Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Canllawiau Duw I Ni Yn Ein Galaeth

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

Nod

Ystyried pwysigrwydd y Beibl yn ein bywydau bob dydd.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth

  1. Dechreuwch trwy ofyn faint o’r gynulleidfa sydd wedi darllen, neu sy’n gwybod rhywbeth am y llyfr, The Hitchhiker’s Guide to the Galaxy gan Douglas Adams.
  2. Dywedwch y bydd unrhyw un sy’n gyfarwydd â’r llyfr yn gwybod bod, yn y stori, sôn am lyfr bach sydd â’r geiriau ‘PEIDIWCH Â CHYNHYRFU!’ wedi’i ysgrifennu mewn llythrennau mawr pinc ar ei glawr. Mae’r llyfr hwnnw’n dweud popeth wrthych chi y mae arnoch chi angen ei wybod am unrhyw beth Mae’n amhrisiadwy i bawb sy’n teithio trwy’r bydysawd.
  3. Tanlinellwch mor braf y byddai hi pe bai llyfr bach felly’n bod, i roi arweiniad i ni ynghylch problemau bywyd a’r anawsterau sy’n dod i’n rhan o hyd ac o hyd.
  4. Dangoswch i’r gynulleidfa, y Beibl rydych chi wedi’i baratoi gyda’r clawr papur arno, a dywedwch fod gennych chi’r union fath o lyfr. Oedwch am foment i sylwi ar y geiriau sydd ar y clawr, a dywedwch fod y llyfr yma sydd gennych chi fel y llyfr The Hitchhiker’s Guide, yn rhoi cyngor ar sut i ymdopi â bywyd, sut i drin teithwyr eraill ac, uwchlaw popeth, sut i gyfathrebu â bodau sydd ddim yn fodau dynol.
  5. Holwch oes rhywun wedi clywed am y llyfr yma o’r blaen, ac yn gwybod beth yw ei enw.
  6. Tynnwch y clawr papur a’r geiriau ‘PEIDIWCH Â CHYNHYRFU!’ arno gan ddadlennu eich Beibl.
  7. Diweddwch y sgwrs trwy ddweud nad Arweiniad i’r Ffawdheglwr yw’r llyfr sydd gennych chi efallai, nid The Hitchhiker’s Guide to the Galaxy ond Arweiniad gan Dduw, God’s ‘Guide to the Galaxy’ os hoffech chi – arweiniad sy’n llawer cryfach ac yn llawer mwy defnyddiol. Awgrymwch i’ch cynulleidfa y bydden nhw ryw dro efallai, yn hoffi cael golwg ar y llyfr yma drostyn nhw’u hunain.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

‘Y mae dy air yn llusern i’m troed, ac yn oleuni i’m llwybr.’

(Y Beibl, Salm 119, adnod 105.)

Gweddi:

Annwyl Dduw,

Diolchwn i ti am y Beibl,

Trwy hwn fe allwn ni ddod i wybod amdanat ti.

Helpa ni i’w ddarllen yn gyson,

ei astudio’n fanwl,

i ddysgu oddi wrtho o wirfodd,

ac i fyw wrtho yn ffyddlon,

er anrhydedd a gogoniant i dy enw sanctaidd.

Amen.

Emyn


Gwasanaethau Uwchradd >>