Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
Ffyn - mewn Undeb mae Nerth
gan Oliver Harrison
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Nod
Dangos bod nifer o bethau gyda’i gilydd yn gryfach na phan fydd y pethau hynny’n gweithredu’n unigol ac ar wahân.
Paratoad a deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen nifer o ffyn pren, o’r un maint a’r un hyd (e.e. ffyn coctel, sgiwerau pren, ffyn lolipop – fe ddylech allu dod o hyd i bethau fel hyn mewn siopau sy’n gwerthu offer cegin neu ddeunyddiau celf a chrefft). Fe fyddai’n bosib i chi ddefnyddio stribedi o bapur neu gerdyn, gan ychwanegu mwy a mwy bob tro er mwyn gweld faint allwch chi eu rhwygo ar yr un pryd, ond mae’r effaith yn well gyda ffyn pren. Fe fydd arnoch chi angen hen lyfr cyfeiriadau ffôn hefyd.
- Fe allech chi lwytho i lawr y gerddoriaeth ‘Let’s work together’ gan Roxy Music.
- Nodwch: Rhowch gynnig ar wneud hyn o flaen llaw er mwyn i chi wybod beth i’w ddisgwyl, a gallu gweld faint o ffyn y byddwch chi angen eu defnyddio!
Gwasanaeth
- Sgwrsiwch am y dywediad, ‘Mewn undeb mae nerth’: mae nifer ynghyd yn gryfach na’r un nifer yn gweithio’n unigol ac ar wahan. Rhowch enghreifftiau: soniwch am yr egwyddor ‘yn fwy na chyfanswm ei rannau’, sef ‘greater than the sum of its parts’, e.e. wnaiff dau hanner car ddim mynd, ond fe wnaiff un cyfan. Er, fe allech chi ystyried y gwrthwyneb hefyd, fel yn achos dau swm o arian gwerth £2.50 - dyna £5, a does dim gwahaniaeth mewn cael un darn papur £5 neu’r un gwerth mewn nifer o ddarnau arian - yr un faint o arian sydd gennych chi.
- Estynnwch y ffyn pren. Gofynnwch i ddau neu dri ddod i’ch helpu. Rhowch her iddyn nhw faint o ffyn pren y byddan nhw’n gallu eu torri ar unwaith, (dechreuwch gydag un, yna pump, deg, etc.).
Neu, i’w wneud yn fwy diddorol, fe allech chi roi rhywfaint i blentyn o bob grwp blwyddyn a rhoi mwy o ffyn yn ôl oedran y plant. Yna, gofyn iddyn nhw dorri eu ffyn ar yr un pryd.
Beth yw’r nifer mwyaf sy’n bosib eu torri gyda’i gilydd? Nawr, ceisiwch rwygo’r llyfr ffôn - mae’n amhosib. - Sgwrsiwch am gryfder mewn niferoedd. Rydym wedi gweld bod nifer gyda’i gilydd yn gryfach na phan fydd pob un ar wahân ac yn cael eu cymryd yn unigol.
Weithiau, fe fydd hyn yn fanteisiol mewn ffyrdd eraill: os rhannwn ni rywbeth sy’n anodd yn rhannau llai, posib eu rheoli, fe allwn ni gyflawni pethau a fyddai fel arall efallai yn amhosib eu cyflawni. Felly, pe byddem yn tynnu ychydig o dudalennau allan o’r llyfr ffôn ar y tro, ac yna’n rhwygo’r rheini fesul adran fach, fe fyddai’n bosib i chi rwygo’r cyfeirlyfr cyfan wedyn … - Mae Cristnogion yn credu bod Duw yn dri – y Tad , y Mab a’r Ysbryd Glân – yn un tîm neu deulu. Mae Cristnogion yn credu hefyd bod Duw eisiau i ni weithio gyda’n gilydd i greu byd sy’n byw mewn harmoni, ac ysgol sy’n cydweithio’n dda. Pan fyddwch chi’n gweithio gyda’ch ffrindiau yn y dosbarth, neu os ydych chi’n ymarfer chwaraeon fel pêl-droed neu gêm arall, trwy weithio gyda’ch gilydd y gallwch chi gyflawni’r hyn rydych chi’n anelu tuag ato.
- Pan fydd nifer yn dod ynghyd yn un, rydyn ni’n llawer cryfach.
Amser i feddwl
Myfyrdod
Chwaraewch y gerddoriaeth. Efallai yr hoffech chi dawelu’r gerddoriaeth yn raddol ar ôl y penillion cyntaf.
Gadewch i ni feddwl am y timau a’r grwpiau rydyn ni’n perthyn iddyn nhw.
Sut gallwn ni gefnogi ein gilydd yn weithredol yn ystod y flwyddyn?
Pa bryd y byddwn ni weithiau’n tanseilio ysbryd y tîm?
Treuliwch foment neu ddwy yn meddwl sut y byddai’n bosib i chi fod yn fwy cefnogol i’ch teulu, yn ogystal ag i unrhyw dîm neu grwp rydych chi’n perthyn iddo, neu sut y gallech chi gefnogi eich ffrindiau yn well.
Gweddi
Mae dyfyniad Saesneg o eiddo John Donne: ‘No man is an island, entire of itself.’
Diolch i ti ein bod yn well gyda’n gilydd nag ar ben ein hunain.
Helpa ni i ystyried eraill, i weithio mewn ffordd adeiladol a defnyddiol, gyda’r bobl rheini rydyn ni’n cwrdd â nhw o gwmpas yr ysgol, a chyda’r rhai rydyn ni’n ymwneud â nhw yn ein bywydau y tu allan i’r ysgol hefyd.
Amen.

