Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
DYDD GWYL DEWI
1 Mawrth
gan Rebecca Parkinson
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Nod
Egluro tarddiad Dydd Gwyl Dewi, a darganfod pwy oedd Dewi Sant, nawddsant Cymru.
Paratoad a deunyddiau
- Cenhinen a chennin Pedr.
Os na allwch ddod â’r rhain i’r gwasanaeth, fe allech chi ddangos y lluniau sydd i’w cael ar y gwefannau canlynol:
http://ecochildsplay.com/wp-content/uploads/2008/04/05-31-2006nf_31leeksbgrg1t4laa1.jpg
http://theflowerstation.com/wp-content/uploads/2009/03/daffodil1.jpg. - Dewisol: dangoswch y llun sydd i’w gael yma, pan fyddwch chi wedi cyrraedd cam 6, http://cache.daylife.com/imageserve/0cAC5QwcLE4En/340x.jpg.
Gwasanaeth
- Holwch y myfyrwyr beth sy’n gyffredin rhwng y genhinen a’r daffodil. Mae’n debyg y byddan nhw’n gallu dweud wrthych chi bod y ddau beth yn cael ei ddefnyddio fel arwyddluniau cenedlaethol i Gymru.
- Mae’r diwrnod cyntaf o fis Mawrth yn ddydd gwyl ein nawddsant, Dydd Gwyl Dewi Sant. Ond pwy oedd Dewi, a pham y caiff y cennin a’r daffodil eu cysylltu ag ef?
- Cafodd Dewi ei eni tua’r flwyddyn AD 500, ac yn ôl y sôn bu fyw’n hen iawn. Mae llawer o storïau’n cael eu cysylltu â Dewi, ac fe wyddom iddo fod yn bregethwr enwog ac athro a fu’n teithio ledled Cymru yn addysgu’r bobl am Gristnogaeth ac fe sefydlodd fynachlogydd yn y mannau lle bu. Mae ambell stori amdano’n creu gwyrthiau. Y wyrth fwyaf enwog sy’n gysylltiedig â’i enw yw’r hanes amdano’n annerch tyrfa fawr un tro a’r bobl yn y cefn yn cwyno nad oedden nhw’n ei weld. Yn ôl y stori, fe gododd y tir o dan ei draed a ffurfio bryn, ac wedi hynny roedd pawb yn gallu ei weld.
- Ar ei wely angau, fe ynganodd Dewi’r geiriau, ‘Gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.’ Caiff y geiriau hyn eu hailadrodd yn aml gan bobl Cymru ar Ddydd Gwyl Dewi.
- Ar Ddydd Gwyl Dewi, fe fydd llawer o bobl yng Nghymru a Chymry ledled y byd yn gwisgo cenhinen neu ddaffodil i ddathlu’r diwrnod. Credir bod y genhinen wedi dod yn arwyddlun i Gymru yn dilyn digwyddiad pan ofynnwyd i filwyr y fyddin Gymreig wisgo cenhinen ar eu helmed i’w gwahaniaethu oddi wrth y gelyn – y Saeson – a oedd yn gwisgo dillad tebyg iddyn nhw. A chredir mai mewn cae yn llawn o gennin y digwyddodd y frwydr.
- Heddiw, y genhinen yw’r arwyddlun ar y bathodyn sydd ar gapiau milwyr yn y gatrawd Gymreig, ac mae’r genhinen i’w gweld yn amlwg iawn hefyd mewn gemau rygbi rhyngwladol. (Dewisol: dangoswch y llun sydd i’w weld ar y wefan yma: http://cache.daylife.com/imageserve/0cAC5QwcLE4En/340x.jpg.)
- Yn ddiweddar mae mwy o bobl yn dewis gwisgo’r daffodil, sy’n haws i’w wisgo, yn fwy dymunol ac yn arogli’n well! Mae’n ddiddorol sylwi mai’r enw Cymraeg arall ar y daffodil yw cenhinen bedr.
- Diddorol hefyd yw sylwi fod blodau neu blanhigion i’w gweld fel arwyddluniau sy’n cynrychioli gwahanol wledydd y Deyrnas Unedig: Lloegr – rhosyn; Yr Alban – ysgallen; Cymru – daffodil; Gogledd Iwerddon – y siamroc.
Amser i feddwl
Treuliwch foment yn meddwl am y geiriau a ddywedodd Dewi Sant cyn iddo farw:
‘Byddwch lawen a chedwch eich ffydd a’ch cred, a gwnewch y pethau bychain a glywsoch ac a welsoch gennyf fi.’
Weithiau, fe allwn ni fod yn rhy brysur yn gwneud y pethau ‘mawr’ yn ein bywydau – arholiadau, dilyn ein gyrfa, pryderu am arian, ac ati – nes ein bod yn anghofio gwneud y ‘pethau bychain’. Oes rhai pethau bach y dylech chi fod yn ei wneud – gofalu am rywun, cymodi â rhywun ar ôl cweryla, dweud ei bod hi’n ddrwg gennych chi, bod yn garedig, annog rhywun? Yn aml iawn, y pethau bach y byddwn ni’n eu gwneud sy’n gwneud y mwyaf o wahaniaeth.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Helpa ni i beidio ag anghofio bod pobl eraill yn bwysig. Helpa ni i dreulio ychydig o amser bob dydd yn gwneud rhywbeth bach sy’n gallu gwneud gwahaniaeth mawr i rywun arall. Helpa ni bob amser i chwilio am gyfle i annog pobl eraill ac am gyfle i fod yn garedig. Helpa ni i beidio â bod yn rhy brysur i helpu pobl eraill.
Emyn
Cerddoriaeth ychwanegol a awgrymir
‘Chwaraewch recordiad o gôr Cymreig yn canu ‘Dros Gymru’n gwlad’ geiriau Lewis Valentine, ar y dôn Finlandia gan Sibelius, neu unrhyw gerddoriaeth wladgarol arall addas ar gyfer dydd ein nawddsant yng Nghymru.

