Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Angylion (Gwyl Fihangel)

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan

Nod

Nodi tymor Gwyl Fihangel, ac ystyried natur angylion.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth        

  1. Chwaraewch y gân ‘Angels’ gan Robbie Williams, wrth i bawb ddod i mewn.
  2. Dechreuwch trwy ddweud y byddech chi wedi synnu’n fawr pe bai’r rhan fwyaf o’r plant yn dweud eu bod heb glywed y gân o’r blaen. Ie, wrth gwrs, y gân yw ‘Angels’ gan Robbie Williams, y gân a achubodd ei yrfa fel canwr unigol yn 1997.
  3. Ewch ymlaen i ddweud fod y gân, yn y flwyddyn 2005, wedi’i dewis yn gân orau’r pum mlynedd ar hugain diwethaf ym Mhrydain, yn y Brit Awards. Hefyd, dyma ffaith arall am y gân neilltuol yma, (sydd efallai yn fwy o ryfeddod). Ym mis Mawrth 2005, pleidleisiodd pobl Prydain mai hon oedd y gân y bydden nhw’n debygol o’i dewis i’w chwarae yn eu hangladd.
  4. Nodwch yma fod angladdau yn gallu bod yn achlysuron trist iawn, iawn (fel y bydd nifer o’r gynulleidfa’n gwybod, os ydyn nhw wedi bod mewn angladd neu wasanaeth coffa yn ddiweddar). Yn aml, fe fydd pobl yn emosiynol iawn mewn angladd, ac yn crio am eu bod wedi colli rhywun annwyl.
  5. Ond, i Gristnogion, nid marwolaeth yw’r diwedd. Mae rhai yn dewis ystyried yr achlysur fel dathliad o fywyd yr un sydd wedi marw. Bryd hynny, fe all yr angladd ymddangos yn debycach i barti.
  6. Holwch pam mae pobl yn meddwl fod y gân ‘Angels’ yn addas ar gyfer ei chwarae mewn angladd. Fe ddylech chi, gobeithio, gael atebion sy’n ymwneud â’r syniad bod rhywun yn gwylio drosom ac yn gofalu amdanom yn ein bywydau o ddydd i ddydd.
  7. Holwch eich cynulleidfa ydyn nhw’n credu a oes y fath bethau ag angylion yn bod ai peidio?  
  8. Dywedwch: ‘Pe byddwn i’n gofyn i chi oes unrhyw un yma sydd wedi gweld angel, rwy’n siwr y byddai rhywun ohonoch chi yn dweud, “do”. Rydyn ni eisiau credu hynny, rydyn ni’n hoffi meddwl bod rhywun yn gofalu amdanom ni, a’n bod ni’n ddiogel yng ngofal rhyw angel gwarcheidiol.’
  9. Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd athronwyr yn dadlau ynghylch faint o angylion fyddai’n gallu dawnsio ar ben pin. Ond, fel y datblygodd y byd, mae gwyddoniaeth wedi dadlennu mwy a mwy i ni, ac mae technoleg wedi rhoi i ni ffyrdd o gyfathrebu, fyddai gan mlynedd yn ôl ddim yn bosib, ond gan angylion. Mae pethau gymaint yn fwy cymhleth erbyn heddiw. 
  10. Felly, ydyn nhw’n bod? Mae’r Beibl yn dweud yn bur bendant eu bod.
  11. Yn yr Hen Destament, mae Jacob yn ymgodymu ag angel (Genesis 32.23–31). Ac mae tri angel yn ymweld ag Abraham, ac yn dweud wrtho ei fod yn mynd i fod yn dad (Genesis 18.1–16). 
  12. Rydym yn gyfarwydd â hanes yr angel Gabriel yn ymweld â Mair i’w hysbysu am enedigaeth Iesu (Luc 1.26). Hefyd, am hanes y ‘côr’ angylion y byddwn ni’n canu amdanyn nhw yn ein carolau Nadolig, yr angylion a ddywedodd wrth y bugeiliaid am eni Iesu (Luc 2.8–14). Ac yna, ar ôl i Iesu atgyfodi, cafodd y gwragedd aeth at y bedd eu cyfarch gan rai tebyg i angylion, sy’n dweud wrthyn nhw nad oedd eu Harglwydd yno (Luc 24.4). 
  13. Ond, wrth gwrs, nid yw pob stori sy’n ymwneud ag angylion yn storïau llawen. Ydych chi’n gyfarwydd â hanes yr angel marwolaeth yn stori Moses?  Yr angel yma, oedd yn cyflawni gorchymyn gan Dduw, fu’n gyfrifol am y degfed pla - sef bod pob plentyn cyntaf anedig yn yr Aifft yn marw (Exodus 11.1–12.36). 
  14. Eglurwch mai’r rheswm pam eich bod yn trafod ‘angylion’ fel hyn, yw mai ar yr adeg yma o’r flwyddyn y mae Cristnogion yn dathlu Gwyl Fihangel, neu Wyl Mihangel a’r Holl Angylion, fel mae’r wyl yn cael ei galw weithiau. 
  15. Caiff Sant Mihangel ei alw’n Dywysog yr Holl Angylion, ac mae’n cael ei ddarlunio yn y Beibl fel archangel yn lladd draig. Fe arweiniodd fyddin Duw yn ystod yr amser yr oedd Lwsiffer yn gwrthryfela, gan anfon Satan allan o Baradwys. Felly roedd Sant Mihangel yn llythrennol wedi ymladd â’r diafol:

    ‘Yna bu rhyfel yn y nef, Mihangel a’i angylion yn rhyfela yn erbyn y ddraig.   Rhyfelodd y ddraig a’i hangylion hithau, ond ni orchfygodd, a bellach nid oedd lle iddynt yn y nef.   Fe’i bwriwyd hi, y ddraig fawr, yr hen sarff, a elwir Diafol a Satan, yr un sy’n twyllo’r holl fyd, fe’i bwriwyd i’r ddaear a’i hangylion gyda hi.’ (Datguddiad 12.7–9).
  16. Yn wreiddiol, angel disgleiriaf Duw oedd Satan.  Ond, oherwydd ei falchder y dechreuodd y frwydr yma. A’r canlyniad oedd i Satan gael ei daflu allan o’r nefoedd ynghyd ag un rhan o dair o’r angylion eraill. 
  17. Oherwydd ei hanes yn ymladd drygioni, cafodd Sant Mihangel ei wneud yn nawdd sant milwyr a swyddogion yr heddlu. Mae hefyd, yn ôl y traddodiad  Cristnogol, yn cael ei gydnabod yn warcheidwad eneidiau’r meirwon, sy’n pwyso a mesur eu gwerthoedd da a drwg yn ei glorian. 
  18. Arferai Gwyl Fihangel fod yn ddyddiad pwysig yn y calendr am ei fod yn ddydd pen tymor, pryd y byddai rhenti’n cael eu talu, offeiriadon yn cael eu sefydlu a swyddogion lleol yn cael eu hethol. Roedd llawer o arferion a thraddodiadau’n cael eu cadw ar y dyddiad yma. Un arferiad fyddai bwyta cig gwydd, i sicrhau blwyddyn i ddod, o gyfoeth a llwyddiant. 
  19. Mae un o’r traddodiadau rhyfeddaf sy’n gysylltiedig â Sant Mihangel a’i Holl Angylion yn ymwneud â sgwrsio. Pan fydd saib o ddistawrwydd lletchwith yn digwydd weithiau mewn sgwrs, efallai pan fydd grwp o bobl yn sgwrsio â’i gilydd, a’r sgwrs yn peidio am foment, fe fydd pobl yn dweud bod angel yn mynd heibio. Y gred yw bod yr angen yn mynd â’r sgwrs i’w chofnodi mewn llyfr yn y nefoedd. Fe fydd y cofnod hwnnw’n cael ei gyflwyno wedyn, ar Ddydd y Farn, fel tystiolaeth naill ai o blaid neu yn erbyn yr un oedd yn siarad.
  20. Byddwch yn ofalus beth rydych chi’n ei ddweud. Wyddoch chi ddim pwy all fod yn gwrando, a phwy allai ddal hynny yn eich erbyn yn ddiweddarach!
  21. Diweddwch trwy ddweud, pa un a ydych chi’n credu mewn angylion ai peidio, fyddech chi ddim gwaeth â dilyn esiampl Sant Mihangel - yn herio’r diafol, yn gwarchod y gwan, ac yn fwy na dim yn bod yn filwr i’r Arglwydd. 

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Angel gydag un adain yn unig yw pob un ohonom, ac ni allwn hedfan ond trwy gofleidio’n gilydd.

(addasiad o ddyfyniad gan Luciano de Crescenzo)

We are each of us angels with only one wing, and we can only fly by embracing one another. 

(Luciano de Crescenzo)

O mor hyfryd fyddai gallu siarad iaith yr angylion, gyda dim un gair yn yr iaith am gasineb, a miliwn o eiriau am gariad!

(addasiad o ddyfyniad gan Eileen Elias Freeman)

How wonderful it must be to speak the language of the angels, with no words for hate and a million words for love!
(Eileen Elias Freeman)

Gweddi:

Annwyl Dduw,
Mewn ffordd ryfeddol, rwyt ti’n cyfeirio gwaith angylion a phobl.
Gad i’r rhai sy’n dy wasanaethu’n barhaus yn y nefoedd
ein cadw ni’n ddiogel rhag niwed ar y ddaear.
Caniatâ hyn trwy ein Harglwydd Iesu Grist, dy Fab,
sy’n byw ac yn teyrnasu gyda thi a’r Ysbryd Glân.

Amen.

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>