Y Wefan Gwasanaethau

Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd

Addysg

gan Stuart Kerner

Addas ar gyfer CA3

Nod

Meddwl am ein hagwedd tuag at ysgol ac addysg.

Darlleniad o’r Beibl

Diarhebion 3.13-18.

Paratoad a deunyddiau

Gwasanaeth         

  1. Bob bore yn ystod y tymor, rydych chi’n cychwyn am yr ysgol.  Efallai fod rhai ohonoch chi’n falch o gael dod i’r ysgol, ac rydych chi’n edrych ymlaen at yr hyn fyddwch chi’n ei wneud yn ystod y dydd.  Ond efallai fod rhai eraill ohonoch chi’n teimlo’r hoffech chi aros gartref yn lle hynny.
  2. Sut bynnag rydych chi’n teimlo am yr ysgol, mae’n rhaid i chi fynd yno, am fod y gyfraith yn dweud fod yn rhaid i chi fynd yno.
  3. Pe byddech chi’n byw gant a hanner o flynyddoedd yn ôl, mae’n debyg y byddech chi wrth eich bodd pe baech chi wedi cael cynnig y cyfle i fynd i’r ysgol i ddysgu.  Ychydig iawn o blant a phobl ifanc oedd yn cael y cyfle hwnnw, bryd hynny.  Yn wir, fe fyddech chi’n gweithio oriau hir a blin mewn ffatrïoedd neu weithfeydd eraill, mwy na thebyg.
  4. Ond, yn 1870, fe basiwyd deddf oedd yn mynnu fod ysgolion yn cael eu darparu ar gyfer addysgu pob plentyn.  Sefydlwyd Byrddau Ysgol i adeiladu’r ysgolion angenrheidiol.  Ers hynny mae ysgolion wedi’u hadeiladu ble bynnag y mae angen rhai.
  5. Ydych chi wedi clywed y dywediad mai dyddiau ysgol yw dyddiau gorau eich bywyd - Shooldays are the happiest days of your life?  Fyddech chi’n cytuno â’r dywediad? (Efallai y gallech chi ofyn i’r plant sy’n cytuno, godi’u dwylo i ddangos hynny – mae’n bosib na fydd llawer yn gwneud hynny!)
  6. I’r rhai ohonoch chi sy’n anghytuno, efallai y gallech chi fod â diddordeb mewn clywed fod actor o’r enw Robert Morley wedi ymateb i’r dywediad yma trwy ddweud, ‘Dangoswch i mi ddyn sydd wedi mwynhau ei ddyddiau ysgol, ac fe ddangosaf innau i chi fwli a rhywun diflas iawn!’
  7. Mwy na thebyg fod pwy bynnag ddisgrifiodd ddyddiau ysgol fel dyddiau gorau bywyd, yn oedolyn!  Yn achos llawer o bobl ifanc, fe fyddai’r syniad nad yw bywyd yn mynd i wella dim mwy na hyn yn achos pryder mawr, o bosib!  Fe ddywedodd Paul Merton yn chwareus ar y rhaglen deledu Have I Got News For You, ‘O ie, fy nyddiau ysgol i oedd rhai hapusaf fy mywyd - felly, fe allwch chi ddychmygu pa mor ddiflas a dychrynllyd y mae fy mywyd wedi bod yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwethaf yma.’
  8. Ond, a yw bywyd ysgol mor ddrwg â hynny mewn gwirionedd?  Mae’n rhaid bod rhai agweddau positif ar eich bywyd yn yr ysgol.
  9. Fe fydd yr atgofion fydd gennych chi am yr hwyl gawsoch chi, y cyfeillgarwch, y gwrthdaro, a’r ofnau, y ffasiwn, ac efallai’r cariad cyntaf, gyda chi am byth.  Ymhen blynyddoedd, fe fyddwch chi’n chwerthin wrth gofio am y pethau yma, neu efallai y bydd yr atgofion yn dod â deigryn i’ch llygaid chi.
  10. Heddiw, mae mwy o gyfleoedd i ni nag erioed, ond ein cyfrifoldeb ni yw gwneud yn fawr o’r cyfleoedd rheini - i fod yn gydwybodol yn ein gwaith fel y byddwn ni’n dysgu gymaint ag a allwn ni, yn dysgu byw ag eraill, a gwybod pa bryd i gymryd a rhoi, ac ennill i ni’n hunain ddoethineb a dealltwriaeth.
  11. Soniodd un o ysgrifenwyr yr Hen Destament am werth doethineb a dealltwriaeth:

Gwyn ei fyd y dyn a gafodd ddoethineb, a’r un sy’n berchen deall.

Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a’i chynnyrch yn well nag aur.

Y mae’n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.

Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.

Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.

Y mae’n bren bywyd i’r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw’r rhai sy’n glynu wrthi.

Amser i feddwl

Myfyrdod:

Rydw i’n cofio mynd i’r ysgol. Sawl tro y meddyliais i y byddai’n dda gen i pe na fyddai’n rhaid i mi fynd i’r ysgol.  Roedd hynny am nad oeddwn i’n mwynhau fy hun. Ond erbyn hyn,  fe fydda i’n meddwl pa mor dda fyddai gen i pe bawn i’n gallu cael mynd yn ôl i’r ysgol. Nid yn gymaint er mwyn cael gweld fy ffrindiau a chael hwyl, ond am y cyfle i ddarllen llyfrau diddorol a dysgu pethau newydd.

Mewn rhai gwledydd mae pobl ifanc yn dyheu am gael mynd i’r ysgol, ond dydi hi ddim yn bosib iddyn nhw fynd yno.  Rhaid iddyn nhw fynd i weithio er mwyn cael arian i brynu bwyd i gadw’n fyw.

Credwch fi; fe fyddai’n well gennych chithau fynd i’r ysgol hefyd na mynd i weithio felly.  Rwy’n cofio meddwl pan oeddwn i’n ifanc, mai rhywbeth tebyg i fynd i’r ysgol yw mynd i’r gwaith.  Ond wrth i ni dyfu i fyny, fe welais fy mod i’n anghywir. 

Weithiau, mae gen i hiraeth mawr am yr ysgol.

(Ysgrifennwyd gan ferch 30 oed sy’n fam i dri o blant.)

Gweddi:

Annwyl Dduw,

Bendithia ein hysgol, a phawb sy’n dod yma bob dydd.

Bendithia ein hathrawon, a’r bobl sy’n glanhau ein hysgol a’i chadw’n gynnes,

A’r rhai sy’n paratoi ein bwyd, a’i weini.

Gwna ni’n gryf i wynebu unrhyw dasgau sy’n anodd i ni,

Gwna ni’n ffyddlon i’n ffrindiau ac yn barod i faddau i’n gelynion,

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Amen.

Cerddoriaeth

‘Baggy Trousers’ – Madness

‘Schooldays’ – The Kinks

Emyn

 


Gwasanaethau Uwchradd >>