Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Byddwch Yn Effro
gan Stuart Kerner
Y flwyddyn 1870 oedd hi. Roedd swydd ar gael yn Swyddfa’r llongau ager yn Southampton. Roedd yn swydd bwysig, sef gweithio gyda system radio’r llongau mawr. Ar ddiwrnod y cyfweliadau, roedd criw maer o ymgeiswyr gobeithiol yn eistedd mewn ystafell aros fechan. Roedd pawb yn sgwrsio â’i gilydd, ac ni chlywodd yr un ohonyn nhw’r neges oedd yn cael ei chyflwyno mewn cod Morse dros yr uchelseinydd.
Daeth ymgeisydd arall i mewn ac eistedd yn dawel ar ben ei hun yn y gornel. Yn sydyn cododd y dyn hwnnw a mynd ar ei union i mewn i’r swyddfa breifat, a phan ddaeth yn ei ôl allan roedd golwg hapus iawn arno.
'Hei!' meddai un o’r ymgeiswyr eraill wrtho, 'Sut cefaist ti fynd i mewn o flaen yr un ohonom ni? Roeddem ni yma o dy flaen? Un ohonom ni ddylai fod wedi cael mynd i mewn yn gyntaf.'
'Mae’n debyg y byddai un ohonoch chi’n sicr o fod wedi cael y swydd,’ meddai, ‘pe byddech chi wedi gwrando ar y neges ddaeth trwy’r uchelseinydd.'
'Pa neges?' holodd pawb mewn syndod.
'Wel y neges cod Morse,' atebodd y dyn. 'Y neges oedd: "Rhaid i’r dyn fydd y gweithio i mi fod ar ei wyliadwriaeth ac yn effro bob amser. Yr un fydd yn derbyn y neges yma, ac yn dod ar ei union i mewn i’r swyddfa breifat, yw’r un fydd yn cael y swydd ar un o fy llongau yn gofalu am y radio."'
Ydych chi ar eich gwyliadwriaeth bob amser, ac yn barod i dderbyn cyfleoedd? Neu a fyddwch chi’n gadael i’ch sylw grwydro at bethau sydd heb fod yn bethau mor bwysig â hynny?

