Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
GWYLIAU’R HAF
gwasanaeth i’r rhai sy’n ymadael â’r ysgol
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Darparu gwasanaeth byr ar gyfer y plant hynny sy’n symud ymlaen i ysgol arall.
Paratoad a deunyddiau
- Trefnwch i argraffu neu ysgrifennu’r llythrennau GADAEL YR YSGOL fesul un ar un deg tri o gardiau maint A4. Fe allech chi ofyn i’r plant eu lliwio neu eu haddurno. Ar gefn pob cerdyn ysgrifennwch y geiriau priodol sy’n cyd-fynd â’r llythyren.
- Paratowch un deg tri o blant i ddal y cardiau i fyny yn eu tro, a darllen y geiriau.
- Paratowch dri phlentyn arall i fod yn llefarwyr.
- Bydd angen ymarfer rhywfaint. Byddai’n dda pe byddai pawb yn gallu dysgu geiriau’r pennill sydd ar y diwedd, ar eu cof.
- Fe allech chi chwarae cerddoriaeth briodol ar ddechrau’r gwasanaeth neu wrth i’r plant gerdded i mewn. Cerddoriaeth ysgafn hapus fel, ‘The sun has got his hat on’ neu rywbeth arall addas o’ch dewis chi.
Gwasanaeth
Llefarydd 1
Bore da, bawb. Rydyn ni’n tynnu at derfyn ein blwyddyn ysgol, ac mae’r rhan fwyaf ohonom yn edrych ymlaen tuag at wyliau’r haf.
Llefarydd 2
Fe fyddem ni’n hoffi cael dweud ffarwel yn ein ffordd arbennig ein hunain.
(Mae pob un o’r plant sydd â chardiau yn camu ymlaen yn ei dro ac yn dal ei lythyren i fyny wrth lefaru. Bydd angen iddyn nhw barhau i ddal eu llythrennau i fyny fel y bydd y geiriau cyflawn yn cael eu ffurfio.)
(1) G Gwyliau’r haf, gwyliau’r haf,
(2) A Amser braf a ddaw.
(3) D Dim angen codi’n fore i ddod i’r ysgol cyn naw!
(4) A Athrawon, do, cawsom athrawon da yn wir.
(5) E Fe fydd enwau’r rhain yn aros ar ein cof am hir.
(6) L Lot, lot fawr iawn o bethau diddorol a wnaethom,
(7) Y Yn yr ysgol, ar hyd y blynyddoedd meithion!
(8) R Ond, rywsut rydyn ni’n teimlo’n reit ryfedd,
(9) Y Ymadael sydd raid â’r ysgol hon yn awr,
(10) S Symud ymlaen i ysgol arall, fawr.
(11) G Gadael am byth - fe fydd rhai yn gofidio -
(12) O Ond, sut bynnag y teimlwn, wnawn ni ddim eich anghofio.
(13) L Fe fydd gennym lot, lot fawr o atgofion da.
(Pawb i ymuno i lefaru gyda’i gilydd yma.)
Mae gwyliau’r haf yn amser hapus, cawn hwyl yn yr awyr iach a’r haul.
Cawn ymweld â glan y môr, o bosib, a mynd am dro a mwynhau.
A hefyd mae’n gyfnod ffarwelio, symud ymlaen sydd raid yn awr,
Ond wnawn ni ddim eich anghofio, bydd gennym lu o atgofion yn aros -
FFARWEL A DIOLCH YN FAWR!
Amser i feddwl
Llefarydd 3
Gawn ni gyd-weddïo:
Rydyn ni’n diolch i ti, O Dduw, am ein hysgol, lle rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd o ddydd i ddydd.
Rydyn ni’n diolch am yr holl bobl sy’n gweithio i wneud y lle yn lle hapus.
Diolch am fod gyda ni yn ein gwaith ac yn ein chwarae.
Diolch am y ffrindiau rydyn ni eu hadnabod yma.
Gad i ni fynd â’r atgofion hapus sydd gennym ni am yr ysgol yma
gyda ni wrth i ni symud ymlaen oddi yma i ysgol arall.
Emyn

