Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Amser Cynhaeaf Eto?
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Nod
Archwilio sut rydyn ni’n defnyddio’n talentau, neu ein doniau.
Paratoad a deunyddiau
- Mae’r gwasanaeth yma’n seiliedig ar yr adnodau Mathew 25.14-30.
- Fe allech chi’n hawdd baratoi drama fer wedi’i seilio ar y stori. Mae’n gweithio’n dda mewn cyfres o ddarluniau llonydd neu tableaux.
Gwasanaeth
- Wnaethoch chi erioed feddwl bod yr hyn yr ydych yn ei gyflawni yn debyg i gynhaeaf? Dyma i chi stori sy’n help i chi feddwl am hynny.
Un tro roedd yna dirfeddiannwr llym. Aeth i ffwrdd am ychydig amser ar fusnes, felly gadawodd ran helaeth o’i gyfoeth yn nwylo tri o’i weision. Y darnau arian a oedd yn cylchredeg ar y pryd hwnnw oedd ‘talentau’. Rhoddodd bum talent i un gwas. Rhoddodd ddwy dalent i un arall. Ac i’r olaf, fe roddodd un dalent yn unig.
Cymerodd y gwas cyntaf ei bum talent a’u buddsoddi yn y farchnad stoc. Cymerodd yr ail was ei ddwy dalent a’u buddsoddi mewn banc. Cymerodd y trydydd ei unig dalent; gwnaeth dwll mewn cae a chladdodd hi ynddo. Nododd yn ofalus ble roedd y twll, fel y gallai ddod yn ôl i gloddio amdani pan fyddai angen gwneud hynny.
Flwyddyn yn ddiweddarach, dychwelodd y perchennog, a chafodd y tri gwas eu galw ato i’w ariandy.
Daeth y gwas cyntaf ymlaen ato a dywedodd: “Fe roesoch bum talent i mi, ac fe wnes i eu buddsoddi yn y farchnad stoc. Welwch - maen nhw wedi dyblu yn eu gwerth.” Roedd y tirfeddiannwr wrth ei fodd. Curodd gefn y gwas a gwahoddodd ef i barti crand yr oedd yn ei gynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Daeth yr ail was ymlaen ato a dywedodd. “Fe roesoch ddwy dalent i mi, ac fe wnes i eu buddsoddi yn y banc. Welwch - maen nhw wedi dyblu yn eu gwerth.’ Roedd y tirfeddiannwr wrth ei fodd. Curodd gefn y gwas hwn hefyd a’i wahodd i’r parti crand yr oedd yn ei gynnal yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Daeth y trydydd gwas ato. “Rhoesoch un dalent yn unig i mi. Ond roeddwn i’n gwybod eich bod yn gallu bod yn galed a chreulon, ac roeddwn yn ofni y byddwn yn ei cholli. Felly dyma fi’n ei chladdu mewn cae: dyma hi i chi.” A rhoddodd un darn arian digon budr yn llaw'r tirfeddiannwr.
Gwylltiodd y perchennog nes ei fod yn gynddeiriog dros ben. “Y gwas diwerth!” gwaeddodd. “Roeddet yn gwybod y gallwn fod yn greulon? Wel, mi fyddaf felly yn awr - dos allan a phaid byth â dychwelyd i’m ty.’ Gadawodd y gwas ac ni welodd unrhyw un mohono byth wedyn. - Mae’r stori hon y seiliedig ar y syniad bod talent yn debyg i arian. Rydych chi i gyd yn dalentog, mewn ffyrdd gwahanol. Mae’n ymddangos fod gan rai ohonoch lawer o dalentau neu ddoniau (enwch rai o’r mabolgampwyr sy’n sêr yn y grwp oedran hwn). Mae rhai ohonoch yn cadw’ch talentau i chi’ch hun (enwch rhai o’r doniau llai adnabyddus, ond sydd er hynny’n ddoniau gwerthfawr, heb grybwyll enwau y tro hwn). Ac mae rhai ohonoch yn meddwl nad oes gennych fawr ddim doniau. Ond mae gan bawb ohonom ryw fath o dalent neu ddawn.
- Ond beth sy’n digwydd os nad ydych chi’n defnyddio’r dalent sydd gennych? Beth fyddai’n digwydd i David Beckham pe na byddai’n ymarfer? Pe na byddech chi’n ymarfer eich geirfa Ffrangeg? Pe na byddech chi byth yn ysgrifennu stori, paentio darlun, neu’n gwneud ffrindiau â rhywun sy’n unig? Fe fyddech chi’n siwr o golli eich talent, ac yn sicr ni fyddai’n datblygu.
- Ar ddiwedd eich cyfnod yn yr ysgol, sut y byddwch wedi datblygu’r talentau a’r doniau y cawsoch eich geni gyda nhw? Sut y byddech chi’n gallu gweithio i ddatblygu’r talentau sydd gennych yn well?
A pheidiwch ag anghofio - mae talentau’n fwy na chyraeddiadau academaidd:. Beth am y gallu i helpu? Beth am y gallu i sirioli pobl eraill? Neu fod ar gael i’ch ffrindiau? Mae talentau cymdeithasol yr un mor bwysig â rhai academaidd, artistig neu ddoniau ym myd chwaraeon.
Mae gan bawb ohonom dalent, gadewch i ni ei defnyddio.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Ar ddiwedd eich cyfnod yn yr ysgol, sut y byddwch chi wedi gallu datblygu’r gallu a’r doniau y cawsoch chi eich geni â nhw? Sut beth fydd cynhaeaf eich cyflawniad?
Fyddwch chi fel y ddau was cyntaf, a weithiodd ar eu doniau, gan eu hymestyn a’u datblygu?
Neu, a ydych chi’n mynd i gladdu eich dawn, ac y bydd oherwydd hynny’n cael ei gwastraffu?
(Saib)
Gweddi
Gad i mi ddefnyddio fy noniau i’r eithaf:
Gweithio’n galed,
Chwarae ar fy ngorau,
Gan ymestyn a datblygu fy neall,
Fel y gallaf wneud popeth mor dda ag y gallaf,
Ac fel y bydd eraill yn cael budd wrth i mi fod y eu cwmni.
Amen.
Emyn

