Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
CYFEILLGARWCH
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Meddwl beth yw ystyr bod yn ffrind da.
Paratoad a deunyddiau
- Paratowch ddelweddau yn ymwneud â’r testun ‘cyfeillgarwch’:
http://www.hreoc.gov.au/about/competitions/2003/album/Images/Sullivan/friendship.jpg
http://s3.images.com/huge.95.479836.JPG
http://hellishhumor.com/pictures/animals/tiger_chimpanzee.jpg
http://4.bp.blogspot.com/_w7ilNrFnHH4/RlpB3KKf__I/AAAAAAAABxU/6hR0i2u9NFU/s400/cat-friends.jpg
- Lluniwch restr o weithgareddau y byddai’r plant yn gallu eu gwneud, sydd mewn rhyw ffordd yn gysylltiedig â chyfeillgarwch - chwarae gyda’i gilydd, rhannu jôcs, mynd i gael te yng nghartref ffrind, dangos gofal pan fydd rhywun yn drist, dadlau.
Gwasanaeth
- Dangoswch y lluniau sydd wedi eu rhestru uchod i’r plant a gofynnwch ydyn nhw’n gallu gweld rhyw gysylltiad rhyngddyn nhw. Y cysylltiad yw eu bod yn dangos rhyw agwedd ar gyfeillgarwch.
- Eglurwch yr hoffech chi i rai o’r plant ddod i’r tu blaen atoch chi mewn parau. Fe fyddwch chi’n rhoi tasg iddyn nhw actio neu feimio rhyw weithgaredd sy’n dangos rhywbeth y mae ffrindiau’n ei wneud gyda’i gilydd. Fe fyddwch chi eisiau i weddill y gynulleidfa ddyfalu beth maen nhw’n ei ddarlunio.
- Gan ddefnyddio’r rhestr uchod, a fydd y gynulleidfa’n gallu dyfalu beth yw’r gweithgaredd y maen nhw’n ei actio? Fe allech chi ofyn a oes rhywun arall yn dymuno dod ymlaen i feimio neu actio rhyw weithgareddau eraill y mae ffrindiau yn eu gwneud gyda’i gilydd, a gofyn i’r gynulleidfa ddyfalu wedyn.
- Holwch y plant a ydyn nhw’n cofio amser neu ddigwyddiad arbennig y gwnaethon nhw’i dreulio gyda ffrind? Pam y gwnaethon nhw fwynhau eu hunain gymaint? Beth oedd yn gwneud yr achlysur mor arbennig?
- Eglurwch i’r plant ei fod yn beth braf iawn cael ffrindiau i ofalu amdanom pan fyddwn ni’n teimlo’n drist. Ond mae’n bwysig hefyd ein bod ninnau’n gwneud ymdrech i fod yn ffrind da i bobl eraill. Mae gwir gyfeillgarwch yn ymwneud â beth fyddwn ni’n gallu ei roi i’n ffrindiau yn hytrach na beth mae ein ffrindiau yn gallu ei roi i ni.
- Bardd o America yn y 19 ganrif oedd Ralph Waldo Emerson. Fe ddywedodd ef mai’r unig ffordd i gael ffrind yw bod yn ffrind, ‘The only way to have a friend is to be one.’ Holwch y plant beth maen nhw’n ei feddwl yw ystyr y dyfyniad yma. Eglurwch mai wrth roi pobl eraill yn gyntaf y gallwch chi fod yn ffrind, nid wrth fod yn hunanol a mynnu ein ffordd ein hunain.
- Mae adnodau yn y Beibl sy’n dweud hyn am gyfeillgarwch. Maen nhw’n dod o Lyfr y Pregethwr (4: 9-10):
‘Y mae dau yn well nag un, oherwydd y maent yn cael tâl da am eu llafur, os bydd y naill yn syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi, ond gwae’r un sydd ar ben ei hun, pan yw’n syrthio, nid oes ganddo neb i’w godi.’ - Holwch y plant beth maen nhw’n feddwl yw ystyr yr adnod, ac yna rhowch foment neu ddwy iddyn nhw feddwl am sut y bydden nhw’n gallu helpu i ‘godi’ pobl eraill.
Amser i feddwl
Meddyliwch am y geiriau o’r Beibl ac am eiriau Ralph Waldo Emerson:
‘Y mae dau yn well nag un, oherwydd … os bydd y naill yn syrthio, y mae’r llall yn gallu ei godi.’
‘Yr unig ffordd i gael ffrind yw bod yn ffrind. (The only way to have a friend is to be one.)’
Meddyliwch am adeg pan fu rhywun yn ffrind o ddifrif i chi. Efallai eich bod wedi teimlo’n unig ryw dro, neu wedi bod yn teimlo’n drist, ac roedd rhywun wedi gofalu amdanoch chi. Efallai eich bod wedi cael trafferth i wneud rhyw waith ryw dro a bod rhywun wedi’ch helpu chi. Meddyliwch am gyfleoedd gawsoch chi eich hun ryw dro i fod y ffrind da i rywun. Penderfynwch fod yn ffrind da i rywun heddiw.
Gweddi
Annwyl Dduw, diolch am ein ffrindiau. Diolch am yr hwyl rydyn ni’n ei gael gyda’n ffrindiau, ac am yr adegau hapus y byddwn ni’n eu treulio gyda’n gilydd. Helpa fi i fod yn ffrind da. Helpa fi i beidio â bod yn hunanol, ond i feddwl bob amser am bobl eraill ac am eu hanghenion nhw yn fwy nag amdanaf fi fy hun.

