Y Wefan Gwasanaethau
Gwasanaethau Cyfredol - Uwchradd
DOD O HYD I’R GÊR IAWN
gan Gordon Lamont
Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3
Nod
Ystyried ein cyflymdra gweithio ein hunain a maint ein stamina, a dysgu gweithio ar ein lefel orau mewn unrhyw sefyllfa.
Paratoad a deunyddiau
- Dewch â beic gyda chi i’r gwasanaeth, un sydd â nifer dda o gêrs. Os oes digon o le yn yr ystafell, trefnwch lwybr i chi gael reidio’r beic mewn i’r gwasanaeth.
- Fe allech chi gysylltu’r gwasanaeth yma â gwasanaeth a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2009, ar gyfer Ysgolion Uwchradd, dan y pennawd PEDAL POWER, ac sydd i’w gael yn archifau’r gwasanaethau. Mae’n ymwneud â beicio a diogelwch ar y ffyrdd. Ciciwch ar y ddolen: <http://www.assemblies.org.uk/2009/jun09sec_cycling.php>
Gwasanaeth
- Dewch i mewn i’r gwasanaeth ar y beic, neu trefnwch i un o’r disgyblion wneud hynny. Reidiwch o gwmpas ar y beic am ychydig os yw’n bosib gwneud hynny. Gwisgwch helmed ac unrhyw wisgoedd priodol eraill sydd gennych chi ar gyfer beicio.
- Holwch y myfyrwyr ydyn nhw’n hoffi beicio:
– Faint ohonyn nhw sy’n berchen ar feic?
– Pwy sy’n reidio’r beic yn rheolaidd?
– At ba bwrpas maen nhw’n defnyddio’r beic – rhesymau ymarferol fel teithio i’r ysgol, gweithgaredd hamdden, rasio, neu weithgareddau beicio eraill?
– Oes gêrs ar eu beic? – Sut maen nhw’n defnyddio’r gêrs dan amodau gwahanol, fel mynd i fyny neu i lawr gelltydd, beicio yn erbyn y gwynt, codi cyflymdra ar y gwastad, ac ati? - Awgrymwch fod y gêr y byddwch chi’n ei ddewis i’r cyflymder y byddwch chi’n teithio arno, yn dibynnu ar nifer o bethau:
- pa mor gyflym rydych chi’n dymuno teithio
- cyflwr y ffordd neu’r trac (bydd ffyrdd anwastad yn eich arafu, gallwch fynd yn gyflymach ar ffyrdd llyfn)
- pa mor egnïol rydych chi’n teimlo
- y tywydd: gallwch fynd yn gyflymach pan fydd y gwynt y tu cefn i chi, gall beicio â’r gwynt yn eich erbyn beri i chi arafu, gall glaw naill ai beri ichi fynd yn gyflymach er mwyn cyrraedd pen eich taith yn gynt neu eich arafu os bydd y glaw yn taro ar eich wyneb; gall diwrnod braf godi eich ysbryd a gwneud i chi deithio’n gyflymach neu efallai y byddwch yn dymuno teithio’n arafach er mwyn gallu mwynhau’r tywydd braf. - Awgrymwch fod y rhan fwyaf o feicwyr yn gwybod wrth reddf (yn awtomatig a heb orfod meddwl llawer am y peth) faint o ymdrech sydd angen ei roi i gydbwyso’r holl wahanol amodau a nodwyd. Maen nhw’n gwybod bod gêr neilltuol ar gyfer yr holl wahanol amodau a phan fyddan nhw wedi dod o hyd iddo fe fyddan nhw’n gallu beicio’n hollol hapus nes bydd yr amodau’n newid a hwythau wedyn yn gorfod newid i gêr arall.
- Awgrymwch fod gweithio ar unrhyw dasg yn gallu bod yn debyg iawn i hyn - chwaraeon, hobi, gwaith ysgol, paratoi ar gyfer arholiad, ac ati. Mae dod i wybod beth yw eich ffordd orau o weithio, ar unrhyw bryd, yn allwedd i lwyddiant.
Amser i feddwl
Gan ystyried unrhyw brosiect rydw i’n ymwneud ag ef ar y foment, mae angen i mi feddwl am:
– beth yw’r gêr gorau i mi fod ynddo ar hyn o bryd – ar fy nghyflymaf yn y gêr uchaf, neu’n dechrau’n bwyllog mewn gêr isel?
– os ydw i’n mynd i gyrraedd lle rydw i eisiau bod, fe fydd yn rhaid i mi gyflymu rhywfaint: ydw i’n barod i newid i fyny un gêr eto?
– pan fydda i’n teimlo bod y gwaith yn galed, ydw i’n gwybod pa bryd i newid i lawr a rhoi ychydig bach mwy o ymdrech dros gyfnod hirach i wneud y gwaith?
– ydi’r stamina rydw i ei angen ar gyfer y daith gen i – os nag ydyw, pryd ydw i’n mynd i ddechrau adeiladu’r stamina hwnnw?
Gall beicio fod yn waith caled ar adegau, ond yn waith pleserus hefyd.
Fe fydd deall ein cyflymdra gweithio gorau ein hunain, a gwybod ar ba gam o’r daith yr ydyn ni, yn gallu ein helpu ni i wneud unrhyw waith yn fwy boddhaol - a llwyddiannus.

