Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Welwch Beth Rydw i Wedi’i Wneud!
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Gwerthfawrogi creadigedd, ynom ni ein hunain, ac mewn pobl eraill, yn ogystal â chreadigedd yr Un â’n creodd ni.
Paratoad a deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen blodyn ffres; rhywbeth yr ydych chi eich hun wedi’i wneud ryw dro yn ystod eich bywyd; llun wedi’i wneud gan blentyn bach; llyfr ysgrifennu; brwsh paent.
- Efallai hefyd yr hoffech chi lwytho i lawr luniau rhai o’r eitemau sy’n cael eu rhestru yn Rhif 1, fel y darlun enwog o flodau’r haul, gan Van Gogh’, ‘Sunflowers’.
Gwasanaeth
- Pwy wnaeth greu:
The Simpsons? (Matt Groening)
Y darlun enwog, ‘Sunflowers’? (Van Gogh)
The Angel of the North? (Anthony Gormley)
Eglwys Gadeiriol Sant Paul yn Llundain? (Sir Christopher Wren)
‘Patience’, ‘Shine’ a ‘Rule the World’? (Take That) (neu efallai yr hoffech chi ddewis tair cân arall os nad yw Take That yn un o hoff fandiau eich myfyrwyr)
Macbeth? (William Shakespeare)
Y fformiwla e=mc2? (Albert Einstein)
Y sgert fini (miniskirt)? (Mary Quant)
Blodyn hardd? (dangoswch y blodyn sydd gennych chi, a sylwch pa fath o ymateb gewch chi).
Y peth yma? (dangoswch yr eitem rydych chi eich hun wedi’i chreu, i gael gweld a wnaiff rhywun ddyfalu mai chi sydd wedi gwneud y peth hwnnw). - Gan roi sylw i’r eitem, sgwrsiwch ymhellach. Er enghraifft, nodwch faint oedd eich oed pan wnaethoch chi’r gwrthrych. Pam y gwnaethoch chi’r peth? Ar gyfer pwy roeddech chi’n ei wneud? Sut roeddech chi’n teimlo pan oeddech chi wedi gorffen ei wneud?
Rydym i gyd wedi gwneud pethau yn ystod ein hoes. Efallai nad yw’r pethau hynny wedi bod yn bethau a ddaeth yn enwog fel darluniau Van Gogh neu ddramâu Shakespeare, ond rydym i gyd wedi gwneud pethau ryw dro yr oeddem yn falch ohonyn nhw. Rydym i gyd yn greadigol yn ein ffordd ein hunain. - Gwrandewch ar y darn hwn sy’n addasiad o waith awdur sy’n sôn am rywbeth y gwnaeth ef ei hun ei greu pan oedd yn blentyn:
Pan oeddwn i’n bump oed, fe aethom fel teulu i Galifornia, i ymweld â fy rhieni-cu, ac aros yno gyda nhw dros y Nadolig. Roedden nhw’n byw mewn bloc o fflatiau gydag ale yn rhedeg yn ymyl y bloc - lle cyffrous i fachgen bach oedd wedi’i fagu ar fferm ym Michigan. Rywbryd wrth grwydro ar hyd yr ale, fe benderfynais lunio anrheg Nadolig i fy nhad allan o fanion bethau y gallwn ni ddod o hyd iddyn nhw yn y fan honno. Felly, ar fore’r pumed ar hugain, fe gafodd fy nhad y fraint o agor anrheg o ddarn o beipen law ddu a gwyrdd wedi’i glynu ar ddarn gwastad o garreg lwyd gyda darnau bach o gerrig gwynion tu mewn i’r darn peipen.
Campwaith, a dweud y lleiaf!
Y rheswm pam rwy’n cofio hyn mor dda yw am fy mod wedi ymweld â fy nhad yn ei swyddfa rai dyddiau’n ôl. Tra roeddwn i’n disgwyl iddo ddod allan o gyfarfod, fe gerddais o gwmpas ei swyddfa gan edrych ar y lluniau oedd ar y waliau yno a’r gwahanol bethau oedd ganddo ar ei silffoedd. A dyna beth oedd ar un o’r silffoedd - y cerflun peipen a cherrig, dri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach.
Mae’n dal i fod ganddo!
Roedd wedi dod â’r peth yma adref gydag ef ac wedi’i roi yn ei swyddfa yn ôl yn 1977, a doedd o byth wedi cael gwared â’r darn yma o waith celf.
Fe wyddom pam y penderfynodd ei gadw. Mae’r ffordd rydym yn trin rhywbeth sydd wedi’i greu, yn adlewyrchu sut rydym ni’n teimlo tuag at yr un sydd wedi’i greu.
(Addasiad o ddyfyniad allan o Sex God gan Rob Bell, Zondervan 2007, tt. 27-8, defnyddiwyd gyda chaniatâd Zondervan) - Mae’r ffordd rydym yn trin rhywbeth sydd wedi’i greu, yn adlewyrchu sut rydym ni’n teimlo tuag at yr un sydd wedi’i greu. Meddyliwch am hyn.
Ydych chi erioed wedi ysgrifennu cerdd i rywun, ac mae hwnnw neu honno wedi gofyn, ‘Ai dyna’r gorau y galli di ei wneud?’ (edrychwch yn y llyfr ysgrifennu a’i daflu o’r neilltu).
Ydych chi erioed wedi cael llun gan frawd neu chwaer fach, ac wedyn wedi ei daflu i’r bin? (edrychwch ar y llun a’i daflu o’r neilltu).
Ydych chi erioed wedi ceisio’ch gorau glas i baentio darlun da, a rhywun wedi dweud wrthych chi ‘Fe fyddai’n well i ti ddal ati gyda dy waith dyddiol’? (smaliwch eich bod yn paentio darlun).
Ydych chi erioed wedi sibrwd wrth rywun sy’n ymarfer canu, ‘Wyt ti’n galw hyn yn ganu?’ - Mae’r ffordd y mae pobl eraill yn trin yr hyn rydyn ni wedi’i wneud yn gallu effeithio arnom ni. Mae’r hyn y mae pobl eraill yn ei ddweud am y pethau y byddwn ni wedi’u gwneud yn bwysig i ni. Yn yr un modd, mae’r ffordd y byddwn ni’n trin pethau y mae pobl eraill wedi’u gwneud, yn effeithio arnyn nhw. Ac mae’r hyn y byddwn ni’n ei ddweud am y pethau y mae pobl eraill wedi’u gwneud, yn bwysig iddyn nhw.
Amser i feddwl
(Daliwch y blodyn i fyny i’w ddangos.)
A phwy a wnaeth y blodyn hardd yma?
Pwy wnaeth y sêr a’r afonydd a’r coed?
Pwy wnaeth y ddaear gyfan a phopeth sydd ynddi ac arni?
Mae llawer o bobl yn credu mai Duw sydd wedi creu’r byd a phopeth sy’n byw ynddo. Mae’n dweud ym mhennod gyntaf llyfr Genesis, ‘Gwelodd Duw y cwbl a wnaeth, ac yr oedd yn dda iawn.’ (adnod 31).
Yn dda iawn? Yn hollol ryfeddol, ddywedwn i! Does neb erioed o fewn hanes wedi dod yn agos at greu yr hyn y mae Duw wedi’i greu!
Gadewch i ni dreulio moment yn meddwl am y pethau hardd sydd yn y byd o’n cwmpas.
A gadewch i ni gofio: Mae’r ffordd y byddwch chi’n trin y greadigaeth yn adlewyrchu sut rydych chi’n teimlo tuag at y crëwr:
dinistrio’r fforestydd glaw …
llygru’r moroedd …
difodiant rhywogaethau anifeiliaid sy’n cael eu hela …
Mae’r ffordd y byddwch chi’n trin y greadigaeth yn adlewyrchu sut rydych chi’n teimlo tuag at y crëwr.
gwydr wedi torri mewn parciau …
sbwriel yn llanast ar y strydoedd …
Graffiti ar waliau …
Mae’r ffordd y byddwch chi’n trin y greadigaeth yn adlewyrchu sut rydych chi’n teimlo tuag at y crëwr.
gwrthod helpu rhai sydd mewn angen …
chwerthin am ben pobl sy’n wahanol i chi …
brifo teimladau pobl oherwydd pethau y byddwch chi’n eu dweud, neu eu gwneud …
Mae’r ffordd y byddwch chi’n trin y greadigaeth yn adlewyrchu sut rydych chi’n teimlo tuag at y crëwr.
Gweddi
O Dduw, y crëwr, rydyn ni’n diolch i ti am bopeth rwyt ti wedi ei greu.
Mae’n ddrwg gennym am beidio â gofalu am dy greadigaeth fel y dylem ni.
Helpa ni i dy helpu di i wneud y byd yn well lle i fyw ynddo.
Amen.

