Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
DYMA GARIAD ... YR HYN YW, A’R HYN NAD YDYW!
gan Stuart Kerner
Addas ar gyfer yr Ysgol Gyfan
Nod
Mewn ffordd ysgafn, ystyried y rhesymeg sydd y tu ôl i draddodiadau Dydd Gwyl Sant Ffolant, a natur cariad Cristnogol.
Paratoad a deunyddiau
- Fe fyddwch chi angen: dau domato, pedwar darn bach o bapur a phedair beiro neu bensel, a bocs neu gynhwysydd bach.
- Deg myfyriwr i gymryd rhan: chwe bachgen, pedair merch.
Gwasanaeth
- Oes gennych chi syniad beth yw ystyr yr ymadroddion hyn?
Ana Behibak (i fachgen) (Arabeg)
Ami tomAy bhAlobAshi (Bengaleg)
Ik hou van jou (Isalmaeneg)
Je t’aime (Ffrangeg)
Ich liebe Dich (Almaeneg)
Ti amo (Eidaleg)
Nakupenda (Swahili)
Seni seviyorum! (Twrceg)
Rydw i’n dweud ‘Rwy’n dy garu di’ mewn gwahanol ieithoedd. Er ei fod yn un o’r ymadroddion mwyaf cyffredin, mae’n amlwg bod modd cyfleu hyn mewn nifer o wahanol ffyrdd, ac mewn nifer o wahanol fannau. - 14 Chwefror, gwyl Sant Ffolant, yw’r amser pan ddethlir cariad rhamantaidd, ac y byddwn ni’n dangos ein cariad a’n serch at ein gilydd drwy anfon cardiau, blodau a negeseuon arbennig at bobl rydym yn eu hoffi, a hynny naill ai’n gyhoeddus neu’n gyfrinachol. Rwy’n gobeithio na chawsoch chi eich siomi heddiw.
Tybed pwy gafodd y nifer mwyaf o gardiau? Tybed pwy gafodd y tedi-bêr mwyaf? Tybed a oes rhosod cochion ar ôl yn y siopau? - Yn America, rhoddir y clod i Miss Esther Howland am anfon y cerdyn Sant Ffolant cyntaf, yn y 1840au. Cyflwynwyd cardiau sant ffolant masnachol yn ddiweddarach yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a nawr, fel y Nadolig, mae’r achlysur yn un masnachol iawn.
- Mae pawb ohonom yn gobeithio y cawn ni gerdyn gan edmygydd cudd, ac mae’r papurau newydd yn llawn negeseuon. (Darllenwch ddetholiad o enghreifftiau hwyliog a difrifol, fel y rhai isod.)
Mae fy nghalon yn wag hebot ti, fel aderyn heb ei gân.
Mae dy wallt mor frown â’r siocled melysaf
Dy lygaid mor hardd â darn cain o gelf
Mae dy gyffyrddiad lleiaf yn gwneud i mi anghofio am fy mhryderon
Dyna pam mai’r unig un i mi yw ti …
Dy wên sydd fel y wawr, dy gusan fel y machlud.
Diolch am fod y ffrind a’r cymar mwyaf rhyfeddol.
Petai 36 awr yn y diwrnod, fe dreuliwn 12 awr yn casglu blodau i ti,
Petai gennym ni 48 awr, fe fyddai bywyd yn siwr o fod yn wych,
A phetai gennym ni 72 awr?
Fe fyddwn i’n dringo i gopa mynydd i ddweud wrth y byd fy mod i’n dy garu di,
Ond … dim ond 24 awr sydd gennym ni,
Sy’n golygu y bydd yn rhaid i mi gadw’r neges yn fyr,
A threulio pob awr werthfawr gyda thi,
Heddiw ac am byth.
Fy nghyw bach i
Dydd Sant Ffolant hapus, gan anfon llawer o gusanau a phinsiadau bach slei ar dy ben ôl,
Fe fydd lle i ti yn fy nghalon bob amser. XXXXXX
Gobeithio y gwnaiff hwn stopio dy swnian … na, o ddifrif, rwyt ti’n werth y byd, cariad!
- Roedd fersiwn gynnar o Ddydd Sant Ffolant yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig. Yn y Rhufain hynafol, roedd 14 Chwefror yn wyl er anrhydedd i Juno. Juno oedd brenhines duwiau a duwiesau’r Rhufeiniaid. Roedd y diwrnod canlynol, 15 Chwefror, yn nodi dechrau Gwyl Lupercalia.
- Fe hoffwn i nawr gynnal arbrawf cymdeithasol. (Codwch y tomato.) Yn gyntaf, rwyf eisiau i fachgen ddal y tomato hwn. (Rhowch y tomato i fyfyriwr sy’n gwirfoddoli, a gofyn iddo sefyll wrth eich ymyl gyda’r tomato yn ei law.)
Yn nesaf, rwyf eisiau i bedair merch ysgrifennu eu henwau ar y darnau hyn o bapur. (Rhowch y papurau a’r beiros i’r merched. Tra byddan nhw’n ysgrifennu eu henwau, rhowch y cyfarwyddyd nesaf.)
Fe hoffwn i fachgen arall ddal yr ail domato. (Rhowch yr ail domato i’r myfyriwr, a gofyn iddo yntau sefyll wrth eich ymyl gyda’r tomato yn ei law.)
Cyn i’r merched ddychwelyd i’w lleoedd, rwyf eisiau i chi wneud un peth arall (cyfeiriwch at y ddau fachgen gyda’r ddau domato). Fe hoffwn i chi roi’r tomato i un o’r pedair merch yma. Fe gewch chi ddewis yr un ferch, neu fe allech chi ddewis dwy ferch wahanol.
Pan fyddwch chi wedi gwneud hynny, fe gaiff y chwech ohonoch chi ddychwelyd i’ch llefydd. - Da iawn. Dyna ran gyntaf yr arbrawf wedi ei chwblhau. Gadewch i ni symud at yr ail ran.
Rwyf angen pedwar gwirfoddolwr arall, pob un ohonyn nhw’n wryw. (Tra bydd pedwar gwirfoddolwr newydd yn dod i’r tu blaen, plygwch y darnau o bapur yr ysgrifennwyd enwau’r merched arnyn nhw, a’u rhoi nhw’n ofalus yn y cynhwysydd.)
Os hoffai pob un ohonoch chi gymryd un darn o bapur o’r cynhwysydd, agorwch nhw, a darllenwch yr enw sydd wedi ei ysgrifennu arno. (Tra bod yr enwau’n cael eu darllen, cydnabyddwch y merched unigol, sydd nawr yn eistedd yn y gynulleidfa. Gofynnwch i’r rhai a gafodd y tomatos eu codi nhw. Cadwch y pedwar bachgen yn y blaen.) - Rydym newydd ail-greu rhan o wyl Lupercalia y Rhufeiniaid. Fe wnes i hepgor yn fwriadol y rhannau lle’r oedd y Rhufeiniaid yn aberthu gafr a chi, a hefyd y rhannau pan oedd dynion ifanc, sengl yn slapio merched ifanc sengl gyda stribedi o groen gafr!
Diben yr wyl oedd paru dynion a merched ifanc sengl ar gyfer y flwyddyn ganlynol. Y ferch yr oedd y bachgen yn tynnu ei henw o’r cynhwysydd oedd ei gariad ar gyfer cyfnod yr wyl, ac am hyd at flwyddyn wedi hynny … a dim dadlau! Mae hynny’n golygu y byddai (enwch un o’r bechgyn a wirfoddolodd) yn bartner i (enw merch) am y flwyddyn, ac yn y blaen.
Roedd bechgyn a merched ifanc fel arfer yn cael eu cadw ar wahân trwy reolau llym pan oedden nhw’n tyfu, ond roedd y paru hwn drwy dynnu enwau o gynhwysydd yn draddodiad ar gyfer pobl ifanc pan oedden nhw’n hyn. Ar noswyl Lupercalia, roedd enwau merched Rhufeinig yn cael eu hysgrifennu ar ddarnau o bapur a’u rhoi mewn jariau. Fe fyddai pob dyn ifanc yn tynnu enw merch o’r jar, ac fe fydden nhw wedyn yn bartneriaid ar gyfer yr holl wyl ac weithiau am gyfnod hirach, hyd at flwyddyn gyfan. Yn aml, fe fydden nhw’n ffoli ar ei gilydd ac yn ddiweddarach yn priodi. - At y ddefod hon, fe wnes i ychwanegu traddodiad Dydd Sant Ffolant o’r Canol Oesoedd. Nid oedd y tomato yn cael ei fwyta. Addurn yn unig oedd, ac roedd yn cael ei alw’n afal serch. Fe roddai bachgen ifanc afal serch i’w gariad ar Ddydd Sant Ffolant, ac fe fyddai hithau yn ei drysori nes y byddai’r ffrwyth wedi mynd yn hen ac wedi crebachu.
Amser i feddwl
I’r rhan fwyaf ohonom, tipyn o hwyl yw Dydd Gwyl Sant Ffolant. Mewn ffordd, mae’n brofiad dysgu arall: dysgu sut i ymwneud â’n gilydd fel rhywbeth mwy na dim ond ffrindiau.
Ond beth yw cariad? Mae’r un gair hwn, cariad, yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio amrywiaeth eang o berthnasoedd gwahanol:
cariad rhwng mam a’i phlentyn
cariad brawdol
cariad aberthol
cariad dros wlad
cariad dros dîm
cariad at anifail anwes
yn ogystal â chariad rhywiol.
Dyma’r glud sy’n helpu i gadw perthynas gyda’i gilydd.
Ysgrifennodd Sant Paul ddisgrifiad o’r hyn yr oedd cariad yn ei olygu iddo ef fel aelod Cristnogol o’r un gymdeithas Roegaidd-Rufeinig y deilliodd defod ein gwyl ohoni. Mae’r disgrifiad i’w gael mewn llythyr a ysgrifennodd at bobl yn ninas Corinth, ac mae’n rhan o’r Testament Newydd yn y Beibl. Y dyddiau hyn, mae’n cael ei ddefnyddio’n aml mewn priodasau, gan ei fod yn cynnwys llawer o synnwyr da ar gyfer rhai sy’n priodi, ond mae ei ddoethineb yn gymwys i bob perthynas. Mae’r geiriau (1 Corinthiaid 13) wedi cael eu crynhoi ychydig fel ein bod ni’n gallu clywed y cydbwysedd o’r hyn yw cariad, a’r hyn nad ydyw.
Y mae cariad yn hirymarhous; y mae cariad yn gymwynasgar;
nid yw cariad yn cenfigennu, nid yw’n ymffrostio, nid yw’n ymchwyddo.
Nid yw’n gwneud dim sy’n anweddus, nid yw’n ceisio ei ddibenion ei hun,
nid yw’n gwylltio, nid yw’n cadw cyfrif o gam;
nid yw’n cael llawenydd mewn anghyfiawnder, ond y mae’n cydlawenhau â’r gwirionedd.
Y mae’n goddef i’r eithaf, yn credu i’r eithaf, yn gobeithio i’r eithaf, yn dal ati i’r eithaf.
Nid yw cariad yn darfod byth.
Mewn gair, y mae ffydd, gobaith, cariad, y tri hyn, yn aros.
A’r mwyaf o’r rhain yw cariad.
Gweddi
Annwyl Dduw,
Mae hoffi rhywun yn dod yn naturiol.
Mae eu caru nhw’n ymddangos fymryn yn anoddach.
Mae caru yn golygu bod yn ystyriol ohonyn nhw, a’r hyn maen nhw ei eisiau, lawn gymaint â’r hyn rydym ei eisiau ein hunain.
Mae caru yn golygu gadael iddyn nhw fod yn nhw eu hunain, a’u derbyn nhw am bwy ydyn nhw.
Mae caru yn golygu dysgu sut i gywiro camgymeriadau.
Rydym yn ddysgwyr, Arglwydd,
yn dysgu byw ac yn dysgu caru.
Helpa ni wrth i ni ymddiried yn ein gilydd, a dysgu sut i garu.
Amen.
Emyn

