gyfrinachau llwyddiant’? Fe fydd pobl, yn rhy aml, yn ceisio gwerthu’r ‘cyfrinachau’ yma i chi a hynny am bris uchel iawn!
  2. Ewch i unrhyw siop lyfrau, ac fe gewch chi yno silffoedd ar silffoedd o lyfrau yn cynnig i chi'r allweddi i lwyddiant. Mae llawer o sioeau teledu yn honni eu bod yn gallu rhoi i chi'r holl awgrymiadau neu gyngor sydd ei angen arnoch chi i fod yn llwyddiannus, a hynny dros nos hefyd! Pe baech chi’n teipio ‘the secrets of success’ ar unrhyw beiriant chwilio’r rhyngrwyd, fe gaech chi dros 12 miliwn o ‘hits’.
  3. Heddiw, rydw i am rannu pump o gyfrinachau llwyddiant â chi, a fydda i ddim yn codi unrhyw dâl arnoch chi chwaith am y wybodaeth werthfawr yma!
  4. ‘Cyfrinach’ Rhif 1 - Pobl: Mae delio â phobl yn gallu bod yn beth anodd, ond mae pawb ohonom ni’n gwybod y dylen ni fod yn gwrtais a boneddigaidd.  Rhaid i chi dderbyn y ffaith na allwch chi blesio pawb.  Pan fyddwch chi’n dod ar draws un o’r bobl rheini na allwch chi eu plesio, waeth beth wnewch chi, y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw bod yn gadarn ond yn barchus a chwrtais.  Yn syml iawn, y gyfrinach yw trin pobl yn union fel yr hoffech chi gael eich trin eich hunan!
  5. ‘Cyfrinach’ Rhif 2 – Gwaith Caled: Waeth beth ddywed neb, dydi hi ddim yn hawdd dod yn gyfoethog ‘dros nos’, na phasio arholiadau heb adolygu – dydi pethau felly ddim yn digwydd, byth.  I fod yn llwyddiannus mae angen gweithio, a hynny’n galed.  Dywedodd Thomas Edison, y dyfeisiwr mwyaf llwyddiannus erioed, ‘does dim all gymryd lle gwaith caled’.
  6. ‘Cyfrinach’ Rhif 3 – Ymrwymiad: Gan ehangu ar ‘gyfrinach’ gwaith caled, rhaid i chi ymrwymo i lwyddo. Rhaid i chi fod yn fodlon aberthu a gweithio am oriau hir.  Fydd hyn ddim yn digwydd ‘dros nos’ chwaith ... fe allai gymryd blynyddoedd. Ydych chi’n barod am flynyddoedd o waith caled, rhwystredigaethau, pethau’n mynd yn dda bob yn ail a heb fod cystal, delio â phobl (hawdd ac anodd), cael eich gwrthod, a phopeth arall sy’n rhan o becyn ‘llwyddiant’?
  7. ‘Cyfrinach’ Rhif 4 – Balchder: Byddwch yn falch o’ch gwaith.  Fe fydd eich gwaith yn adlewyrchiad ohonoch chi.  Codwch eich enw da, er mwyn i hynny fod yn sylfaen dda i lwyddiant.  Byddwch yn ffyddlon i chi’ch hun ac i’ch gwaith.
  8. ‘Cyfrinach’ Rhif 5 - Gosod nod: Byddwch yn ymwybodol o’r hyn rydych chi eisiau, a sut rydych chi eisiau ei gael.  Peidiwch â mynd ar eich pen i rywbeth yn ddall heb gynllunio rhywfaint ar eich amcanion a’ch cyflawniad.  Defnyddiwch amcanion tymor byr, llai er mwyn cyrraedd yn y pen draw amcanion tymor hir eithaf eich llwyddiant.  Fe fydd hyn yn cadw trefn ar unrhyw ofnau ynghylch methu.
  9. Wrth gwrs, dydi’r ‘cyfrinachau’ yma yn ddim mwy, mewn gwirionedd, na synnwyr cyffredin a gwaith caled.  Rydyn ni i gyd yn gwybod am y ‘cyfrinachau’. Ond mae’n rhaid i ni eu cymhwyso nhw, a’u defnyddio’n gyson.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Rydych chi wedi ‘methu’ droeon. Efallai dydych chi ddim yn cofio, ond fe wnaethoch chi syrthio y tro cyntaf i chi ddechrau cerdded.  Fe aethoch chi o dan y dwr cyn i chi ddysgu nofio.  Fuoch chi bron â boddi?   Wnaethoch chi daro’r bel y tro cyntaf y gwnaethoch chi swingio’r bat?  Saith gwaith y methodd R.H. Macy, cyn i’w siop fawr yn Efrog Newydd ddechrau llwyddo.  Cafodd y nofelydd John Creasey 753 o lythyrau yn ei wrthod cyn iddo wedyn gyhoeddi 564 o lyfrau.  Peidiwch â gofidio os dydych chi ddim yn llwyddo ar y dechrau.  Gwell i chi ofidio am y cyfle rydych chi’n ei golli wrth i chi beidio rhoi cynnig arni.  Does dim rhaid i chi fod yn arwain o’r tu blaen os ydych chi’n ddigon dewr i ddod yno o’r cefn.

Er mwyn cael bod yn seren, rhaid i chi ddysgu adlewyrchu eich golau eich hun, dilyn eich llwybr eich hun, a pheidio â phoeni am y tywyllwch, gan mai yn y tywyllwch y mae sêr yn disgleirio ar eu gorau.

Gweddi:

Bydded i’r ffordd godi i gwrdd â chi;   

Bydded i’r gwynt fod y tu cefn i chi;    

Bydded i’r haul ddisgleirio’n gynnes ar eich wyneb;   

Bydded i’r glaw ddisgyn yn ysgafn ar eich meysydd.  

A nes y byddwn yn cwrdd unwaith eto, bydded i Dduw eich dal ar gledr ei law.  

Amen.

Emyn


Gwasanaethau Uwchradd >>