Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
AGWEDDAU AR MALAWI 2
Gartref ym Malawi
gan Helen Redfern
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Rhoi i’r plant gipolwg ar fywyd o ddydd i ddydd mewn pentref ym Malawi.
Paratoad a deunyddiau
- Dewis geneth tua 6 oed i fod yn ddarllenydd, ac yn gwisgo darn o ddefnydd lliwgar o amgylch ei chanol fel sgert os yn bosib. Yr enw am y dilledyn yma ym Malawi yw ‘tchenje’.
- Bowlen olchi llestri gyda nifer o gwpanau plastig a phlatiau ynddi.
- Darnau o bren.
- Basged i gasglu ffrwythau.
- Mae delweddau ar gael i’w llwytho i lawr, oddi ar y we, sy’n cyd-fynd â´r gwasanaeth yma.
Gwasanaeth
- Cynhaliwch sesiwn o danio syniadau gyda’r plant am y math o bethau neu ddeunyddiau sydd gennym ni yn ein cartrefi yn y wlad hon. Mae gennym ni bob math o bethau yn ein tai. Ond, dychmygwch dy heb:
ddim cadeiriau …
dim byrddau …
dim teledu …
dim dwr tap …
dim trydan …
dim carpedi …
dim cypyrddau …
Yn y rhan fwyaf o’r tai ym Malawi, does dim un o’r pethau yma. - Gofynnwch i rywun ddarllen y rhan ganlynol (neu gall yr arweinydd ei ddarllen a’r eneth ei actio):
Fy enw yw Grace. Rydw i’n byw mewn pentref ger Llyn Malawi.
Rydw i’n byw gyda fy mam, fy nain a’m brawd. Mae fy nain yn gwehyddu matiau i ni eistedd arnyn nhw. (Photo 1 <http://www.assemblies.org.uk/current/oct09_malawi2_1.php>)
Mae fy mrawd yn mynd i’r ysgol yn y pentref agosaf atom. Mae’n mwynhau chwarae pêl-droed. (Photo 2 <http://www.assemblies.org.uk/current/oct09_malawi2_2.php>)
Dydw i ddim yn mynd i’r ysgol. Rydw i’n helpu fy mam. Rydw i’n mynd â’r platiau i lawr at y llyn i’w golchi. (Mae’n cario’r bowlen ar ei phen.)
- Rydw i’n casglu coed tân. (Mae’n codi darnau o goed i fyny.)
Rydw i’n codi’r afalau sydd wedi disgyn oddi ar y goeden. (Mae’n smalio codi afalau a’u rhoi yn y fasged.)
Rydw i’n hel y cwn a’r ieir allan o’r ty. (Photo 3) - Mae Grace yn byw mewn ty sydd wedi ei wneud o frics mwd. (Photo 4)
Mae’r briciau wedi cael eu torri allan o wely sych yr afon. (Photo 5)
Does dim dodrefn yn y ty. Mae Grace a’i theulu yn eistedd ar y llawr ac yn cysgu ar y llawr. (Photo 6)
Mae’r gegin, y toiled, a’r lle ymolchi, i gyd y tu allan i’r ty. (Photo 7)
Amser i feddwl
Cymerwch amser i ddychmygu sut beth fyddai byw fel mae Grace yn byw.
Dychmygwch fyw mewn ty heb ddodrefn.
Mae ein tai ni yn llawn o bethau y gallwn fod yn ddiolchgar amdanyn nhw.
Wrth i ni ystyried gwlad Malawi, gadewch i ni agor ein meddyliau er mwyn dysgu am y ffordd y mae pobl yn byw, yn gweithio, ac yn chwarae.
Gadewch i ni agor ein calonnau i werthfawrogi'r cyfan sydd gennym ni.
Gadewch i ni agor ein dychymyg i helpu pobl Malawi i gael eu gobeithion wedi’u gwireddu.

