Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
RYDYN NI’N HOFFI ADDYSG GREFYDDOL
Mawrth: Mis ‘Dathlu Addysg Grefyddol’
gan Ronni Lamont
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Archwilio beth sy’n gwneud Addysg Grefyddol yn bwnc mor ddiddorol yn ein hysgolion.
Paratoad a deunyddiau
- Er bod y gwasanaeth yma wedi’i lunio gyda golwg ar yr Ysgol Gyfan, fe fyddai’n bosib i chi gyflwyno gwahanol feysydd Addysg Grefyddol i wahanol gyfnodau Allweddol, os hoffech chi. Hefyd, fe fyddai’n bosib i’r gwasanaeth fod yn rhan o wasanaeth sy’n treiglo trwy wythnos neilltuol, gyda gwahanol ddosbarthiadau’n cyfrannu ar wahanol ddyddiau. Fe allech chi amrywio’r emynau a’r caneuon ond cadw at yr un weddi.
- Edrychwch ar y wefan sy’n dathlu Addysg Grefyddol: http://www.celebratingre.org.uk/.
- Yn ddelfrydol, treuliwch ychydig o amser o flaen llaw cyn diwrnod y gwasanaeth i siarad gyda’ch dosbarth am y meysydd rydych chi wedi bod yn eu trafod yn y gwersi Addysg Grefyddol y ddiweddar. Atgoffwch y plant hefyd am y meysydd astudio y bu’r dosbarth yn eu mwynhau mewn gwersi yn y tymhorau neu flynyddoedd blaenorol.
- Rhowch gyfle i’r plant baratoi’r deunydd y byddan nhw’n ei gyflwyno ar y pynciau rheini. Fe allai’r deunyddiau gynnwys:
– cyflwyniad PowerPoint o’r maes astudio
– drama yn adrodd y stori
– meim gydag adroddiad
– tablo llonydd gydag adroddiad
– darnau barddoniaeth neu ysgrifennu creadigol y gall y plentyn ei hun ei ddarllen i’r gynulleidfa.
Ceisiwch annog y plant i ddweud beth roedden nhw’n ei hoffi am y gwaith a sut y gwnaeth hynny eu helpu’n bersonol. - Fe fydd angen i chi ymarfer y cyflwyniadau o flaen llaw.
Gwasanaeth
- Eglurwch eich bod chi a’ch dosbarth wedi bod yn meddwl pa mor ddiddorol yw Addysg Grefyddol, a pham ei fod yn bwnc mor dda er mwyn dysgu am wahanol bethau.
- Cyflwynwch y darnau rydych chi wedi bod yn eu hymarfer. Er enghraifft:
Plentyn 1 yn dangos arteffactau o Islam ac yn dweud: Fe wnes i fwynhau gwrando ar storïau am Muhammad a’i deulu. Cyn hynny, doeddwn i ddim yn gwybod sut y dechreuodd y ffydd Fwslimaidd, ac mae hyn yn fy helpu i’w deall yn well. Rydw i hefyd yn mwynhau dysgu am hanes, ac mae’r stori hon yn hen stori am rywbeth a ddigwyddodd amser maith yn ôl, ac mae’n stori gyffrous.
Plentyn 2: Fe wnes i fwynhau dysgu sut mae Cristnogion yn cael eu bedyddio yn yr Eglwys. Fe aethon ni i eglwys, ac fe wnaeth y ficer yno ddangos i ni beth sy’n digwydd mewn gwasanaeth bedydd. Rydw i’n mynd i wasanaeth bedydd mewn ychydig wythnosau. Felly, fe fydda i’n deall beth fydd yn digwydd, ac yn deall beth mae’n ei olygu.
(Dangoswch gyflwyniad PowerPoint o luniau a dynnwyd pan oeddech chi ar ymweliad â’r eglwys honno.)
Grwp: Fe wnaethon ni ddysgu’r stori am sut yr aeth Guru Nanak i mewn i afon a dod allan wedyn ymhen amser hir! Fe wnaeth y profiad newid ei fywyd yn llwyr, ac wedyn fe sylfaenodd y ffydd a ddaeth yn Sikhiaeth. Mae fy ffrind gorau yn Sikh. Rydw i erbyn hyn yn gwybod tipyn bach mwy am ei bywyd a’i chrefydd.
(Cyflwynwch ddrama i ddarlunio’r stori.)
Grwp: Y tymor diwethaf, fe wnaethon ni fwynhau meddwl sut y cafodd Iesu ei eni. Rydyn ni’n mynd i ddangos cyfres o olygfeydd neu luniau i chi tra byddwn ni’n dweud y stori. Mae’r Nadolig yn bwysig i ni am nifer o resymau, ond fe wnaethon ni ddysgu ei bod yn wyl Gristnogol bwysig hefyd. Rydyn ni’n hoffi ysgrifennu storïau, felly roedd adrodd stori’r Nadolig yn un o’r pethau gorau wnaethon ni yn ystod y tymor diwethaf!
(Mae’n bwysig annog y plant i fynegi’r hyn y maen nhw’n ei feddwl – dim ond enghreifftiau sydd yma i ddarlunio sut y gallech chi lunio’ch gwasanaeth. Fe fydd y mewnbwn o wahanol ddosbarthiadau’n amrywio.)
Amser i feddwl
Gofynnwch i’r plant sy’n perfformio’r cyflwyniadau ailadrodd pam y maen nhw’n hoffi Addysg Grefyddol. Gofalwch oedi rhwng pob un er mwyn rhoi cyfle i’r plant eraill feddwl am bob rheswm yn ei dro.
Holwch y plant yn y gynulleidfa oes ganddyn nhw resymau eraill dros hoffi Addysg Grefyddol.
Atgoffwch y plant sut y mae Addysg Grefyddol yn ein dysgu am y ffordd y mae gwahanol bobl wedi meddwl am Dduw drwy’r oesau. Mae’n bwysig iawn, hyd yn oed os byddwn ni wrth i ni fynd yn hyn yn penderfynu ein bod yn ansicr ynghylch credu yn Nuw. Mae dysgu am ffydd yn helpu pobl y byd i gyd-fyw’n hapus gyda’i gilydd, ac mae’n ein helpu i ddeall bywyd pobl eraill a deall yr hyn maen nhw’n ei gredu.
Gweddi
Diolch ein bod ni’n gallu dysgu am wahanol grefyddau a ffydd yn y gwersi Addysg Grefyddol,
a diolch am y bobl sy’n ein helpu ni i wneud hynny.Helpa fi i wrando ar bobl sy’n credu pethau gwahanol i’r hyn rydw i’n ei gredu.
Helpa fi i barchu pobl sydd ddim bob amser yn cytuno â fi.
Emyn
Cân Dathlu AG:
http://www.celebratingre.com/index.php/what-can-you-do/celebrating-re-song

