Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Carreg Y Dyn Doeth

gan Stuart Kerner

Roedd dyn doeth yn teithio dros fynyddoedd tir cysegredig a daeth o hyd i garreg werthfawr mewn nant. Y diwrnod canlynol, daeth teithiwr arall i’w gyfarfod. Roedd y teithiwr hwnnw’n newynog ac fe agorodd y dyn doeth ei fag a rhannu ei fwyd â’r teithiwr.

Pan welodd y teithiwr newynog y garreg werthfawr ym mag y dyn doeth, gofynnodd amdani. Er mawr syndod iddo, fe roddodd y dyn doeth hi iddo heb ddim gwrthwynebiad. Aeth y teithiwr yn ei flaen yn llawen gan fethu credu ei fod wedi cael y fath garreg werthfawr mor ddiffwdan. Fe wyddai y cai arian da amdani ac na fyddai dlawd nac yn newynog eto am weddill ei oes.

Ond ymhen diwrnod neu ddau, synnodd y dyn doeth wrth weld y teithiwr yn dod yn ei ôl, ac yn galw arno. Pan ddaeth ato, fe roddodd y teithiwr y garreg yn ôl iddo. ‘Rydw i wedi bod yn meddwl,’ meddai. ‘Rydw i’n gwybod pa mor werthfawr yw’r garreg yma, ond rydw i eisiau ei rhoi yn ôl i ti yn y gobaith y galli di roi rhywbeth sydd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr i mi. Rho i mi'r hyn sydd gen ti yn dy galon oedd yn caniatáu i ti roi’r garreg yma i mi.’

Rhaid i ni gofio, nid y cyfoeth sydd gennych chi yw’r hyn y mae pobl eraill ei angen, ond yr hyn sydd gennych chi y tu mewn i chi.

 


Gwasanaethau Uwchradd >>