Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
TANGNEFEDD
Ffrwythau’r Ysbryd 4
gan Helen Bryant
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Archwilio’r cysyniad ‘llawenydd’.
Paratoad a deunyddiau
- Paratowch gyflwyniad PowerPoint o wahanol ddelweddau sy’n cynrychioli tangnefedd a heddwch, gan gynnwys llun o Winston Churchill, colomen, arwydd heddwch. Dangoswch y cyflwyniad wrth i’r myfyrwyr ymgynnull.
- Clip fideo – ‘One Love: Playing For Change’, i’w gael ar YouTube. http://www.youtube.com/watch?v=4xjPODksI08.
Gwasanaeth
- Bydd rhai o’r delweddau oedd yn cael eu dangos wrth i chi ddod i mewn yn adnabyddus iawn i chi. Mae gennym y golomen, yr arwydd o heddwch, ac wrth gwrs, Sir Winston Churchill yn gwneud datganiad am heddwch ar derfyn yr Ail Ryfel Byd.
- Fodd bynnag, rwy’n credu, o holl ffrwythau’r Ysbryd y byddwn yn rhoi sylw iddyn nhw, mae’n ymddangos mai heddwch yw’r un i’w feddu, ei gadw a’i gynnal. Gallwn edrych ar heddwch mewn amryw o ffyrdd, a heddiw byddaf yn ystyried yr heddwch neu’r tangnefedd sy’n bodoli ynom ein hunain, y gwrthdrawiadau y gallwn gael gydag eraill a’r chwilio ehangach a wnawn ni er mwyn cael heddwch yn ein cymdeithas a’r byd.
- Gadewch i ni edrych ar yr hyn ddywedodd Ralph Waldo Emerson, athronydd ac athro Americanaidd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg: ‘Peace cannot be achieved through violence; it can only be attained through understanding.’ - ‘Ni allwn sicrhau heddwch trwy drais; yr unig ffordd i’w gael yw trwy ddealltwriaeth.’
Dyma le da i ddechrau trafodaeth ar heddwch, oherwydd mae ennill heddwch yn gyfystyr â diwedd anghydfod, ymryson a rhyfel. Fodd bynnag, nid oes yr un genhedlaeth wedi profi gwir heddwch. - Ar un adeg, yr oedd pobl yn credu mai’r Rhyfel Byd Cyntaf oedd y rhyfel fyddai’n rhoi terfyn ar bob rhyfel, ac eto o fewn tua ugain mlynedd wedi hynny roedd y byd yng nghanol yr heldrin unwaith yn rhagor.
Fel gwlad, rydym wedi bod yn eithaf ffodus gan mai ar diroedd estron y mae ein milwyr wedi bod yn ymladd yn ddiweddar: Ynysoedd y Malvinas (Falkland Islands), Bosnia, Irac ac Afghanistan. Ac eto, yn ddyddiol bron, rydyn ni’n clywed am y rhai sydd wedi cael eu hanafu a’u lladd o ganlyniad i’r rhyfeloedd hynny. Ni all unrhyw un sydd heb weld eirch y milwyr hynny sydd wedi cael eu lladd yn dychwelyd adref, neu glywed am farwolaethau dinasyddion yn Afghanistan beidio â theimlo’n ddwys. A fydd yna byth heddwch? - Fodd bynnag, yn cyd-fynd â rhyfel mae heddwch: yn naturiol, maen nhw’n ddau beth sy’n mynd â’i gilydd. Yn ei nofel War and Peace, mae Leo Tolstoy yn adrodd hanes pum teulu bonheddig o Rwsia mewn cyfnodau o ryfel a chyfnodau o heddwch, a’r modd y mae’r teuluoedd hynny a chymeriadau eraill yn y nofel yn newid ac yn datblygu yn ystod yr amseroedd hynny. Yr ydym ninnau yn debyg iawn.
Rydw i wedi edrych ar y modd y mae rhyfel wedi newid y byd, ond nid ar y modd y mae heddwch wedi gwneud hynny. Oherwydd yn dilyn gwrthdaro rhaid cael cyfnod o amser o gymod a llonyddwch. Fe wyddoch chi eich hun efallai, am yr amser pe byddech chi wedi bod yn cwffio gyda rhywun y byddech chi fel arfer yn cymodi yn y diwedd – fe fyddwch yn sefydlu heddwch rhyngoch. - Gellir ystyried heddwch fel rhywbeth y gellir ei drosglwyddo, ac mewn addoliad Cristnogol, un o’r rhannau pwysig yng ngwasanaeth y Cymun yw’r rhan pryd y bydd aelodau’r gynulleidfa yn rhannu’r tangnefedd. Mae’n adeg pryd y byddan nhw’n ysgwyd dwylo â’i gilydd, neu’n cofleidio’i gilydd, a throsglwyddo tangnefedd Crist o’r naill i’r llall.
Roedd Iesu ei hun yn adnabyddus fel heddychwr (rhywun sy’n credu mewn peidio â bod yn dreisgar), a phan ddaeth hi’n amser i Iesu gael ei arestio ar noswyl ei farwolaeth, fe aeth i’r ddalfa heb wrthwynebu a heb orfod cael ei orfodi i fynd. Roedd ei gymdeithion yn barod i ymladd drosto, ond fe ddywedodd y byddai’r ‘rhai sy’n byw gyda’r cleddyf, yn marw hefyd â’r cleddyf’ (Mathew 26.52). Hynny yw, roedd yn adleisio’r gred - yn achos y rhai hynny ohonyn nhw fyddai’n byw trwy drais, fe fyddai’r trais hwnnw’n siwr o’u dilyn. Roedd Iesu’n teimlo bod heddwch mor bwysig fel ei fod yn meddwl fod y rhai oedd yn gweithio dros heddwch yn destun bendith.
Yn y bregeth ar y Mynydd, fe ddywedodd, ‘Gwyn fyd y tangnefeddwyr, canys hwy a etifeddant y ddaear’ (Mathew 5.9). Yma, fe welwn y gobaith y bydd heddwch rhyw ddydd oherwydd bydd y rhai sy’n defnyddio heddwch yn eu bywydau, ac yn ei ledaenu ymhlith eraill, yn elwa. Mae’n hawdd weithiau i ddial a tharo’n ôl, ond mae’n cymryd mesur helaeth o hunanreolaeth i gerdded ymaith a dilyn llwybr heddwch. Mae’n golygu cymryd eich gwynt a hyd yn oed cyfrif i ddeg er mwyn anwybyddu’r galw enwau neu’r sylwadau ffiaidd. Trwy gynnal ymateb heddychlon, rydych yn gosod eich hun uwchlaw’r rhai hynny sydd yn ymddwyn yn dreisgar yn eich erbyn. - Mae Heddwch Byd Eang yn nod rhagorol, a phob blwyddyn mae yna Ddiwrnod Rhyngwladol Heddwch. Edrychwch ar y ffilm fideo hon sydd wedi ei gynhyrchu gan ‘Playing for Change’, a cheisiwch deimlo’r dymuniad am heddwch sydd ynddi. Mae ‘Playing for Change’ yn fudiad sy’n ceisio meithrin heddwch trwy uno pobl o amgylch y byd trwy gyfrwng cerddoriaeth. Pa ffordd well i ddod â phobl ynghyd mewn heddwch, i ddeall y naill a’r llall, na thrwy gyfrwng cyfenwadur (common denominator) - grym cerddoriaeth? Fel y dywedodd Emerson, bydd heddwch yn cael ei ennill trwy ddealltwriaeth, a pha ffordd well o ddeall y naill a’r llall!
Amser i feddwl
Gwyliwch y clip fideo – ‘One Love: Playing For Change’
neu
Goleuwch gannwyll, a sgroliwch trwy’r cyflwyniad PowerPoint unwaith eto mewn distawrwydd.
Gweddi
Boed i heddwch deyrnasu ar y ddaear, a boed i hwnnw ddechrau gyda mi.
Emyn
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘May there be peace on earth’, gan Miller, http://www.musicnotes.com/sheetmusic/mtdVPE.asp?ppn=MN0047159

