Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Cynradd
TEULU
gan Janice Ross
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Dathlu Wythnos Genedlaethol y Teulu, adeg i hybu a dathlu bywyd teuluol (31 Mai – 6 Mehefin 2010).
Paratoad a deunyddiau
- Fe fydd arnoch chi angen llwytho i lawr y clip fideo oddi ar y wefan www.nationalfamilyweek.co.uk/2009_showcase_video/ a’i ddangos (gwelwch pwynt 3.)
Gwasanaeth
- Cyflwynwch y testun am deuluoedd. Gallwn ddisgrifio teulu fel grwp o bobl, sy’n byw gyda’i gilydd, ac fel arfer yn perthyn i’w gilydd, ac sy’n caru ei gilydd. Gofynnwch i rai o’r plant ddweud wrthych chi faint o aelodau sy’n rhan o’u teulu. (Byddwch yn ofalus o’r gwahanol ddiwylliannau all fod yn bresennol yn eich cynulleidfa o blant, ac yn sensitif o deuluoedd lle bu ysgariad neu wahanu, a hefyd o gartrefi lle mae dim ond un rhiant.)
- Pa fath o bethau y mae teuluoedd yn hoffi eu gwneud? Rhowch gyfle i rai plant ddweud beth yw eu hoff weithgareddau nhw fel teulu.
Eglurwch fod bywyd teuluol yn aml yn gallu bod yn brysur. Bydd y ddau rant o bosib yn mynd o’r cartref i weithio. Weithiau, fe fydd gwaith ganddyn nhw i’w wneud gyda’r nos hefyd. Bydd y plant yn perthyn i wahanol glybiau a bydd y rhieni yn gorfod eu danfon a’u casglu o wahanol leoedd. Ac, ar ben hynny, mae’r busnes gwaith cartref ’ma! Weithiau, does dim amser i wneud pethau yr ydym yn mwynhau eu gwneud gyda’n gilydd. - Eglurwch mai’r rheswm ein bod yn trafod teuluoedd y diwrnod hwnnw yw am ei bod hi’n Wythnos Genedlaethol y Teulu. Mae hwn yn gyfnod pryd y cawn ein hannog i arafu dipyn ar ein bywydau prysur a dathlu pa mor dda yw cael bod yn perthyn i deulu. Mae Wythnos Genedlaethol y Teulu yn ein hannog, rhywdro yn ystod yr wythnos hon, i neilltuo amser i wneud rhyw weithgaredd fel teulu.
Yn y flwyddyn 2009 y cafwyd y dathliad cyntaf o Wythnos Genedlaethol y Teulu, ac yn awr rydym am edrych ar glip fideo sy’n dangos beth oedd teuluoedd ar draws y wlad yn ei wneud. Edrychwch a gwrandewch yn ofalus, a nodwch faint o wahanol weithgareddau fedrwch chi eu gweld.
Dangoswch y fideo oddi ar y wefan uchod. - A yw’r plant yn gallu rhestru’r gweithgareddau a ddangoswyd? Pa weithgareddau fyddai angen diwrnod heulog braf? Pa rai fyddai angen diwrnod cyfan? Pa rai fyddai angen llawer o waith trefnu arnyn nhw? Arian? Awr o amser? Hanner awr? Nodwch bwysigrwydd treulio amser o ansawdd.
- Gofynnwch i’r plant sôn wrth eu teuluoedd am y syniad o gael Wythnos Genedlaethol y Teulu. Efallai y byddai modd iddyn nhw gymryd cyfrifoldeb i drefnu rhywbeth y byddai eu teulu yn gallu ei wneud â’i gilydd: gêm, pryd o fwyd arbennig, mynd am dro, cael stori, neu edrych ar ffilm.
Amser i feddwl
Treuliwch ychydig funudau yn meddwl am eich teulu. Meddyliwch am rywbeth wnaethoch chi fwynhau ei wneud â’ch gilydd yn ddiweddar.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Diolch i ti am ein teuluoedd.
Diolch i ti eu bod yn arbennig i ni.
Diolch i ti fod gennym bobl yn ein teuluoedd sy’n ein caru ni,
a phobl yr ydym ni’n eu caru nhw.
Diolch i ti am gael bod yn perthyn.
Diolch i ti am yr adegau hapus yr ydym yn eu treulio gyda’n gilydd.
Emyn

