Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
GWYLIAU’R HAF
gan Jan Edmunds
Addas ar gyfer yr Ysgol GyfanNod
Nod
Darparu gwasanaeth i’w gyflwyno gan y rhai sy’n gadael yr ysgol ar ddiwedd tymor yr haf.
Paratoad a deunyddiau
- Paratowch gyfres o gardiau maint A4: ar un ochr ysgrifennwch lythyren unigol ar gyfer llunio acrostig o’r geiriau GWYLIAU HAF. Ar yr ochr arall ysgrifennwch y geiriau perthnasol i’r plant eu darllen. Paratowch gardiau eraill, yn ôl y nifer o ddarllenwyr ychwanegol y byddwch am roi rhan iddyn nhw.
- Mae’r gosodiad yn bwysig, felly bydd angen rhywfaint o ymarfer.
- Gall OHP fod yn ddefnyddiol i bawb allu dilyn ‘gweddi’r ysgol’.
- Fe fyddai’n addas chwarae’r gerddoriaeth ‘Un cam bach ar hyd y byd yr af (One more step along the world I go)’ wrth i’r plant ddod i mewn i’r gwasanaeth.
- Gallwch arddangos lluniau, ffotograffau, delweddau ac eitemau perthnasol wrth adrodd pob llinell. Efallai y byddai’n bosib trefnu’r rhain fel arddangosfa wedyn i’r gynulleidfa eu gweld wrth fynd allan neu rywbryd ar ôl y gwasanaeth.
Gwasanaeth
Llefarydd 1: Bore da, bawb. Rydyn ni bron â dod i ddiwedd blwyddyn ysgol arall.
Llefarydd 2: Fydd rhai ohonom ni ddim yn dod yn ôl i’r ysgol yma ar ôl y gwyliau am ein bod yn mynd i ysgol arall, lle byddwn ni’n gwneud ffrindiau newydd.
Llefarydd 3: G G sydd am y gwersi y gwnaethom eu dysgu,
ysgrifennu a darllen, dysgu hanes a chanu.
Llefarydd 4: W O wythnos i wythnos, roeddem wrthi drwy’r adeg
yn dysgu am wyddoniaeth, celf a chrefft a thechnoleg.
Llefarydd 5: Y Y sydd am ymweliadau addysgol,
cawsom fwynhau sawl taith i lefydd gwahanol.
Llefarydd 6: L L sydd am lot, lot fawr o bethau diddorol
y cawsom eu gwneud tra buom yn yr ysgol.
Llefarydd 7: I Ar yr iard, y neuadd ginio, a’r dosbarthiadau,
cawsom ddysgu byw’n iach a dysgu pa fwyd sydd orau.
Llefarydd 8: A A sydd am achlysuron arbennig fu’n rhan o’n profiadau
Perfformiadau, mabolgampau, a rhannu tystysgrifau.
Llefarydd 9: U O s?m ‘un ac un yn gwneud dau’, yn y dosbarth derbyn,
Fe ddysgais wneud symiau llawer anoddach wedyn.
Llefarydd 10: H Cawsom adegau hapus i gyd gyda’n gilydd
a llawer o hwyl bob yn ail a pharchusrwydd.
Llefarydd 11: A Fe fydd gennym atgofion di-rif am ein hathrawon,
am bawb fu’n ein helpu, ac am ein holl gyfeillion
Llefarydd 12: F Felly, cyn i ni fynd, i ble bynnag yr awn -
Diolch am flynyddoedd o ddysgu a fu’n fuddiol iawn.
Llefarydd 13: (gan bwyntio at y ddau air gorffenedig) Erbyn hyn, rydym bron â dod i ddiwedd blwyddyn ysgol, ac fe allwn ni i gyd edrych ymlaen at ein gwyliau haf hir.
Amser i feddwl
Llefarydd 14: Gadewch i ni ofyn i Dduw ofalu amdanom ni, yn enwedig y rhai sy’n symud ymlaen i ysgol arall. Cadw ni i gyd yn ddiogel yn ystod y gwyliau.
Llefarydd 15: Rydyn ni’n diolch am y flwyddyn ysgol sydd wedi bod, ac yn diolch am ein ffrindiau, ac yn diolch hefyd am y gwersi rydyn ni wedi’u dysgu.
Gweddi
(Gall gweddill y plant arwain y weddi ganlynol, neu fe allech chi rannu’r llinellau rhwng nifer o unigolion iddyn nhw’u hadrodd. Addasiad yw’r weddi o ‘The school creed’, gweddi ysgol yng Nghanada.)
Dyma ein hysgol.
Gadewch i bawb fod yn hapus yma bob amser.
Gadewch i’n hysgol fod yn llawn llawenydd bob amser.
Gadewch i ofal a chariad barhau i fod yma bob amser:
Cariad tuag at ein gilydd,
Cariad tuag at bobl ym mhob man,
Cariad tuag at fywyd ei hun,
A chariad Duw.
Gadewch i ni gofio,
yn union fel mae llawer o ddwylo’n adeiladu ty,
felly mae pob plentyn yn gallu helpu i wneud yr ysgol hon yn lle hyfryd.
Amen.

