Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Adlewyrchiadau
Beth fyddwn ni’n ei weld pan fyddwn ni’n edrych yn y drych?
gan Helen Levesley
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Meddwl am rinweddau cadarnhaol.
Paratoad a deunyddiau
- Fe fyddwch chi angen drych a phedwar gwirfoddolwr.
Gwasanaeth
- Meddyliwch yn ôl i’r amser y gwnaethoch chi edrych yn y drych gyntaf bore heddiw. Mae’n bosib nad dyna eich gwedd orau erioed, ond fe fyddai wedi bod yn adlewyrchiad teg o sut roeddech chi’n edrych ar y pryd, heb gribo eich gwallt, heb olchi eich wyneb, ac yn achos rhai o’r merched hyn, efallai, cyn i chi roi eich colur. Fe allech chi, o bosibl, weld tebygrwydd rhyngoch chi a’ch rhieni, eich brodyr neu chwiorydd; a byddai rai ohonom wedi sylwi ar y rhychau ar ein hwynebau! Rydw i’n gwybod fy mod i’n edrych yn wahanol iawn pan fyddaf newydd ddeffro o gymharu hynny â’r hyn welwch chi yn awr!
Fe hoffwn i ofyn am help pedwar gwirfoddolwr. (Dewiswch nhw nawr, neu gofynnwch i’r pedwar rydych chi wedi’u dewis o flaen llaw i ddod ymlaen.) - Yr hyn yr hoffwn i chi ei wneud yw edrych yn y drych a disgrifio un peth rydych chi’n ei weld. Er enghraifft, ‘Mae fy llygaid yn frown,’ neu ‘Rydw i’n gwisgo sbectol.’ (Rhowch amser i’r myfyrwyr roi eu sylwadau.)
- Rydw i’n gwybod nad oes gen i ddrychau i bawb allu gweld eu hunain, ond fe hoffwn i chi feddwl am eich adlewyrchiad eich hun a chanolbwyntio ar un peth rydych chi’n gwybod sydd yno.
- Beth mae eich adlewyrchiad yn ei ddangos i chi? Os ydym yn edrych mewn drych, yr hyn sy’n cael ei adlewyrchu yw sut rydym yn edrych. Pa liw yw ein llygaid, beth yw steil ein gwallt, neu a yw dilledyn yn gweddu i ni ai peidio? Gall ein hadlewyrchiad wneud i ni deimlo’n wych, neu fe allai wneud i ni fod yn hunan feirniadol.
- Yn llyfrau Harry Potter, mae Drych Erised yn adlewyrchu popeth rydych chi’n ei ddymuno, neu eisiau iddo ddigwydd. Mae Harry, a gollodd ei rieni pan oedd yn faban, yn gweld eu llun nhw yn y drych. Mae Ron, sy’n ysu i lwyddo, yn gweld ei hun yn ennill y gwpan Quidditch ac yn dod yn brif fachgen.
Dyna ddrych ffantastig, i ddangos i ni beth rydym yn gwirioneddol ddyheu amdano, i adlewyrchu ein gwir ddymuniadau. Beth fyddai’r drych yn ei ddangos i chi? Buddugoliaeth yn y byd chwaraeon, llwyddiant academaidd, y teulu yn uno? Yn anffodus, myth yw hwn, a dim ond rhan o ddychymyg J. K. Rowling. - Pan rydym yn edrych ar ddrych, rydym yn aml yn gweld pethau nad ydym yn eu hoffi amdanom ein hunain. Fe fydd y rhai sydd ag anhwylder fel anorecsia yn edrych arnyn nhw eu hunain ac yn gweld ffigwr tew, pan mai dim ond croen ac esgyrn sydd yno, mewn gwirionedd. Fe fydd y rhai sydd â syniad isel ohonyn nhw eu hunain, neu lefel isel o hunan-barch, yn gweld rhywun nad ydyn nhw’n eu hoffi. Yn aml, gall drychau ddangos i ni yr union beth nad ydym eisiau ei weld.
- Er hynny, gadewch i ni droi yn awr at yr hyn na all y drych ei ddangos i ni. Rydw i’n mynd i basio’r drych i fy mhedwar gwirfoddolwr, a’r tro yma maen nhw’n mynd i feddwl am rywbeth cadarnhaol amdanyn nhw eu hunain, rhywbeth na ellir ei weld yn y drych. Rhywbeth sy’n cael ei adlewyrchu i eraill. Er enghraifft, ‘Rydw i’n gymwynasgar,’ neu ‘Rydw i’n gwneud i bobl chwerthin,’ etc.
Amser i feddwl
Meddyliwch yn dawel pa nodweddion cadarnhaol sydd gennych chi, sy’n cael eu hadlewyrchu fel mewn drych i bobl eraill. Yn y Beibl, mae Paul yn dweud ein bod ni’n gweld pethau’n bwl trwy ddrych yn y byd hwn, ac y gall pethau weithiau fod yn aneglur. Mae’n siarad am deyrnas nefoedd, ond rydw i’n meddwl y gallwn ni gymryd ei neges, a’i defnyddio heddiw. Weithiau, rydym yn gweld yr hyn rydym eisiau ei weld yn y drych, boed hynny’n bethau rydym yn eu hoffi neu ddim yn eu hoffi. Rydym angen gweld y ddelwedd sy’n cael ei hadlewyrchu i ni ac i bobl eraill – sef yr unigolyn unigryw.
Yn yr un darn, mae Paul hefyd yn dweud y byddwch chi’n gweld yn glir rhyw ddydd. Pan fyddwch chi’n defnyddio’r drych yn y bore, rydw i’n gobeithio na fyddwch chi’n canolbwyntio ar yr hyn y gallwch chi ei weld yn unig. Meddyliwch am y pethau cadarnhaol sydd gennych chi y tu mewn i chi, na ellir eu gweld, ond sy’n cael eu hadlewyrchu i bobl eraill. Rhinweddau fel y rhinweddau cadarnhaol sy’n ein galluogi ni i wneud i bobl eraill chwerthin, sy’n ein gwneud ni’n ffrind da, neu’n frawd neu’n chwaer, neu’n ferch neu fab, neu athro neu ddisgybl cariadlon.
Gweddi
Caniatâ i mi weld y cadarnhaol yn y drych, yn ogystal â’r pethau nad ydw i’n eu hoffi,
a bod yn ymwybodol fod rhai pethau y gallaf eu newid, a phethau eraill na allaf eu newid.
Dysg fi i gydnabod fod y pethau rwy’n feirniadol yn eu cylch yn gallu bod yn rhywbeth y bydd rhywun arall yn ei hoffi amdanaf.
Caniatâ i mi fod yn gadarnhaol ynghylch fy adlewyrchiad - yr un y gallaf ei weld, a’r un na allaf ei weld.
Caniatâ i mi edrych ar y drych wyneb yn wyneb, a hoffi’r hyn rydw i’n ei weld,
a mynd â hynny gyda mi i’r diwrnod sydd o’m blaen.
Amen.

