Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
JOSEFF
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3/ Ysgol Gyfan
Nod
Meddwl am rôl Joseff yn stori’r Nadolig.
Paratoad a deunyddiau
- Byddwch angen cymorth un o’r myfyrwyr i chwarae rhan Joseff. Defnyddiwch ychydig o brops, fel morthwyl a chyn. Gall myfyriwr arall hefyd gymryd rôl yr holwr. Os ydych chi’n dymuno, gall fod yn gyfweliad tebyg i’r hyn a geir ar y sgyrsiau poblogaidd ar y teledu.
- Gallwch ddefnyddio’r llun hwn, sy’n dangos breuddwyd Joseff, ymhellach ymlaen yn y gwasanaeth: http://www.nationalgallery.org.uk/paintings/philippe-de-champaigne-the-dream-of-saint-joseph
Gwasanaeth
- Holwr: Rydw i’n mynd i’ch cyflwyno i rywun a gafodd rôl ryfeddol o bwysig yn stori’r Nadolig, a na, dydw i ddim yn sôn am yr asyn! Joseff, hoffech chi ddod i mewn? (Joseff yn dod i mewn).
Joseff: Dyna ni, roeddwn i’n gwybod nad oedden nhw’n fy nisgwyl i. Mae pawb eisiau siarad gyda Mair, neu’r bugeiliaid, neu’r brenhinoedd. Byth fi.
Holwr: Croeso Joseff. Rwan, pam rydych chi’n credu nad oes neb byth eisiau siarad gyda chi?
Joseff: Wel, rydw i’n credu nad oes llawer o bobl yn meddwl fy mod i’n bwysig o gwbl. Mair sy’n derbyn y rhan fwyaf o sylw, ac yn addas iawn hefyd wrth gwrs. Ond weithiau, fe hoffwn i pe byddai rhywun yn gofyn i mi sut ydw i’n teimlo am hyn.
Holwr (yn siarad gyda’r gynulleidfa): Ys gwn i a ydych chi wedi sylwi sut y mae Joseff yn cael ei gyflwyno i ni ar gardiau Nadolig neu baentiadau o olygfa’r Geni. Os ydyw’n bresennol o gwbl, mae bron bob amser yn cael ei gyflwyno fel hen wr, yn pwyso ar ei ffon, neu’n edrych i gyfeiriad arall. Dydw i ddim yn siwr beth fyddai wedi bod yn wirionedd hanesyddol, ond efallai mai dyn ifanc, llawn bywyd oedd Joseff.
Joseff (yn pesychu): Esgusodwch fi, Rydw i gystal saer coed ag unrhyw saer coed arall yn yr ardal a dydw i ddim mor hen fel na allaf gerdded o Nasareth i Fethlehem! Mae’n dipyn o daith, wyddoch chi!
Holwr: Wrth gwrs, mae’n ddrwg gen i, rydw i’n ymddiheuro.
Joseff: Wel, does gen i ddim trwy’r dydd i sefyllian o gwmpas y lle yma yn mân siarad gyda phobl fel chi. Mae gen i fab bychan sydd angen ei fagu, ac rydw i wedi addo y byddaf yn chwarae efo fo'r pnawn 'ma! Plant, maen nhw eisiau rywbeth o hyd! (Joseff yn ymadael). - (Mae’r arweinydd yn parhau). Diolch i chi’ch dau. Dyna i chi syniad diddorol ynte. Doedd Joseff ddim yn llesg, nac yn hen. I’r gwrthwyneb, roedd yn ddyn heini a oedd yn gallu chwarae gyda’i fab, ac yn ddyn golygus, o bosib, a oedd yn gallu denu dynes ifanc fel Mair yn wraig iddo. Rydw i’n credu ei fod hefyd yn ddyn â safonau moesol da ac yn ddyn defosiynol. Achosodd Mair broblem i Joseff yn y ffaith ei bod hi’n feichiog pan oedden nhw heb briodi, dim ond wedi dyweddïo. Fe wnaeth Joseff ymateb yn naturiol ddigon ar y dechrau: fe fyddai wedi amau Mair o fod wedi bod yn anffyddlon iddo, a’i bod wedi beichiogi wrth gael cyfathrach â rhyw ddyn arall, ac felly efallai am foment ei fod wedi amau nad oedd hi’n ddynes fyddai’n deilwng i fod yn wraig iddo.
Ond roedd Joseff hefyd yn ddyn tosturiol, oherwydd ar y dechrau roedd wedi cytunodd i roi’r gorau i’r dyweddïad yn ddistaw a pheidio ag achosi unrhyw drafferth. Fodd bynnag, fe ddigwyddodd rhywbeth od i Joseff. Cafodd freuddwyd lle'r oedd angel wedi ei anfon gan Dduw yn ymweld ag ef ac yn egluro’r sefyllfa iddo. Dywedodd yr angel wrth Joseff fod y plentyn yr oedd Mair yn ei gario yn dod oddi wrth Dduw:
‘Ond wedi iddo gynllunio felly, dyma angel yr Arglwydd yn ymddangos iddo mewn breuddwyd, a dweud, “Joseff fab Dafydd, paid ag ofni cymryd Mair yn wraig i ti, oherwydd y mae’r hyn a genhedlwyd ynddi yn deillio o’r Ysbryd Glân. Bydd yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau.” ’(Mathew 1.20-21) - Wedi hynny, mae Joseff yn gwybod beth oedd yn rhaid iddo’i wneud, ac mae’n ei wneud yn ddi-gwestiwn, oherwydd mae’n ddyn da a chyfiawn. Mae’n rhaid ei fod yn gwybod y byddai pobl yn siarad yn ei gefn, ac yn dweud ei fod yn ffwl i fod wedi priodi Mair, ond roedd yn gwybod yn well, a phenderfynodd y byddai’n aros gyda hi. Roedd yn dosturiol drosti a thros y plentyn yr oedd yn ei gario. Ymhellach ymlaen bu’n rhaid iddo helpu ei wraig pan roddodd hi enedigaeth i’r baban hwnnw, a hynny mewn amgylchiadau ofnadwy mewn stabl. Nid rhywun i’w adael oddi ar y cardiau Nadolig yw Joseff, nac un i’w ystyried fel hen wr chwaith; roedd yn berson cryf oedd yn cynnig gofal. Roedd yn dad ac yn wr, a dylid ei gofio am gael swyddogaeth barhaol a phwysig yn stori’r Geni. Dychmygwch ef, felly, yn taflu’r baban bach i fyny i’r awyr ac yna’n ei ddal, a’r babi a’r dyn yn chwerthin. Dyna’r Joseff ddylai fod ar ein cardiau Nadolig. Gwir gynrychiolaeth o ddyn da a chyfiawn, oedd yn fwy na saer coed; roedd yn dad daearol i Iesu Grist, ac yn ôl pob golwg wedi gwneud job ffantastig ohoni!
Amser i feddwl
(Fe allai’r myfyriwr oedd yn chwarae rhan Joseff ddarllen y weddi.)
Annwyl Dduw,
Yn ystod cyfnod y Nadolig, paid â gadael i ni anghofio am Joseff yn stori’r Nadolig.
Gad i ni ei weld â llygaid newydd a deall ei rôl,
a deall mai dyn da a chyfiawn oedd o.
Helpa ni i weld y Geni trwy ei lygaid ef a gweld, er bod swyddogaeth rhai yn ymddangos yn fach, bod ganddyn nhw, mewn difrif, fwy o ran i’w chwarae yn y stori.
Emyn
Canwch garol y mae eich myfyrwyr yn ei hoffi, neu gwrandewch ar un.

