Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Beth yw Ystyr yr Adfent?
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Nod
Deall beth yw ystyr yr Adfent drwy gysylltu senarios ein byd ni heddiw ag adnodau o naratif y Nadolig cyntaf.
Paratoad a deunyddiau
- Ar gyfer pob llythyren yn y gair ADFENT, mae allweddair, drama fer, cwestiwn ac adnod, gyda phwynt i’w ystyried. Mae’r allweddeiriau a’r adnodau (BCN) ar gael ar ddiwedd y gwasanaeth i’w llwytho i lawr a’u defnyddio ar daflunydd dros ysgwydd.
- Nid oes yn rhaid i chi ddefnyddio’r holl ddeunyddiau sydd ar gael yma. Dewiswch ba adrannau yr ydych chi’n mynd i’w defnyddio gan ddibynnu ar yr amser sydd ar gael, ar y diwrnod ac ar gyfer paratoi ymlaen llaw.
- Mae angen i’r myfyrwyr ymarfer y dramâu byr, a allai gael eu paratoi gyda rhywfaint o ‘brops’, er y gallai myfyrwyr ddefnyddio eu dychymyg gyda’r gwisgoedd os ydyn nhw’n cael digon o amser!
- Gellid gwahodd atebion i’r cwestiynau, os yw amser yn caniatáu.
Gwasanaeth
Yng ngolwg y rhan fwyaf o bobl, mae Adfent yn golygu agor ffenestr ar galendr a bwyta siocled bob dydd. Efallai y bydd rhai pobl sy’n mynychu eglwys neu gapel yn cysylltu’r Adfent â goleuo cannwyll arbennig bob Sul tan y Nadolig. Ond beth yw ystyr yr Adfent mewn gwirionedd?
Allweddair: A = Aros
Drama (fel plentyn bach gyda chalendr Adfent)
Ydi hi’n Nadolig heddiw? Mam, Mam, pa bryd y bydd hi’n ddydd Nadolig? Pa rif drws ga’ i agor heddiw? Dim ond rhif 3? Beth am y lleill? Pa bryd y ca’ i agor rhif 4? Rydw i’n teimlo mor gyffrous. Rydw i’n methu aros! Mam, Mam, fydd hi’n ’Ddolig fory?
Cwestiwn
At beth rydych chi’n edrych ymlaen fwyaf y Nadolig hwn?
Adnod
600 mlynedd cyn geni Iesu, roedd pobl Israel wedi cael eu halltudio. Dan orthrwm ac yn dioddef, roedden nhw’n aros yn eiddgar am gael eu gwaredu. Roedden nhw’n edrych ymlaen yn eiddgar iawn at gael Gwaredwr.
Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. (Eseia 9.2)
Allweddair: D = Dewisiadau
Drama (fel hen wraig yn y dref)
’Sgwn i beth fedra i ei gael yn anrheg i Maldwyn eleni? Dydw i ddim yn gallu penderfynu. Beth am hosanau? Mae pawb yn hoffi cael pâr o sanau. Rhai gwlân neu rai cotwm? Pa liw? Mae ’na gymaint o ddewis, a chymaint o bethau i’w penderfynu. A dim ond dechrau pethau ydi hynny. Lle ddylwn i fynd i ddathlu diwrnod Nadolig? Pryd ddylwn i agor yr anrhegion? A ddylwn i wylio araith y Frenhines, neu fynd i gysgu am ychydig? Mae fy mhen i’n troi dim ond wrth feddwl am hyn i gyd.
Cwestiwn
Beth yw’r penderfyniad anoddaf fyddwch chi’n gorfod ei wneud y Nadolig hwn?
Adnod
Pan glywodd y bugeiliaid am enedigaeth Iesu, roedd ganddyn nhw benderfyniad anodd. Oedden nhw i fod i aros gyda’u defaid a bwrw ymlaen â’u gwaith, neu fentro gadael popeth a mynd i chwilio am y baban?
‘Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd amdano.’ (Luc 2.15)
Allweddair: F = ’Fory
Drama (fel gwraig ty dan bwysau)
Mae gen i gymaint i’w wneud cyn iddyn nhw gyrraedd, ’fory. John, tyrd i gael gwared â’r hen bapurau ’ma – ffiw! Peidiwch â’m camddeall i. Rydw i wrth fy modd pan fydd pobl yn galw draw i’n gweld ni. Ond Carwyn a Siwan - mae ty Carwyn a Siwan fel pin mewn papur. Maen nhw hyd yn oed yn cribo carped yr ystafell fyw! Ac mae ein ty ni mor anniben, o’i gymharu â’u ty nhw. Wn i ddim fydda i wedi cael rhyw lun o drefn ar y ty ’ma erbyn y dôn nhw fory . (Cloch y drws yn canu, a’r wraig yn edrych allan trwy’r ffenest.) O’r mawredd! Maen nhw yma - wedi cyrraedd heddiw - roeddwn i’n meddwl mai fory roedden nhw’n dod! John, John, mi fydd yn rhaid i ti fynd atyn nhw. Dydw i ddim yn barod. Dydw i ddim wedi gwneud fy ngwallt, dydw i ddim wedi hyd yn oed ymolchi a newid. O mae golwg arnaf fi! John, John, ble’r wyt ti?
Cwestiwn
Beth sydd orau gennych chi – mynd i ymweld â rhywun, neu groesawu ymwelwyr?
Adnod
Y Nadolig cyntaf hwnnw, fe gafodd y baban Iesu ddigon o ymwelwyr. Tybed sawl un ohonom ni fydd yn cael amser i droi at stori’r Nadolig eleni?
Daethant i’r ty a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli. (Mathew 2.11, Ymweliad y Seryddion)
Allweddair: E = Edrych ymlaen
Drama (fel merch fach yn ymweld â Siôn Corn)
Wel, fy enw i ydi Sioned, ac rydw i’n chwech oed. Beth ydw i ei eisiau y Nadolig yma? Wel, Siôn Corn, dyna i chi gwestiwn da. Rydw i eisiau pâr o esgidiau sglefrio Barbie, maint 2, a dol Baby Expressions, gyda’r holl bethau sy’n mynd gyda hi, wrth gwrs. Rydw i angen gwisg Tywysoges newydd a CD Hannah Montana. Mae’n siwr y ca’ i ychydig o gemau ar gyfer y PlayStation, a dillad newydd i’w gwisgo ar y diwrnod ei hun. Beth wyt ti’n feddwl “nesaf”? Siôn Corn, dydw i ddim wedi gorffen eto!
Cwestiwn
Beth fyddech chi’n hoffi ei gael y Nadolig yma?
Adnod
Cyn i Iesu gael ei eni, roedd yr Iddewon yn disgwyl am waredwr cryf, brenin a fyddai’n dod mewn gogoniant grymus. Roedd y doethion yn disgwyl dod o hyd i frenin newydd-anedig. Ond cafodd y brenin hwn ei eni mewn stabl i rieni normal a syml iawn. Nid yr hyn y gallai unrhyw un fod wedi ei ddisgwyl!
‘Ble mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.’ (Mathew 2.2)
Allweddair: N = Newyddion
Drama (fel dyn yn eistedd wrth fwrdd yn bwyta ei frecwast ac yn darllen papur newydd)
Beth ddywedaist ti, Cariad? Wedi cael llythyr gan bwy? Y Jonesiaid? O na, nid un arall o’r taflenni newyddion Nadolig ’na. Na, dydw i ddim eisiau ei ddarllen. Na, does gen i ddim llawer o ddiddordeb clywed am y llawdriniaeth gafodd Joni ar fawd ei droed. Na, dydw i ddim eisiau gwybod am lwyddiannau Jeni yn ei arholiadau bale, ychwaith. Newyddion, newyddion. (Yn codi’r papur newydd) O diar! Does dim o hwn yn newyddion mewn gwirionedd. Rydw i wedi cael llond bol o’r newyddion drwg sydd yn y papurau yma, a’r newyddion da yn y taflenni newyddion ’na. Ble mae’r newyddion da go iawn y dyddiau yma?
Cwestiwn
Pwy sydd â newyddion da i’w rannu gyda mi?
Adnod
Roedd gan yr angylion newyddion da ar gyfer y bugeiliaid ar y bryn hwnnw dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl. A hyd heddiw, mae Cristnogion yn credu bod genedigaeth Iesu yn newyddion da i bawb ohonom.
‘Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.’ (Luc 2.10–11)
Allweddair: T = Trysor
Drama (fel gwraig yn agor blwch bychan)
O, Cariad, alla i ddim credu’r peth. Wyt ti wir wedi prynu hwn i mi? Mae o mor brydferth. A ti ddewisodd hwn dy hun? Mae o’n dlws ofnadwy. Diolch, diolch! ’Dw i’n dy garu di!
Cwestiwn
Beth yw’r anrheg gorau gawsoch chi erioed?
Adnod
Mae Cristnogion yn credu mai’r anrheg gorau erioed oedd Iesu yn dod i’r ddaear i fod yn Dduw gyda ni. Maen nhw’n gweld genedigaeth Iesu fel anrheg gan Dduw. Fe ddywedodd Paul, un o’r awduron Cristnogol cynnar:
Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy! (2 Corinthiaid 9.15).
Amser i feddwl
Gweddi
Dduw hollalluog,
Rydym yn diolch i ti am dymor yr Adfent:
amser i baratoi ein hunain,
amser i ddyheu,
amser i fwynhau ein disgwyliadau.
Rydym yn gweddïo dros y rhai sy’n arswydo wrth feddwl am y Nadolig,
ac nad ydyn nhw’n edrych ymlaen ato o gwbl.
Helpa ni i gymryd ein hamser yn ystod yr Adfent i fyfyrio ar enedigaeth Iesu
a beth allai hynny ei olygu i ni ac i’r rhai sydd o’n cwmpas ni heddiw.
Amen.
AROS
DEWISIADAU
FORY
EDRYCH YMLAEN
NEWYDDION
TRYSOR
Y bobl oedd yn rhodio mewn tywyllwch a welodd oleuni mawr; y rhai a fu'n byw mewn gwlad o gaddug dudew a gafodd lewyrch golau. (Eseia 9.2)
‘Gadewch inni fynd i Fethlehem a gweld yr hyn sydd wedi digwydd, y peth yr hysbysodd yr Arglwydd amdano.’ (Luc 2.15)
Daethant i’r ty a gweld y plentyn gyda Mair ei fam; syrthiasant i lawr a’i addoli. (Mathew 2.11)
‘Ble mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i’w addoli.’ (Mathew 2.2)
‘Peidiwch ag ofni, oherwydd wele, yr wyf yn cyhoeddi i chwi y newydd da am lawenydd mawr a ddaw i’r holl bobl: ganwyd i chwi heddiw yn nhref Dafydd, Waredwr, yr hwn yw’r Meseia, yr Arglwydd.’ (Luc 2.10–11)
Diolch i Dduw am ei rodd anhraethadwy! (2 Corinthiaid 9.15)

