Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Cyfrif Eich Bendithion (Cynhaeaf)
gan Annaliese Renda
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Ystyried y pethau mewn bywyd y gallem ni yn hawdd eu cymryd yn ganiataol.
Paratoad a deunyddiau
- Gosodwch ddau fwrdd ar wahân, gyda’r pethau canlynol arnyn nhw:
- Dylai Bwrdd 1 fod ag eitemau cyffredin arno, fel dwr, blawd, llyfr, pêl droed, bocs cymorth cyntaf efallai, ac unrhyw eitemau eraill rydych chi’n eu hystyried yn bethau ‘sylfaenol’.
- Dylai Bwrdd 2 fod ag eitemau mwy moethus arno, fel gêm gyfrifiadur, gliniadur (os oes un wrth law), creision, rhyw fath o ddiod swigod ac unrhyw bethau eraill rydych chi’n eu hystyried yn ‘nwyddau moeth’.
Gwasanaeth
- Cyfarchwch eich cynulleidfa a gofynnwch i rywun ddod i’ch helpu.
- Gofynnwch iddo ef neu hi ddod atoch chi ac edrych ar yr eitemau sydd ar y byrddau. Dechreuwch trwy ofyn pa fwrdd fyddai’r disgybl yn ei ystyried yn fwrdd pethau moethus (disgwyliwch iddo/ iddi ddewis Bwrdd 2).
- Holwch eto, faint gwell neu faint gwaeth fyddai bywyd eich gwirfoddolwr heb yr eitemau moethus yma. Holwch hefyd pam y mae yn ystyried yr eitemau yma’n bethau moethus, o’u cymharu â’r pethau sydd ar y bwrdd arall.
- Gofynnwch i’r un sy’n eich helpu, ddewis tair eitem o’r nwyddau moeth.
- Yna dywedwch fod yn rhaid iddo neu iddi gael gwared ag un eitem oddi ar Bwrdd 1 am bob un o’r eitemau sy’n cael eu dewis oddi ar Bwrdd 2. Er enghraifft, os yw’n dewis y gêm gyfrifiadur, rhaid iddo/ iddi gael gwared â’r dwr glân. Holwch y disgybl sut y byddai pethau, pe na bai ganddo/ ganddi ddwr glân. (Ceisiwch gael y disgybl i ystyried canlyniadau cael gwared â thri o’r pethau oddi ar Bwrdd 1.)
- Ewch ymlaen i egluro y byddai’r eitemau moethus yma’n hollol ddiwerth i rai pobl y byd (fel y gêm gyfrifiadur, er enghraifft). Ond fe fyddai’r eitemau ar Bwrdd 1 yn cael eu hystyried yn bethau moethus ganddyn nhw, y dwr glân efallai, a’r bêl droed, ac yn enwedig y bocs cymorth cyntaf.
- Atgoffwch eich cynulleidfa o’r ffaith bod rhai pobl mewn gwledydd tlawd yn gorfod cerdded milltiroedd i nôl dwr sy’n ddigon glân iddyn nhw ei yfed. Cymharwch hyn â sut mae pethau arnom ni yn y wlad yma. Dim ond troi’r tap sydd angen i ni ei wneud, neu estyn potel o’r rhewgell, ac mae’r dwr glân yno ar gael i ni.
- Gofynnwch i’r gynulleidfa, pe bydden nhw’n cael dewis, fydden nhw’n cyfnewid unrhyw un o’r eitemau moethus am unrhyw beth ar Bwrdd 1. Y gobaith yw y byddan nhw’n gweld pa mor bwysig yw’r eitemau hynny sydd ar Bwrdd 1 hefyd.
Amser i feddwl
Myfyrdod:
FFAITH:
£1.7 biliwn = yr arian sydd ei angen bob blwyddyn i ddarparu dwr glân i’w yfed i bawb yn y byd.
£4.6 biliwn = yr arian sy’n cael ei wario bob blwyddyn ar ddwr potel.
YSTYRIWCH:
Os gwnaethoch chi ddeffro bore heddiw gyda mwy o ‘iechyd’ nag o ‘salwch’, rydych chi’n fwy lwcus na’r filiwn o bobl wnaiff ddim byw hyd ddiwedd yr wythnos.
Os oes gennych chi fwyd yn y rhewgell, dillad i’w gwisgo, to uwch eich pen, a gwely i gysgu ynddo, rydych chi’n fwy cyfoethog na thri chwarter gweddill pobl y byd.
Os ydych chi ddim erioed wedi cael y profiad o fod yng nghanol peryglon rhyfel a brwydro, nac wedi bod yn unig mewn carchar, nac wedi dioddef bod yn newynu ac yn sychedig, rydych chi ymhell ar y blaen i 500 miliwn o bobl y byd.
Gweddi:
Dad Nefol,
Rydyn ni’n diolch i ti am y rhoddion rydyn ni’n eu cael trwy’r flwyddyn,
pa un ai pâr o esgidiau newydd yw’r rhodd, neu gwpanaid o ddwr glân,
mae pob rhodd yn werthfawr yn ei ffordd arbennig ei hun.
Rho i ni’r doethineb i weld gwerth yn yr holl bethau rwyt ti wedi’u creu.
Amen.

